Search Legislation

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 45 (Cy.4)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002

Wedi'i wneud

14 Ionawr 2002

Yn dod i rym

4 Chwefror 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 356(2)(c) a (5) i (8) ac adran 568(5) a (6) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yn y Cynulliad(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 4 Chwefror 2002.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion sydd ym mlwyddyn olaf y cyfnod allweddol cyntaf yn Gymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig.

(4Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion mewn Cymraeg yn dilyn rhaglen astudio a elwir “Cymraeg Ail Iaith”(3).

Diddymu

2.  Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 1997(4) yn cael ei ddiddymu.

Dehongli

3.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “a bennir” (“specified”), onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yw a bennir mewn perthynas â'r cyfnod allweddol cyntaf, gan orchymyn adran 356(2)(a) a (b);

  • ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod a elwir Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(5);

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “y dogfennau cysylltiedig” (“the associated documents”) yw'r dogfennau sy'n cael eu cyhoeddi gan yr Awdurdod, sy'n nodi'r lefelau cyrhaeddiad, y targedau cyrhaeddiad a'r rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol, sef y dogfennau sy'n cael effaith yn rhinwedd y gorchmynion adran 356(2)(a) a (b) priodol ar gyfer y pynciau hynny sydd mewn grym am y tro(6);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “gorchmynion adran 356(2)(a) a (b)” (“section 356(2)(a) a (b) orders”) yw gorchmynion sy'n cael eu gwneud o dan adran 356(2)(a) a (b) o'r Ddeddf ac sy'n pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol;

  • ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw—

    (i)

    mathemateg a gwyddoniaeth;

    (ii)

    mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg, Cymraeg; a

    (iii)

    mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg, Saesneg;

  • ystyr “TC” (“AT”) yw targed cyrhaeddiad;

  • ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r trydydd tymor mewn blwyddyn ysgol;

  • mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 350(1) o'r Ddeddf(7);

  • mae cyfeiriad at ddosbarth neu ysgol cyfrwng Cymraeg yn gyfeiriad yn eu tro at ddosbarth neu ysgol lle, mewn perthynas â disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf, addysgir mwy na hanner o'r pynciau canlynol, sef—

    (i)

    addysg grefyddol; a

    (ii)

    y pynciau heblaw Cymraeg a Saesneg sy'n bynciau sylfaen mewn perthynas â disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf,

    (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn Gymraeg;

  • rhaid dehongli cyfeiriadau at y cyfnod allweddol cyntaf yn unol â'r cyfeiriad at “the first key stage” yn adran 355 o'r Ddeddf; ac

  • onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall mae cyfeiriadau at lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yn gyfeiriadau at y lefelau, y targedau a'r rhaglenni sydd wedi'u nodi yn y dogfennau cysylltiedig.

(2Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r rhif cyfan nesaf.

(3Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.

Asesiadau athrawon

4.—(1Bydd yn ddyletswydd ar y pennaeth i wneud trefniadau i bob disgybl gael ei asesu gan athro neu athrawes ym mhob pwnc perthnasol yn ystod tymor yr haf yn unol â darpariaethau'r erthygl hon a bod cofnod o'r canlyniadau yn cael ei wneud gan yr athro hwnnw neu'r athrawes honno.

(2Diben yr asesu fydd penderfynu'r lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyrraedd ym mhob TC a bennir ar gyfer pob pwnc perthnasol sy'n gymwys i'r disgybl ac, oni bai bod erthygl 6(3) yn gymwys, yn y pwnc fel y'i cyfrifir yn unol ag erthygl 5.

(3Rhaid i'r athro neu'r athrawes asesu'r disgybl a chofnodi'r canlyniadau erbyn pythefnos cyn diwedd tymor yr haf fan bellaf.

(4Bydd y cofnod o'r canlyniadau yn cynnwys datganiad ynghylch pob lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyrraedd (p'un a yw'r lefel honno yn lefel a bennir mewn perthynas â'r cyfnod allweddol cyntaf o dan y gorchymyn adran 356(2)(a) a (b) perthnasol neu beidio) mewn perthynas â phob TC a grybwyllir ym mharagraff (2) ac, oni bai bod erthygl 6(3) yn gymwys, lefel y disgybl yn y pwnc fel y'i cyfrifir yn unol ag erthygl 5.

(5Wrth asesu disgybl yn unol â'r erthygl hon gall athro neu athrawes gymryd i ystyriaeth ganlyniadau unrhyw asesiadau blaenorol o'r disgybl (gan gynnwys asesiadau drwy gyfrwng tasgau safonol o dan y Gorchymyn sy'n cael ei ddiddymu gan erthygl 2), p'un a oedd yr asesiadau blaenorol wedi'u gwneud gan yr athro hwnnw neu'r athrawes honno neu beidio.

Penderfynu cyrhaeddiad yn ôl y pwnc: asesiadau athrawon

5.—(1Yn ddarostyngedig i erthygl 6, mae darpariaethau'r erthygl hon yn rheoli agregiad lefelau cyrhaeddiad TC sy'n cael eu penderfynu yn unol ag erthygl 4 i gyfrifo lefelau cyrhaeddiad mewn pynciau.

