Search Legislation

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 1853 (Cy.203)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

16 Gorffennaf 2003

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985(1) sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 31 Gorffennaf 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Corff a bennir

2.  Pennir Blemain Finance Ltd (Rhif cwmni 1185052) yn sefydliad benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156(3) o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu Blemain Finance Ltd (Rhif cwmni 1185052) fel sefydliad benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu), yn ogystal â'r cyrff hynny sydd eisoes wedi'u pennu gan yr adran honno neu mewn Gorchmynion blaenorol.

Mae adran 156 yn darparu bod yr atebolrwydd i ad-dalu gostyngiad a all godi o dan gyfamod gan y tenant sy'n ofynnol o dan adran 155 o Ddeddf 1985 yn gyfystyr ag arwystl cyfreithiol ar y tŷ annedd ond bod gan arwystl cyfreithiol, sy'n sicrhau swm sy'n cael ei fenthyca i'r tenant gan sefydliad benthyca cymeradwy er mwyn galluogi'r tenant i arfer yr hawl i brynu, flaenoriaeth drosto.

At ddibenion yr adran mae sefydliadau benthyca cymeradwy yn gymdeithasau adeiladu, yn fanciau, yn gwmnïau yswiriant, yn gymdeithasau cyfeillgar ac yn unrhyw gorff arall a bennir, neu y pennir ei ddosbarth neu ei ddisgrifiad, mewn gorchymyn a wneir, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r cyrff hyn hefyd yn dod yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig).

Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A o'r Ddeddf honno at achosion lle diogelir hawl tenant i brynu a chan adran 17 o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle mae gan denant hawl i gaffael o dan adran 16 o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff a bennwyd yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion yr hawliau hynny.

(1)

1985 p.68; diwygiwyd adran 156(4) gan Ddeddf Tai 1988 (p.50), Atodlen 17, paragraff 106 a chan Ran XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 (p.52).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Diwygiwyd adran 156 hefyd gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), Atodlen 5, paragraff 1(2) a (5) a chan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai, Datblygu Trefol 1993 (p.28).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources