Y cyfyngiadau os amheuir bod clefyd5
1
Os oes gan arolygydd milfeddygol seiliau rhesymol dros amau naill ai —
a
bod clefyd dynodedig yn bodoli neu wedi bodoli ar unrhyw safle (p'un a yw hysbysiad wedi'i roi o dan erthygl 4 neu beidio), neu
b
bod dofednod ar unrhyw safle wedi bod yn agored i risg clefyd dynodedig,
c
rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraff (3), gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y safle neu i geidwad unrhyw adar ar y safle yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
2
Os oes gan arolygydd milfeddygol seiliau rhesymol dros amau bod adar ar unrhyw safle wedi bod yn agored i risg unrhyw glefyd, caiff gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y safle neu i geidwad unrhyw adar ar y safle yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
3
Yn achos unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan baragraffau (1)(b) neu (2) caiff arolygydd milfeddygol—
a
datgymhwyso un neu fwy o'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn,
b
cyfyngu ar y gofynion sy'n gymwys i ran o'r safle ac i'r adar sydd wedi'u cynnwys yno, ar yr amod bod yr adar wedi'u lletya, eu cadw a'u bwydo yno ar wahân i adar sydd wedi'u cadw mewn rhannau eraill o'r safle ac wedi'u cadw a'u bwydo gan staff gwahanol.
4
At ddibenion paragraff (1)(a) mae “arolygydd milfeddygol” yn cynnwys arolygydd.
5
Yn yr erthygl hon, mae bod yn agored i risg clefyd yn cynnwys bod yn agored, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o ganlyniad i symudiad personau, anifeiliaid neu gerbydau, neu mewn unrhyw ffordd arall.