(2Yn achos y Saesneg, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.

(3Yn achos y Gymraeg, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC ond gyda'i lefel yn TC1 (llafar, (siarad, gwrando a gwylio)) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.

(4Yn achos mathemateg, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC ond gyda'i lefel yn TC2 (rhifau ac algebra) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.

(5Yn achos gwyddoniaeth, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC ond gyda'i lefel yn TC1 (ymchwil wyddonol) wedi'i phwysoli â ffactor o dri fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.

Disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol

6.—(1Bydd effaith i erthygl 5 mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys iddynt (gan gynnwys disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig) gyda'r addasiadau a bennir yn yr erthygl hon.

(2Os nad yw un TC mewn pwnc perthnasol yn gymwys i ddisgybl o'r fath, bydd effaith i erthygl 5 fel petai'r nifer o TC sydd yn gymwys i'r disgybl yn gyfanswm y TC yn y pwnc.

(3Os nad oes mwy nag un TC mewn pwnc perthnasol yn gymwys i ddisgybl o'r fath, ni fydd erthygl 5 yn gymwys i'r disgybl mewn perthynas â'r pwnc hwnnw a rhaid peidio â phenderfynu unrhyw lefel cyrhaeddiad ar ei gyfer mewn perthynas â'r pwnc hwnnw.

Gwerthuso trefniadau asesu

7.  Rhaid i'r Awdurdod wneud unrhyw drefniadau y maent yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol ar gyfer penderfynu i ba raddau y mae darpariaethau erthyglau 4 i 6 a'u gweithrediad yn sicrhau'r diben a grybwyllir yn erthygl 1(2).

Pwerau atodol y Cynulliad Cenedlaethol

8.  Gall y Cynulliad Cenedlaethol wneud darpariaethau o'r fath sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau sy'n cael eu gwneud gan y Gorchymyn hwn neu sy'n ychwanegu atynt fel arall (heblaw darpariaethau sy'n rhoi neu sy'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 356(5)(a) o'r Ddeddf) y mae'n ymddangos iddo eu bod yn hwylus.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

Rhodri Morgan

Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Ionawr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 356(1) a (2) o Ddeddf Addysg 1996 yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sefydlu'r Cwricwlwm Cenedlaethol drwy bennu, drwy Orchymyn, y targedau cyrhaeddiad, y rhaglenni astudio a'r trefniadau asesu y mae'n barnu eu bod yn briodol ar gyfer pob un o'r pynciau sylfaen. Mae'r ddyletswydd honno wedi'i datganoli ac i'w harfer gan y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i ysgolion yng Nghymru yn unig, yn ailddeddfu (gyda rhai newidiadau a grybwyllir isod) Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 1997. Mae'r Gorchymyn yn pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio “pynciau perthnasol” y Cwricwlwm Cenedlaethol ym mlwyddyn olaf y Cyfnod Allweddol cyntaf. Mae'r “pynciau perthnasol” wedi'u diffinio fel mathemateg, gwyddoniaeth ac, mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg (fel y'u diffinnir yn erthygl 3(1)), Cymraeg neu mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg, Saesneg.

Mae Erthygl 2 yn diddymu Gorchymyn 1997.

Mae Erthygl 3 yn diffinio'r termau sy'n cael eu defnyddio yn y Gorchymyn.

Mae Erthygl 4 yn darparu bod disgyblion yn cael eu hasesu gan athro neu athrawes ac yn nodi diben asesiadau o'r fath.

Mae Erthygl 5 yn nodi'r rheolau technegol dros benderfynu lefel cyrhaeddiad y disgyblion yn ôl pwnc.

Mae Erthygl 6 yn nodi rheolau arbennig sy'n gymwys mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys iddynt (gan gynnwys disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig).

Mae Erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer gwerthuso'r trefniadau asesu.

Mae Erthygl 8 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau sy'n cael eu gwneud gan y Gorchymyn neu sy'n ychwanegu atynt fel arall.

Yr unig newid o sylwedd sy'n cael ei wneud gan y Gorchymyn cyfredol yw'r ffaith nad yw'n darparu mwyach ar gyfer profion ar gyfer disgyblion. Gan hynny, mae erthyglau 5 a 6 o Orchymyn 1997 wedi'u hepgor.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 356 (5) ac (8) gan baragraff 87 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 568(5) gan baragraff 175 o'r Atodlen honno.

(2)

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).

(3)

Gweler O.S. 2000/1101 (Cy.79) a'r ddogfen sy'n dwyn y teitl “Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol”, ISBN 0 7504 24036.

(5)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru o dan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd i fodoli o dan adran 360 o Deddf Addysg 1996 ac fe roddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.34).

(6)

Y gorchmynion cyfredol yw O.S. 2000/1154 (Cy.85) (Saesneg), O.S. 2000/1101 (Cy.79) (Cymraeg), O.S. 2000/1100 (Cy.78) (mathemateg) ac O.S. 2000/1099 (Cy.77) (gwyddoniaeth).

(7)

Amnewidiwyd adran 350(1) gan baragraff 85 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources