Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 1718 (Cy.185) (C.72)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

9 Gorffennaf 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(3), (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003.

2.  Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig (ac eithrio mewn perthynas ag adrannau 139 a 197).

3.  Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Diwrnodau penodedig

4.  1 Awst 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

5.  1 Medi 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

6.  1 Tachwedd 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2003

Erthyglau 4, 5 a 6

YR ATODLEN

RHAN IY darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Awst 2003

Y ddarpariaethY pwnc
Adrannau 60 i 64

Pwerau ymyrryd —

Awdurdodau addysg lleol

Adran 178(1) a (4)Arolygiadau ardal
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isodDiddymiadau

Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —

Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(3), adran 28Q(12),

Deddf Addysg 1996(4), adrannau 483(3A), 483A(7), 490, 497A(3), yn adran 580, y cofnodion sy'n ymwneud â “city academy”, “city college for the technology of the arts”, “city technology college”,

Deddf Dysgu a Medrau 2000(5), Atodlen 8.

Diddymiadau

RHAN IIY darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2003

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 19(6) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isodCyrff llywodraethu
Adrannau 27 a 28Pŵer corff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol
Adran 29Swyddogaethau ychwanegol cyrff llywodraethu
Adran 40 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 3 isodDiwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Adran 136Addysg bellach : darparu addysg
Adran 137Penaethiaid sefydliadau addysg bellach
Adran 138Hyfforddiant mewn darparu addysg bellach
Adran 139Cymru : darparu addysg uwch
Adran 140Addysg bellach : cyffredinol
Adrannau 181 i 185Lwfansau ar gyfer addysg neu hyfforddiant
Adran 197Cytundebau a datganiadau partneriaeth
Adran 199Cludiant ar gyfer personau dros oedran ysgol gorfodol
Adran 202Sefydliadau addysg bellach : cofnodion
Adran 203Sefydliadau addysg bellach : deunydd peryglus, etc
Adran 206Niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysg
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isodMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isodDiddymiadau
Atodlen 1, paragraff 3(1) (ac eithrio paragraff (a)) ac is-baragraffau (3) i (8) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r pŵer a roddir gan is-baragraff (1)(b)Cyrff llywodraethu
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Atodlen 19Cludiant ar gyfer personau dros oedran ysgol gorfodol
Atodlen 20Niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysgol
Atodlen 21,Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 4,
Paragraff 34
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymuDiddymiadau
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(6), adran 40,
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(7), yn Atodlen 8, paragraff 90,
Deddf Addysg 1996, adran 509(6), ac yn Atodlen 37, paragraff 55,
Deddf Addysg 1997(8), yn Atodlen 7, paragraff 9(3),
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(9)), yn Atodlen 30, paragraff 133(b).

RHAN IIIY darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Tachwedd 2003

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 43Fforymau Ysgol

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Awst 2003, 1 Medi 2003 ac 1 Tachwedd 2003, y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau I i III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen —

  • Mae adrannau 60 i 64 yn ymwneud â phwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) i gyfarwyddo AALl.

  • Mae adran 60 yn diwygio adran 497A o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996) fel bod modd i gyfarwyddyd gyfeirio at holl swyddogaethau AALl; fel bod modd gwneud cyfarwyddyd pellach pan ddaw un blaenorol i ben os caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei fodloni, pe na bai'n gwneud cyfarwyddyd pellach, na fyddai'r AALl yn cyflawni'r swyddogaeth o dan sylw i safon ddigonol; fel bod modd i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo AALl i gymryd camau mwy penodol; ac yn y fath fodd ag i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyfarwyddo bod swyddogaeth i'w harfer ganddo neu gan ei enwebai. Mae adran 61 yn mewnosod adran 497AA newydd o Ddeddf 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl gydweithredu â'r Cynulliad Cenedlaethol, neu ei enwebai, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried gwneud cyfarwyddyd. Mae adran 62 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 497B o Ddeddf 1996. Mae adrannau 63 a 64 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol o dan amgylchiadau penodol i gyfarwyddo AALl i gael cyngor oddi wrth berson penodedig.

  • Mae adran 178(1) a (4) yn diwygio Deddf Dysgu a Medrau 2000 i estyn ystod arolygiadau ardal at bersonau sydd dros 14 oed.

  • Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen —

  • Mae adran 27 yn galluogi corff llywodraethu ysgol a gynhelir i ddarparu cyfleusterau neu wasanaethau er budd y gymuned. Mae adran 28 yn gosod terfynau ar arfer y pŵer hwn. Mae adran 19(6) ac Atodlen 1, paragraff 3(1), (3) i (8), ac adran 40 ac Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 yn gwneud darpariaeth sy'n dilyn fel canlyniad i gyflwyno'r pŵer hwn.

  • Mae adran 29 yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, adran 39 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998). Roedd adran 39(1) o Ddeddf 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydlu gweithdrefn cwyno yn unol â rheoliadau, ond ni wnaethpwyd rheoliadau o dan yr adran honno. Mae adran 29(1) a (2) nawr yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gael gweithdrefn cwyno fel y'i nodir yn yr adran ac yn unol â chyfarwyddyd. Mae adran 29(3) a (4) yn rhoi pŵer i gorff llywodraethu i'w gwneud yn ofynnol i ddisgyblion fynd i unrhyw le y tu allan i'r ysgol at ddibenion y cwricwlwm. Mae adran 29(5) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu a phennaeth gydymffurfio â chyfarwyddiadau AALl mewn perthynas â iechyd a diogelwch.

  • Mae adrannau 136 i 140 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ynglŷn â chymwysterau athrawon a phenaethiaid addysg bellach, mewn perthynas â chyrsiau sy'n arwain at gymwysterau o'r fath ac mewn perthynas â darparu cyrsiau addysg uwch mewn sefydliadau addysg bellach.

  • Mae adrannau 181 i 185 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu lwfansau i bersonau cymwys dros oedran ysgol gorfodol sy'n cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant nad yw'n addysg uwch.

  • Mae adran 197 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl a chyrff llywodraethu wneud cytundebau partneriaeth, sy'n nodi sut y byddant yn cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag ysgol.

  • Mae adran 199 ac Atodlen 19 yn diwygio darpariaethau Deddf 1996 ynglŷn â chludiant. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i AALl baratoi datganiad polisi sy'n nodi eu trefniadau ar gyfer darparu cludiant ar gyfer dysgwyr ôl-16 neu gefnogaeth ar gyfer cludiant o'r fath.

  • Mae adran 202 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ynglŷn â chofnodion addysgol sefydliadau addysg bellach.

  • Mae adran 203 yn cynnwys pwerau i wneud rheoliadau ynglŷn â defnyddio offer a deunyddiau peryglus mewn sefydliadau addysg bellach.

  • Mae adran 206 ac Atodlen 20 yn diwygio Deddf 1996 a Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i estyn y darpariaethau ynglŷn â niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd addysgol i ysgolion arbennig na chynhelir mohonynt, ysgolion annibynnol, safleoedd sy'n cael eu darparu gan AALl ar gyfer hyfforddiant mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â chwaraeon, gweithgareddau adloniadol neu weithgareddau awyr agored ac i sefydliadau o fewn y sector addysg bellach.

  • Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen —

  • Mae adran 43 yn mewnosod adran 47A newydd o Ddeddf 1998, sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALl sefydlu fforymau ysgol. Bydd y rhain yn cynrychioli cyrff llywodraethu a phenaethiaid ac yn cynghori'r AALl ar faterion sy'n ymwneud â'i gyllideb ysgolion.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 14 i 1731 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 18(2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 4919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 54 i 5619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 75 (yr rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 97 a 9819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 99(1)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 100 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301))
Adran 101 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 105 i 10719 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 108 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 111 i 11819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1191 Hydref 20022002/2439
Adran 120(1) a (3) i (5)1 Hydref 20022002/2439
Adran 1211 Hydref 20022002/2439
Adran 130 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
Adran 13119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 132 a 13319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 134 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 13519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 14119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 142 i 14431 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 14519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 146 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 148 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 14931 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 15031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 151(2)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 152 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 179 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 18019 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 188 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 189 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 191 i 19419 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 195 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn llawn)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 19619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 20031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 201 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 215 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15.19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 111 Hydref 20022002/2439
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 719 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Paragraff 12(1) a (2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 16, paragraffau 4 i 919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 731 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 1531 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 181 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 21 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 22 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)9 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018, O.S. 2002/2439, O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124 ac O.S. 2003/1115.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources