2003 Rhif 1004 (Cy.144)
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 a deuant i rym ar 7 Ebrill 2003.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 20022
1
Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 20023 yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn.
2
Yn rheoliad 5 (arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) —
a
ym mharagraff (2)(b) hepgorir “ac”;
b
ym mharagraff (2)(c) yn lle “.” rhoddir “;”;
c
ar ôl paragraff (2)(c) mewnosodir yr is-baragraff canlynol —
ch
os yw person ac eithrio defnyddiwr gwasanaeth neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am gopi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth —
i
trefnu bod copi o'r fersiwn gyfredol o'r arweiniad ar gael i'w archwilio gan y person hwnnw yn y cartref gofal; neu
ii
darparu copi o'r fath i'r person hwnnw.
3
Ar ôl rheoliad 5, mewnosodir y rheoliad canlynol —
Gwybodaeth am ffioedd5A
1
Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i bob defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch—
a
y ffioedd sy'n daladwy gan y defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef am ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth unrhyw un o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau canlynol —
i
llety, gan gynnwys darparu bwyd;
ii
nyrsio;
iii
gofal personol;
b
y cyfleusterau a'r gwasanaethau y mae'r ffioedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn daladwy ar eu cyfer; ac
c
y dull ar gyfer talu'r ffioedd a'r person y mae'r ffioedd yn daladwy ganddo.
2
Yn achos defnyddiwr gwasanaeth y mae ei lety yn dechrau ar ôl 7 Ebrill 2003, rhaid darparu'r datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) ar neu cyn y dydd y daw'r person hwnnw yn ddefnyddiwr gwasanaeth.
3
Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o leiaf fis ymlaen llaw am—
a
unrhyw gynnydd yn y ffioedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(a);
b
unrhyw amrywiad yn y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(b) ac (c).
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5) —
a
os yw Awdurdod Iechyd neu Fwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu'r person cofrestredig ei fod wedi penderfynu gwneud taliad i'r person cofrestredig ar gyfer nyrsio a ddarparwyd (neu sydd i'w ddarparu) i ddefnyddiwr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o'r penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
b
os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud taliad o'r fath, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch dyddiad a swm y taliad.
5
Nid yw'r cyfeiriadau ym mharagraff (4) at daliad yn cynnwys taliad —
a
os yw'r Awdurdod Iechyd neu'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gyda'r cartref gofal ar gyfer darparu llety i'r defnyddiwr gwasanaeth; ac
b
os yw'r taliad yn ymwneud ag unrhyw gyfnod pan fo llety yn cael ei ddarparu o dan y trefniadau hynny i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.
4
Yn rheoliad 39(2)(d)yn lle “cartref plant” rhoddir “cartref gofal”.
5
Yn y fersiwn Saesneg o reoliad 39(4) yn lle “children’s home” rhoddir “care home”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)