Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall,

ystyr “arweiniad plant” (“children’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(3);

mae “asesu” neu “asesiad” (“assessment”) i'w dehongli yn unol â rheoliad 27(1);

ystyr “asiantaeth faethu annibynnol” yw asiantaeth faethu o fewn ystyr “independent fostering agency” yn adran 4(4)(a) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol mewn cysylltiad â lleoli plant gyda rhieni maeth);

ystyr “awdurdod ardal” (“area authority”) yw'r awdurdod lleol y mae plentyn wedi'i leoli yn ei ardal mewn unrhyw achos lle nad yw'r awdurdod lleol hwnnw yn awdurdod sy'n gyfrifol am y plentyn;

ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”), mewn perthynas â phlentyn, yw'r awdurdod lleol neu'r corff gwirfoddol yn ôl fel y digwydd, sy'n gyfrifol am leoli'r plentyn;

ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;

ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth fel rhiant maeth yn unol â rheoliad 28 a dehonglir cyfeiriadau at berson sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â hynny;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mai i “cytundeb gofal maeth” (“foster care agreement”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 28(5)(b);

mae i “cytundeb lleoliad maeth” (“foster placement agreement”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 34(3);

ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”) mewn perthynas ag asiantaeth faethu yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg asiantaeth faethu(1);

ystyr “darparydd gwasanaeth maethu” (“fostering service provider”)—

(a)

mewn perthynas ag asiantaeth faethu, yw person cofrestredig; neu

(b)

mewn perthynas â gwasanaeth maethu awdurdod lleol, yw awdurdod lleol;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig sy'n cael ei lunio yn unol â rheoliad 3(1);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “gwasanaeth maethu” (“fostering service”) yw—

(a)

asiantaeth faethu o fewn ystyr “fostering agency” yn adran 4(4) o Ddeddf 2000; neu

(b)

gwasanaeth maethu awdurdod lleol;

ystyr “gwasanaeth maethu awdurdod lleol” (“local authority fostering service”) yw cyflawni swyddogaethau maethu perthnasol gan awdurdod lleol o fewn ystyr “relevant fostering functions” yn adran 43(3)(b) o Ddeddf 2000;

ystyr “lleoliad” (“placement”) yw unrhyw leoliad plentyn sy'n cael ei wneud gan—

(a)

awdurdod lleol o dan adran 23(2)(a) o Ddeddf 1989 neu gorff gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf 1989 nad yw—

(i)

yn lleoliad gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf honno; na

(ii)

yn lleoliad ar gyfer mabwysiadu; a

(b)

ac eithrio yn Rhan V o'r Rheoliadau hyn mae'n cynnwys lleoliad sy'n cael ei drefnu gan asiantaeth faethu annibynnol sy'n gweithredu ar ran awdurdod lleol; ac mae cyfeiriadau at blentyn sy'n cael ei leoli i'w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “panel maethu” (“fostering panel”) yw panel sy'n cael ei sefydlu yn unol â rheoliad 24;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) mewn perthynas ag asiantaeth faethu yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig yr asiantaeth faethu;

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”) mewn perthynas ag asiantaeth faethu yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000 fel rheolwr yr asiantaeth faethu;

mae “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw person y mae plentyn wedi'i leoli gydag hwy neu y gellir ei leoli gyda hwy o dan y Rheoliadau hyn, ac eithrio yn Rhannau IV a V o'r Rheoliadau hyn lle nid yw'n cynnwys unrhyw berson y mae plentyn yn cael ei leoli gyda hwy gan awdurdod lleol o dan reoliad 38(2);

ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â gwasanaeth maethu—

(a)

os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal y mae'r gwasanaeth maethu wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;

(b)

mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.

mae “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 5(2)(b)(i);

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cyffredinol sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau meddygol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2);

(b)

yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(3); neu

(c)

sy'n darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac eithrio yn unol â'r Ddeddf honno;

mae i “ymholiadau amddiffyn plant” yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 12(4).

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â gwasanaethau maethu sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad

(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

(4Yn y Rheoliadau hyn, oni fwriedir fel arall, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—

(a)cyflogi person boed am dâl neu beidio;

(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau;

(c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;

ond nid ydynt yn cynnyws caniatáu i berson weithredu fel rhiant maeth, ac mae cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi i'w dehongli yn unol â hynny.

Datganiad o ddiben ac arweiniad plant

3.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio, mewn perthynas â'r gwasanaeth maethu, ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y “datganiad o ddiben”) a rhaid iddo gynnwys—

(a)datganiad o nodau ac amcanion y gwasanaeth maethu; a

(b)datganiad ynghylch y gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd i'w darparu gan y gwasanaeth maethu.

(2Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, os gofynnir amdano, i'w archwilio gan—

(a)unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth maethu;

(b)unrhyw riant maeth neu ddarpar riant maeth y gwasanaeth maethu;

(c)unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhiant maeth gan y gwasanaeth maethu; ac

(ch)rhiant unrhyw blentyn o'r fath.

(3Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth maethu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel yr “arweiniad plant”) a rhaid iddo gynnwys—

(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben;

(b)crynodeb o'r weithdrefn a sefydlwyd;

(i)yn achos asiantaeth faethu annibynnol, o dan reoliad 18(1);

(ii)yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, o dan adran 26(3) o Ddeddf 1989; a

(iii)yn achos asiantaeth faethu sy'n dod o fewn adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000, o dan adran 59(4)(b) o Ddeddf 1989(4);

(c)cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; ac

(ch)cyfeiriad a rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru(5).

(4Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu copi o'r arweiniad plant i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, i bob rhiant maeth sydd wedi'i gymeradwyo gan y darparydd gwasanaeth maethu ac (yn dibynnu ar oedran a dealltwriaeth y plentyn) i bob plentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau bod y gwasanaeth maethu yn cael ei redeg bob amser mewn ffordd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.

(6Ni fydd dim ym mharagraff (5) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dorri'r darpariaethau canlynol, na pheidio â chydymffurfio â hwy nac yn ei awdurdodi i wneud hynny—

(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)yn achos asiantaeth faethu, unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o Ddeddf 2000.

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant

4.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu—

(a)cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant o dan sylw ac, os yw'n briodol, eu diwygio; a

(b)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod; ac

(c)darparu, os yw'r arweiniad plant wedi'i adolygu, gopi ohono i bob rhiant maeth sydd wedi'i gymeradwyo gan y darparydd gwasanaeth maethu ac (yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth y plentyn), i bob plentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd hwnnw.

RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG A RHEOLI GWASANAETH MAETHU AWDURDOD LLEOL

Yr asiantaeth faethu — ffitrwydd y darparydd

5.—(1Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth faethu oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth faethu oni bai bod y person—

(a)yn achos asiantaeth faethu annibynnol, yn unigolyn sy'n rhedeg yr asiantaeth faethu; neu

(b)yn gorff a—

(i)bod y corff wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a safle unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) yn y corff a hwnnw'n unigolyn sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth yr asiantaeth faethu; a

(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

(3Y gofynion yw:

(a)bod yr unigolyn yn onest ac o gymeriad da;

(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth faethu; ac

(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r unigolyn mewn perthynas â phob mater a bennir yn Atodlen 1.

(4Rhaid i berson peidio â rhedeg asiantaeth faethu—

(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu

(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.

Yr asiantaeth faethu — penodi rheolwr

6.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn, ac eithrio'r darparydd cofrestredig, i reoli'r asiantaeth faethu.

(2Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid iddo beidio â phenodi yn rheolwr yr unigolyn cyfrifol.

(3Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—

(a)o enw unrhyw berson a benodwyd yn unol â'r rheoliad hwn; a

(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i ddod yn effeithiol.

Yr asiantaeth faethu — ffitrwydd y rheolwr

7.—(1Rhaid i berson beidio â rheoli asiantaeth faethu oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth faethu oni bai—

(a)bod y person yn onest ac o gymeriad da;

(b)o roi sylw i faint yr asiantaeth faethu, ei datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y plant sydd wedi'u lleoli ganddi—

(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r asiantaeth faethu; a

(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli asiantaeth faethu;

(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 1.

Y person cofrestredig — gofynion cyffredinol

8.—(1Rhaid i'r person cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw—

(a)i ddatganiad o ddiben yr asiantaeth faethu, ei maint, a nifer ac anghenion y plant sydd wedi'u lleoli ganddi; a

(b)i'r angen i ddiogelu a hybu lles y plant sydd wedi'u lleoli gan yr asiantaeth faethu,

redeg neu reoli'r asiantaeth faethu (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.

(2Os yw'r darparydd cofrestredig—

(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd;

(b)yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd;

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod gan yr unigolyn y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth faethu.

(3Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod gan y rheolwr hwnnw y medrau y mae eu hangen i redeg yr asiantaeth faethu.

Hysbysu o dramgwyddau

9.  Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru a Lloegr neu mewn man arall, rhaid i'r person sydd wedi'i gollfarnu hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—

(a)o dyddiad a man y collfarniad,

(b)o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac

(c)o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.

Gwasanaeth maethu awdurdod lleol — rheolwr

10.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli gwasanaeth maethu'r awdurdod lleol a rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith —

(a)o enw'r person a benodwyd; a

(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i ddod yn effeithiol.

(2Mae rheoliadau 7, 8, a 9 i fod yn gymwys i reolwr gwasanaeth maethu awdurdod lleol, mewn perthynas â'r gwasanaeth hwnnw, fel y bônt yn gymwys i reolwr asiantaeth faethu mewn perthynas â'r asiantaeth faethu.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os yw'r person a benodwyd o dan baragraff (1) yn rhoi'r gorau i reoli gwasanaeth maethu'r awdurdod lleol.

RHAN IIIRHEDEG GWASANAETH MAETHU

Yr asiantaeth faethu annibynnol — y ddyletswydd i sicrhau lles

11.  Rhaid i'r person cofrestredig ar gyfer asiantaeth faethu annibynnol(6) sicrhau—

(a)bod lles y plant sydd wedi'u lleoli neu sydd i'w lleoli gyda rhieni maeth yn cael ei ddiogelu a'i hybu bob amser; a

(b)cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy'n effeithio ar blentyn sydd wedi'i leoli neu sydd i'w leoli gyda rhieni maeth bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi—

(i)i ddymuniadau a theimladau'r plentyn yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn; a

(ii)i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

12.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio a gweithredu polisi ysgrifenedig—

(a)sydd wedi'i fwriadu i ddiogelu plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a

(b)sy'n nodi'r weithdrefn i'w dilyn os bydd unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso.

(2Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b), yn ddarostyngedig i baragraff (3), ddarparu'n benodol ar gyfer—

(a)cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sy'n gwneud, neu a all wneud, ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas ag unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd gwasanaeth maethu;

(b)cyfeirio'n brydlon at yr awdurdod ardal unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso sy'n effeithio ar unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd gwasanaeth maethu;

(c)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw ymholiadau amddiffyn plant sy'n ymwneud â phlentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd gwasanaeth maethu wedi'u cychwyn ac ynghylch canlyniad yr ymholiadau hynny;

(ch)cadw cofnodion ysgrifenedig ynghylch unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso, ac ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb iddo;

(d)ystyried ym mhob achos y mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth yn dilyn honiad o gam-drin neu esgeuluso; ac

(dd)gwneud trefniadau i sicrhau bod modd i bersonau sy'n gweithio at ddibenion gwasanaeth faethu, rhieni maeth a phlant sydd wedi'u lleoli gan y gwasanaeth maethu gael gafael ar wybodaeth a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r canlynol—

(i)yr awdurdod ardal; a

(ii)swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

ynghylch unrhyw bryder am les neu ddiogelwch plentyn.

(3Nid yw is-baragraffau (a), (c) ac (dd)(i) o baragraff (2) yn gymwys i wasanaeth maethu awdurdod lleol.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “ymholiadau amddiffyn plant” yw unrhyw ymholiadau sy'n cael eu gwneud gan awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd gan neu o dan Ddeddf 1989 ac sy'n ymwneud ag amddiffyn plant.

Rheoli ymddygiad ac absenoldeb o gartref rhiant maeth

13.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar fesurau derbyniol o reoli, atal a disgyblu plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth.

(2Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gymryd pob camau rhesymol i sicrhau—

(a)na chaiff unrhyw ffurf ar gosb gorfforol ei defnyddio ar unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhiant maeth;

(b)na fydd unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth yn destun unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol neu'n afresymol; ac

(c)mai dim ond pan yw'n angenrheidiol i atal anaf tebygol i'r plentyn neu bersonau eraill neu ddifrod difrifol tebygol i eiddo y mae dull atal corfforol yn cael ei ddefnyddio.

(3Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi a gweithredu gweithdrefn ysgrifenedig sydd i'w dilyn os yw plentyn yn absennol o gartref rhiant maeth heb ganiatâd.

Y ddyletswydd i hyrwyddo cysylltiadau

14.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r cytundeb lleoliad maeth ac unrhyw orchymyn llys ynglŷn â chysylltiadau, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hyrwyddo cysylltiadau rhwng plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhiant maeth a rhieni'r plentyn, ei berthnasau a'i gyfeillion oni bai nad yw cysylltiadau o'r fath yn rhesymol ymarferol neu'n gyson â lles y plentyn.

Iechyd plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth

15.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hybu lles a datblygiad plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth.

(2Yn benodol, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau—

(a)bod pob plentyn yn cael ei gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol;

(b)bod modd i bob plentyn gael gafael ar unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, seicolegol a seiciatryddol a chyngor, triniaeth a gwasanaethau nyrsio y mae arno eu hangen; ac

(c)bod pob plentyn yn cael unrhyw gefnogaeth, cymhorthion ac offer unigol y mae arno eu hangen o ganlyniad i unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol a all fod ganddo; ac

(ch)bod pob plentyn yn cael cyfarwyddyd, cefnogaeth a chyngor ar faterion iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd sy'n briodol i'w anghenion a'i ddymuniadau.

Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden

16.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hybu cyrhaeddiad addysgol y plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth.

(2Yn benodol rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu—

(a)sefydlu gweithdrefn ar gyfer monitro cyrhaeddiad addysgol, cynnydd a phresenoldeb yn yr ysgol plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth;

(b)mewn perthynas â phlant oedran ysgol sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth, hyrwyddo eu presenoldeb rheoliadd yn yr ysgol a'u cyfranogaeth mewn gweithgareddau ysgol;

(c)rhoi i rieni maeth unrhyw wybodaeth a chymorth gan gynnwys offer sy'n angenrheidiol i ddiwallu anghenion addysgol y plant sydd wedi'u lleoli gyda hwy.

(3Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau bod unrhyw addysg y mae'n ei darparu ar gyfer unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth ac sy'n blentyn o oedran ysgol gorfodol ond nad yw'n mynd i'r ysgol yn effeithlon ac yn addas i oedran, gallu, a doniau'r plentyn ac unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod arNo.

(4Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maeth sicrhau bod rhieni maeth yn hyrwyddo diddordebau hamdden y plant sydd wedi'u lleoli gyda hwy.

(5Os yw unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth wedi cyrraedd yr oedran pan nad oes angen iddo bellach gael addysg orfodol amser-llawn, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi cymorth i wneud y trefniadau ar gyfer y plentyn mewn perthynas â'i addysg, ei hyfforddiant a'i gyflogaeth a gweithredu'r trefniadau hynny.

Cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth i rieni maeth

17.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi unrhyw hyfforddiant, cyngor, gwybodaeth a chymorth, gan gynnwys cymorth y tu allan i oriau swyddfa, y mae'n ymddangos yn angenrheidiol er budd y plant sydd wedi'u lleoli gydag ef.

(2Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod rhieni maeth yn gyfarwydd â'r polisïau a sefydlwyd yn unol â rheoliadau 12(1) a 13(1) a (3) a'u bod yn gweithredu yn unol â'r polisïau hynny.

(3Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau, mewn perthynas ag unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli neu sydd i'w leoli gyda rhiant maeth, fod y rhiant maeth yn cael yr wybodaeth, a honno'n cael ei chadw'n gyfoes, i alluogi'r rhiant maeth i ddarparu gofal priodol i'r plentyn ac yn benodol bod pob rhiant maeth yn cael gwybodaeth briodol—

(a)am gyflwr iechyd ac anghenion iechyd unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli neu sydd i'w leoli gyda'r rhiant maeth; a

(b)am y trefniadau ar gyfer rhoi caniatâd ar gyfer archwiliad neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol y plentyn.

Asiantaethau maethu annibynnol — cwynion a sylwadau

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i'r person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth maethu annibynnol(7) sefydlu gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cwynion, sy'n cael eu gwneud gan neu ar ran plant sydd wedi'u lleoli gan yr asiantaeth a rhieni maeth y mae wedi'u cymeradwyo.

(2Yn benodol, rhaid i'r weithdrefn ddarparu ar gyfer y canlynol—

(a)cyfle i ddatrys y gŵ yn yn anffurfiol yn gynnar yn y broses;

(b)na fydd gan unrhyw berson sy'n destun cwyn yn cymryd rhan yn y broses o'i hystyried ac eithrio, os yw'r person cofrestredig yn barnu ei bod yn briodol, adeg ei datrys yn anffurfiol yn unig;

(c)ymdrin â chwynion am y person cofrestredig;

(ch)bod cwynion yn cael eu gwneud gan berson sy'n gweithredu ar ran plentyn;

(d)bod trefniadau ar gyfer y weithdrefn i'w hysbysu—

(i)i'r plant sydd wedi'u lleoli gan yr asiantaeth;

(ii)i'w rhieni;

(iii)i bersonau sy'n gweithio at ddibenion yr yr asiantaeth faethu annibynnol.

(3Os gofynnir amdano, rhaid darparu copi o'r weithdrefn i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2)(d).

(4Rhaid i'r copi o'r weithdrefn a gyflwynir o dan baragraff (3) gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)manylion y weithdrefn (os oes un) sydd wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion iddi mewn perthynas ag asiantaethau maethu annibynnol.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud am unrhyw gŵ yn neu sylw, y camau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb iddi, a chanlyniad yr ymchwiliad.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod plant yn cael eu galluogi i wneud cwyn neu gyflwyno sylwadau; a

(b)nad oes neb yn talu'r pwyth yn ôl i unrhyw blentyn sy'n gwneud cwyn neu'n cyflwyno sylwadau.

(7Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu datganiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion sydd wedi'u gwneud yn ystod y ddeuddeng mis blaenorol a'r camau y gymerwyd mewn ymateb iddynt.

(8Nid yw'r rheoliad hwn (ac eithrio paragraff (5)) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater y mae Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991(8) yn gymwys iddo.

Staffio gwasanaeth maethu

19.  Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau, gan roi sylw—

(a)i faint y gwasanaeth maethu, y datganiad o'i ddiben ac anghenion y plant sydd wedi'u lleoli ganddo; a

(b)yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles y plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth,

fod nifer digonol o bersonau hyfedr a phrofiadol â chymwysterau addas yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth maethu.

Ffitrwydd y gweithwyr

20.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu beidio â gwneud y canlynol—

(a)cyflogi person i weithio at ddibenion y gwasanaeth maethu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth maethu; neu

(b)caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, weithio at ddibenion y gwasanaeth maethu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio dros wasanaeth maethu.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan berson heblaw darparydd y gwasanaeth maethu mewn swydd lle gallai wrth gyflawni ei ddyletswyddau gael cysylltiad rheolaidd â phlant sydd wedi'u lleoli gan y gwasanaeth maethu.

(3At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio i wasanaeth maethu oni bai—

(a)bod y person yn onest ac o gymeriad da;

(b)bod gan y person y cymwysterau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;

(c)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni; ac

(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ynglyn â'r person ar gael mewn perthynas â phob mater a bennir yn Atodlen 1.

(4Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio i wasanaeth maethu nad yw'n cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaeth maethu ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei oruchwylio'n briodol tra bydd yn cyflawni ei ddyletswyddau.

(5Yn ddarostyngedig i reoliad 52(7), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu beidio â chyflogi person i weithio at ddibenion y gwasanaeth maethu mewn swydd y mae paragraff (6) yn gymwys iddi—

(a)sy'n rhiant maeth a gymeradwywyd gan y gwasanaeth maethu, neu

(b)sy'n aelod o aelwyd rhiant maeth o'r fath.

(6Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw swydd reoli, swydd gwaith cymdeithasol neu swydd broffesiynol arall, oni bai bod y gwaith, yn achos swydd nad yw'n swydd reoli nac yn swydd gwaith cymdeithasol, yn cael ei wneud yn achlysurol, fel gwirfoddolwr, am nid mwy na phum awr mewn unrhyw wythnos.

Cyflogi staff

21.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu—

(a)sicrhau bod pob penodiad parhaol yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf yn boddhaol; a

(b)roi i bob cyflogai ddisgrifiad swydd sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau.

(2Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol,

(a)yn darparu ar gyfer atal cyflogai os bydd angen hynny er budd diogelwch neu les y plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth;

(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am digwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir ar blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth i berson priodol yn sail dros gychwyn achos disgyblu.

(3At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw—

(a)mewn unrhyw achos—

(i)y person cofrestredig, neu reolwr gwasanaeth maethu'r awdurdod lleol yn ôl fel y digwydd;

(ii)un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol;

(iii)un o swyddogion yr awdurdod ardal os yw'n gymwys;

(iv)swyddog heddlu;

(v)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(b)yn achos un o gyflogeion asiantaeth faethu annibynnol, un o swyddogion yr awdurdod cyfrifol;

(c)yn achos un o gyflogeion asiantaeth faethu, un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r asiantaeth wedi'i lleoli yn ei ardal;

(4Rhaid i'r darparydd gwasanaeth faethu sicrhau bod pob person sy'n cael ei gyflogi ganddo—

(a)yn cael ei hyfforddi, ei oruchwylio a'i werthuso'n briodol; a

(b)yn cael ei alluogi o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'n ei gyflawni.

Cofnodion ynglyn â gwasanaethau maethu

22.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 2 a'u cadw'n gyfoes.

(2Rhaid dal gafael ar y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) am o leiaf 15 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf.

Ffitrwydd tir ac adeiladau

23.—(1Rhaid i'r gwasanaeth maethu beidio â defnyddio tir ac adeiladau at ddibenion gwasanaeth maethu oni bai bod y tir ac adeiladau yn addas ar gyfer cyflawni'r nodau a'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau—

(a)bod yna drefniadau gwarchod digonol ar y tir ac adeiladau, yn benodol bod cyfleusterau diogel yn y tir ac adeiladau ar gyfer storio cofnodion; a

(b)bod unrhyw gofnodion sy'n cael eu cadw i ffwrdd o'r tir ac adeiladau yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ran diogelwch.

RHAN IVCYMERADWYO RHIENI MAETH

Sefydlu panel maethu

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sefydlu o leiaf un panel, a elwir panel maethu, yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu benodi'r naill neu'r llall o'r canlynol i gadeirio'r panel—

(a)aelod hŷn o staff y darparydd gwasanaeth maethu nad yw'n gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd unrhyw berson sy'n cynnal asesiadau o ddarpar rieni maeth; neu

(b)unrhyw berson arall nad yw'n un o gyflogeion, aelodau, partneriaid neu gyfarwyddwyr y darparydd gwasanaeth maethu ac y mae ganddo'r medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer cadeirio panel maethu.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r panel maethu beidio â chynnwys mwy na 10 aelod, gan gynnwys y person a benodir o dan baragraff (2) a rhaid iddo gynnwys—

(a)dau weithiwr cymdeithasol sy'n cael eu cyflogi gan y darparydd gwasanaeth maethu, y mae gan y naill arbenigedd mewn gofal plant a'r llall arbenigedd mewn darparu gwasanaeth maethu;

(b)yn achos asiantaeth faethu—

(i)os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, yr unigolyn hwnnw;

(ii)os corff yw'r darparydd cofrestredig, o leiaf un o'i gyfarwyddwyr neu'r unigolyn cyfrifol;

(c)yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, o leiaf un aelod etholedig o'r awdurdod lleol; ac

(ch)o leiaf bedwar person arall (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel “aelodau annibynnol”), gan gynnwys o leiaf un person sydd, neu sydd wedi bod o fewn y dwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth ar gyfer darparydd gwasanaeth maethu ac eithrio'r un y mae ei banel maethu yn cael ei sefydlu.

(4Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu benodi aelod o'r panel maethu a fydd yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person sy'n cael ei benodi i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag (“yr is-gadeirydd”).

(5Gall panel maethu gael ei sefydlu ar y cyd gan unrhyw ddau ddarparydd gwasanaeth maethu ond nid mwy na thri darparydd gwasanaeth maethu, ac os sefydlir panel maethu o'r fath—

(a)un ar ddeg yw uchafswm yr aelodau y gellir eu penodi i'r panel hwnnw;

(b)rhaid i bob darparydd gwasanaeth maethu benodi dau berson i'r panel, y mae'r naill yn dod o dan baragraff (3)(a), a'r llall yn dod o dan baragraff (3)(b) neu (c), yn ôl fel y digwydd;

(c)drwy gytundeb rhwng y darparwyr gwasanaeth maethu rhaid penodi—

(i)person i gadeirio'r panel;

(ii)o leiaf bedwar aelod annibynnol gan gynnwys o leiaf un person sydd, neu sydd wedi bod o fewn y dwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth ar gyfer darparydd gwasanaeth maethu ac eithrio unrhyw un o'r rhai y mae eu panel maethu yn cael ei sefydlu; a

(iii)aelod o'r panel a fydd yn gweithredu fel cadeirydd os bydd y person sy'n cael ei penodi i gadeirio'r panel yn absennol neu os bydd ei swydd yn wag (“yr is-gadeirydd”).

(6Rhaid i aelod o banel maethu beidio â dal ei swydd am dymor sy'n hwy na thair blynedd, ac ni chaiff ddal ei swydd ar gyfer panel yr un darparydd gwasanaeth maethu am fwy na dau dymor yn olynol.

(7Caiff unrhyw aelod o'r panel ymddiswyddo ar unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o un mis i'r darparydd gwasanaeth maethu.

(8Os yw darparydd gwasanaeth maethu o'r farn fod unrhyw aelod o'r panel maethu yn anaddas i aros yn ei swydd neu'n methu ag aros ynddi, gall derfynu swydd yr aelod hwnnw ar unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r aelod.

(9Rhaid peidio â phenodi person yn aelod annibynnol o banel maethu—

(a)os yw'r person yn rhiant maeth sydd wedi'i gymeradwyo gan y darparydd gwasanaeth maethu;

(b)os yw'r person yn cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaeth maethu;

(c)os yw'r person yn ymwneud â rheoli'r darparydd gwasanaeth maethu;

(ch)os yw'r person, yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, yn aelod etholedig o'r awdurdod lleol; neu

(d)os yw'r person, yn achos asiantaeth faethu, yn un sy'n perthyn i unrhyw un o gyflogeion y darparydd cofrestredig, neu i unrhyw berson sy'n ymwneud â rheoli'r asiantaeth faethu.

(10At ddibenion paragraff (9)(d), mae person (“person A”) yn perthyn i berson arall (“person B”) os yw person A—

(a)yn aelod o aelwyd person B neu'n briod i berson B;

(b)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i berson B; neu

(c)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i'r person y mae person B yn briod iddo.

Cyfarfodydd y panel maethu

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i fusnes beidio â chael ei gynnal gan banel maethu oni bai bod o leiaf bump o'i aelodau, gan gynnwys y person sy'n cael ei benodi i gadeirio'r panel, neu'r is-gadeirydd, o leiaf un o'r gweithwyr cymdeithasol sy'n cael ei gyflogi gan y gwasanaeth maethu ac o leiaf ddau o'r aelodau annibynnol, yn cyfarfod fel panel.

(2Rhaid i banel maethu wneud cofnod ysgrifenedig o'i drafodion a'r rhesymau dros ei argymhellion.

(3Yn achos cyd-banel maethu, rhaid peidio â chynnal unrhyw fusnes nes bod o leiaf chwech o'i aelodau, gan gynnwys y person sy'n cael ei benodi i gadeirio'r panel, neu'r is-gadeirydd, ac un gweithiwr cymdeithasol o bob un o'r gwasanaethau maethu, yn cyfarfod fel panel.

Swyddogaethau'r panel maethu

26.—(1Swyddogaethau'r panel maethu mewn perthynas ag achosion sy'n cael eu cyfeirio ato gan y darparydd gwasanaeth maethu yw—

(a)ystyried pob cais am gymeradwyaeth ac argymell a yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth neu beidio;

(b)os yw'n argymell cymeradwyo cais, argymell ar ba delerau y dylid rhoi'r gymeradwyaeth;

(c)argymell a yw person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth neu beidio, ac a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol ai peidio—

(i)ar ôl yr adolygiad cyntaf sy'n cael ei gynnal yn unol â rheoliad 29(1); a

(ii)adeg unrhyw adolygiad arall pan ofynnir iddo wneud hynny gan y darparydd gwasanaeth maethu yn unol â rheoliad 29(5);

(ch)ystyried unrhyw achos sy'n cael ei gyfeirio ato o dan reoliad 28(8) neu 29(9).

(2Rhaid i'r panel maethu hefyd—

(a)cynghori ar y gweithdrefnau y mae adolygiadau i'w cynnal odanynt yn unol â rheoliad 29 gan y darparydd gwasanaeth maethu a monitro eu heffeithiolrwydd o bryd i'w gilydd; a

(b)goruchwylio'r ffordd y mae asesiadau sy'n cael eu cyflawni gan y darparydd gwasanaeth maethu yn cael eu cynnal; ac

(c)rhoi cyngor a chyflwyno argymhellion ar unrhyw faterion eraill neu achosion unigol y bydd y darparydd gwasanaeth maethu yn cyfeirio ato.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “argymell” yw argymell i'r darparydd gwasanaeth maethu.

Asesu darpar rieni maeth

27.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gynnal asesiad o unrhyw berson a all fod yn addas, yn ei farn ef, i ddod yn rhiant maeth yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu o'r farn y gall person fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth rhaid iddo—

(a)sicrhau gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 3, am y darpar riant maeth ac aelodau eraill o aelwyd a theulu'r person, ac unrhyw wybodaeth arall y mae'n barnu ei bod yn berthnasol;

(b)cyfweld o leiaf ddau berson sy'n cael eu henwi gan y darpar riant maeth i ddarparu geirda personol ar gyfer y darpar riant maeth a pharatoi adroddiadau ysgrifenedig am y cyfweliadau;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (3) ymgynghori â'r awdurdod lleol y mae'r darpar riant maeth yn byw yn ei ardal, a chymryd barn yr awdurdod hwnnw i ystyriaeth;

(ch)gan roi sylw i'r materion hyn, ystyried a yw'r darpar riant maeth yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y darpar riant maeth yn addas ar gyfer unrhyw blentyn y gellir rhoi cymeradwyaeth ar ei gyfer;

(d)paratoi adroddiad ysgrifenedig ar y person sy'n cynnwys y materion a nodir ym mharagraff (4); ac

(dd)cyfeirio'r adroddiad at y panel maethu a hysbysu'r darpar riant maeth yn unol â hynny.

(3Nid yw paragraff (2)(c) yn gymwys os awdurdod lleol yw'r darparydd gwasanaeth maethu a bod y ceisydd yn byw yn ardal yr awdurdod hwnnw.

(4Rhaid i'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(d) gynnwys y materion canlynol mewn perthynas â'r darpar riant maeth—

(a)yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan Atodlen 3 ac unrhyw wybodaeth arall y mae'r darparydd gwasanaeth maethu yn barnu ei bod yn berthnasol;

(b)asesiad y darparydd gwasanaeth maethu o ba mor addas yw'r person i weithredu fel rhiant;

(c)cynigion y darparydd gwasanaeth maethu ynghylch telerau ac amodau unrhyw gymeradwyaeth.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid peidio ag ystyried bod person yn addas i weithredu fel rhiant maeth os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy'n 18 oed neu drosodd—

(a)wedi'i gollfarnu o dramgwydd penodedig a gyflawnwyd yn 18 oed neu drosodd; neu

(b)wedi'i rybuddio mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd o'r fath yr oedd y person wedi'i gyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.

(6Caiff y darparydd gwasanaeth maethu ystyried bod person y byddai paragraff (5), ar wahân i'r paragraff hwn, yn gymwys iddo, yn addas i weithredu neu barhau i weithredu, yn ôl fel y digwydd, fel rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn neu blant penodol a enwir os yw'r darparydd gwasanaeth maethu wedi'i fodloni bod angen hynny er lles y plentyn hwnnw neu'r plant hynny, a naill ai—

(a)bod y person, neu aelod o aelwyd y person, yn berthynas i'r plentyn; neu

(b)bod y person eisoes yn gweithredu fel rhiant maeth i'r plentyn.

(7Yn y rheoliad hwn ystyr “tramgwydd penodedig” yw—

(a)tramgwydd yn erbyn plentyn;

(b)tramgwydd a bennir yn Atodlen 4;

(c)tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(9) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau ynglyn â phornograffi)(10) os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed;

(ch)unrhyw dramgwydd arall sy'n cynnwys anaf corfforol i blentyn, ac eithrio tramgwydd ymosodiad cyffredin neu guro, ac

mae i'r ymadrodd “tramgwydd yn erbyn plentyn” yr ystyr a roddir i “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(11) ac eithrio nad yw'n cynnwys tramgwydd yn erbyn adrannau 6, 12 neu 13 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rhywiol â merch 13 i 16 oed, sodomiaeth, neu anwedduster rhwng dynion)(12) mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd.

Cymeradwyo rhieni maeth

28.—(1Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu beidio â chymeradwyo person sydd wedi'i gymeradwyo fel rhiant maeth gan ddarparydd gwasanaeth maethu arall, ac nad yw ei gymeradwyaeth wedi'i therfynu.

(2Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu beidio â chymeradwyo person fel rhiant maeth oni bai—

(a)ei fod wedi cwblhau ei asesiad o ba mor addas yw'r person; a

(b)bod ei banel maethu wedi ystyried y cais.

(3Wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo person fel rhiant maeth a phenderfynu ynghylch telerau unrhyw gymeradwyaeth, rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu gymryd i ystyriaeth argymhelliad ei banel maethu.

(4Ni chaiff aelod o'i banel maethu gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad sy'n cael ei wneud gan ddarparydd gwasanaeth maethu o dan baragraff (3).

(5Os yw darparydd gwasanaeth maethu yn penderfynu cymeradwyo person fel rhiant maeth rhaid iddo—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person yn pennu telerau'r cymeradwyaeth, er enghraifft a yw mewn perthynas â phlentyn neu blant penodol a enwir neu â nifer ac ystod oedran plant neu â lleoliadau o unrhyw fath penodol neu a yw'n gymeradwyaeth o dan unrhyw amgylchiadau penodol; a

(b)gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r person sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 5 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y “cytundeb gofal maeth”).

(6Os yw darparydd gwasanaeth maethu o'r farn nad yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth rhaid iddo—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person ei fod yn bwriadu peidio â'i gymeradwyo ynghyd â'i resymau a chopi o argymhelliad y panel maethu; a

(b)gwahodd y person i gyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad.

(7Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), gall fynd ati i wneud ei benderfyniad.

(8Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), rhaid iddo—

(a)cyfeirio'r achos at y panel maethu iddo ei ystyried ymhellach; a

(b)gwneud ei benderfyniad, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad newydd sy'n cael ei wneud gan y panel maethu.

(9Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (7) neu (8)(b), yn ôl fel y digwydd, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hysbysu'r darpar riant maeth yn ysgrifenedig, ac —

(a)os yw'r penderfyniad yn benderfyniad i gymeradwyo'r person fel rhiant maeth, cydymffurfio â pharagraff (5) mewn perthynas â'r person; neu

(b)os yw'r penderfyniad yn benderfyniad i beidio â chymeradwyo'r person, darparu rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad.

Adolygu a therfynu cymeradwyaeth

29.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu adolygu cymeradwyaeth pob rhiant maeth yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid cynnal adolygiad heb fod yn fwy na blwyddyn ar ôl cymeradwyaeth ac ar ôl hynny pryd bynnag y mae'r darparydd gwasanaeth maethu yn barnu ei fod yn angenrheidiol, ond heb fod mwy na blwyddyn rhwng adegau gwneud hynny.

(3Wrth ymgymryd ag adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu—

(a)gwneud unrhyw ymholiadau a chael unrhyw wybodaeth y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn adolygu'r cymeradwyaeth i benderfynu a yw'r person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn parhau i fod yn addas; a

(b)ceisio barn y canlynol, a'i chymryd i ystyriaeth—

(i)y rhiant maeth;

(ii)(yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth y plentyn) unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth; ac

(iii)unrhyw awdurdod cyfrifol sydd wedi lleoli plentyn gyda'r rhiant maeth o fewn y flwyddyn flaenorol.

(4Ar ddiwedd yr adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi adroddiad ysgrifenedig, sy'n nodi—

(a)a yw'r person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn parhau i fod yn addas; a

(b)a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol.

(5Adeg yr adolygiad cyntaf o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gyfeirio ei adroddiad at y panel maethu iddynt ei ystyried, a gall wneud hynny adeg unrhyw adolygiad dilynol.

(6Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn penderfynu, o ystyried unrhyw argymhelliad sy'n cael ei wneud gan y panel maethu, fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas a bod telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau i fod yn briodol, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth am ei benderfyniad.

(7Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu bellach wedi'i fodloni, o ystyried unrhyw argymhelliad sy'n cael ei wneud gan y panel maethu, fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, neu fod telerau'r gymeradwyaeth yn briodol, rhaid iddo—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth ei fod yn bwriadu terfynu'r gymeradwyaeth neu adolygu telerau'r gymeradwyaeth yn ôl fel y digwydd, ynghyd â'i resymau; a

(b)gwahodd y rhiant maeth i gyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig iddo o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad.

(8Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), gall fynd ati i wneud ei benderfyniad.

(9Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), rhaid iddo—

(a)cyfeirio'r achos at y panel maethu iddo ef ei ystyried; a

(b)gwneud ei benderfyniad, gan ystyried unrhyw argymhelliad a wnaed gan y panel maethu.

(10Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (8) neu (9)(b), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth yn pennu yn ôl fel y digwydd—

(a)bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas a bod telerau'r gymeradwyaeth yn parhau i fod yn briodol;

(b)bod y gymeradwyaeth wedi'i therfynu o ddyddiad penodedig, a'r rhesymau dros ei therfynu; neu

(c)telerau diwygiedig y gymeradwyaeth a'r rhesymau dros y diwygiad.

(11Caiff rhiant maeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd gwasanaeth maethu ar unrhyw bryd nad yw'r rhiant maeth yn dymuno gweithredu bellach fel rhiant maeth ac wedi hynny mae cymeradwyaeth y rhiant maeth yn cael ei therfynu 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr hysbysiad i law.

(12Rhaid anfon copi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn i'r awdurdod sy'n gyfrifol am unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth (onid y darparydd gwasanaeth maethu yw'r awdurdod cyfrifol hefyd), ac i'r awdurdod ardal.

Cofnodion achos ynglŷn â rhieni maeth ac eraill

30.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gadw cofnod achos ar gyfer pob rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gannddo a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys copïau o'r dogfennau a bennir ym mharagraff (2) a'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3).

(2Y dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn ôl fel y digwydd yw—

(a)yr hysbysiad cymeradwyo a roddwyd o dan reoliad 28(5)(a);

(b)y cytundeb gofal maeth;

(c)unrhyw adroddiad ar adolygiad o gymeradwyaeth a baratowyd o dan reoliad 29(4);

(ch)unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 29(10);

(d)unrhyw gytundeb a wnaed yn unol â rheoliad 38(1)(a);

(dd)yr adroddiad a baratowyd o dan reoliad 27(2)(d) ac unrhyw adroddiadau eraill a gyflwynwyd i'r panel maethu; ac

(e)unrhyw argymhellion a wnaed gan y panel maethu.

(3Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) yn ôl fel y digwydd, yw—

(a)cofnod o bob lleoliad gyda'r rhiant maeth gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi'i leoli, dyddiadau dechrau a therfynu pob lleoliad ac amgylchiadau'r terfyniad;

(b)yr wybodaeth a sicrhawyd gan y darparydd gwasanaeth maethu mewn perthynas ag asesu a chymeradwyo'r rhiant maeth ac mewn perthynas ag unrhyw adolygiad neu derfyniad o'r gymeradwyaeth.

(4Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod achos ar gyfer pob person y mae plentyn wedi'i leoli gydag ef o dan reoliad 38(2) a rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â'r person hwnnw—

(a)y cytundeb a wnaed yn unol â rheoliad 38(2)(b);

(b)cofnod ynglyn â'r lleoliad, gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi'i leoli, dyddiadau dechrau a therfynu'r lleoliad, ac amgylchiadau'r terfyniad; ac

(c)yr wybodaeth a sicrhawyd mewn perthynas â'r ymholiadau a wnaed o dan reoliad 38(2).

(5Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio cofnod ar gyfer pob person nad yw'n ei gymeradwyo fel rhiant maeth, neu sy'n tynnu ei gais yn ôl cyn iddo gael ei gymeradwyo, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys mewn perthynas â'r person—

(a)yr wybodaeth a sicrhawyd mewn cysylltiad â'r asesiad;

(b)unrhyw adroddiad a gyflwynwyd i'r panel maethu ac unrhyw argymhelliad a wnaed gan y panel maethu; ac

(c)unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 28.

Cofrestr o rieni maeth

31.—(1Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gofnodi, mewn cofrestr sy'n cael ei chadw at y diben, y manylion a bennir ym mharagraff (2) ac yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, rhaid iddo gofnodi'r manylion a bennir ym mharagraff (3) hefyd.

(2Y manylion yw—

(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob rhiant maeth;

(b)dyddiad cymeradwyo'r rhiant maeth a dyddiad pob adolygiad o'i gymeradwyaeth; ac

(c)telerau cyfredol y gymeradwyaeth.

(3Rhaid i bob awdurdod lleol gofnodi yn ei gofrestr—

(a)enw a chyfeiriad pob person y mae wedi lleoli plentyn gydag ef o dan reoliad 38(2);

(b)dyddiad pob cytundeb a wnaed yn unol â rheoliad 38(2)(b); ac

(c)telerau unrhyw gytundeb o'r fath sydd mewn grym am y tro.

Cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion

32.—(1Rhaid dal gafael ar y cofnodion sy'n cael eu llunio mewn perthynas â rhiant maeth o dan reoliad 30(1) ac unrhyw gofnod ynglyn â'r person hwnnw yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan reoliad 31(1), am o leiaf 10 mlynedd o'r dyddiad y mae cymeradwyaeth y person yn cael ei therfynu.

(2Rhaid dal gafael ar y cofnodion a luniwyd gan awdurdod lleol o dan reoliad 30(4) ynglyn â pherson y mae plentyn wedi'i leoli gydag ef o dan reoliad 38(2), ac ar unrhyw gofnod ynglŷn â pherson o'r fath yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan reoliad 31(1), am o leiaf 10 mlynedd o ddyddiad terfynu'r lleoliad.

(3Rhaid dal gafael ar y cofnodion sy'n cael eu llunio o dan reoliad 30(5) am o leiaf dair blynedd o'r dyddiad y mae'r cais am ddod yn rhiant maeth yn cael ei wrthod neu ei dynnu'n ôl, yn ôl fel y digwydd.

(4Gellir cydymffurfio â'r gofynion ym mharagraffau (1) i (3) drwy ddal gafael ar y cofnodion ysgrifenedig gwreiddiol neu gopïau ohonynt, neu drwy gadw'r cyfan neu ran o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ynddynt ar ryw ffurf hygyrch arall megis cofnod cyfrifiadurol.

(5Rhaid cadw unrhyw gofnodion neu gofrestr sy'n cael eu cadw yn unol â rheoliad 30 neu 31 yn ddiogel a pheidio â'u datgelu i unrhyw berson ac eithrio—

(a)yn unol ag unrhyw ddarpariaeth mewn statud, neu a wnaed o dan statud, neu yn rhinwedd statud, y mae'r hawl i weld cofnodion o'r fath wedi'i hawdurdodi odani;

(b)unrhyw orchymyn llys sy'n caniatáu i bobl gael gweld cofnodion o'r fath.

RHAN VLLEOLIADAU

Dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol

33.  Rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â lleoli plentyn gyda rhiant maeth oni bai ei fod wedi'i fodloni—

(a)mai dyna'r ffordd fwyaf addas o gyflawni ei ddyletswydd o dan (yn ôl fel y digwydd) adran 22(3) neu 61(1)(a) a (b) o Ddeddf 1989; a

(b)mai'r lleoliad mwyaf addas yw lleoliad gyda'r rhiant maeth penodol o ystyried yr holl amgylchiadau.

Gwneud lleoliadau

34.—(1Ac eithrio yn achos lleoliad brys neu ddi-oed o dan reoliad 38, dim ond o dan yr amodau canlynol y caiff awdurdod cyfrifol leoli plentyn gyda rhiant maeth—

(a)os yw'r rhiant maeth wedi'i gymeradwyo—

(i)gan yr awdurdod cyfrifol sy'n bwriadu lleoli'r plentyn; neu

(ii)gan ddarparydd gwasanaeth maethu arall, cyhyd â bod yr amodau a bennir ym mharagraff (2) yn cael eu bodloni;

(b)os yw telerau'r gymeradwyaeth yn gyson â'r lleoliad arfaethedig; ac

(c)os yw'r rhiant maeth wedi gwneud cytundeb gofal maeth.

(2Mae'r amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(a)(ii) fel a ganlyn—

(a)bod y darparydd gwasanaeth maethu y cafodd y rhiant maeth ei gymeradwyo ganddo, yn cydsynio â'r lleoliad;

(b)bod unrhyw awdurdod cyfrifol arall a chanddo blentyn sydd eisoes wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth, yn cydsynio â'r lleoliad;

(c)os yw'n gymwys, bod yna ymgynghori â'r awdurdod ardal, bod sylwadau'r awdurdod yn cael eu hystyried, a bod yr awdurdod yn cael ei hysbysu os yw'r lleoliad yn cael ei wneud; ac

(ch)os yw'r rhiant maeth wedi'i gymeradwyo gan asiantaeth faethu annibynnol, bod gofynion rheoliad 40 wedi'u bodloni.

(3Cyn gwneud lleoliad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol wneud cytundeb ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel y “cytundeb lleoliad maeth” gyda'r rhiant maeth ynglŷn â'r plentyn, a hwnnw'n gytundeb sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 6.

Goruchwylio lleoliadau

35.—(1Rhaid i awdurdod cyfrifol ei fodloni ei hun fod y lleoliad yn parhau i ddarparu'n addas ar gyfer lles pob plentyn sydd wedi'i leoli ganddo, ac at y diben hwnnw rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau i berson sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod ymweld â'r plentyn, yn y cartref y mae'r plentyn wedi'i leoli ynddo—

(a)o bryd i'w gilydd yn ôl y gogyn o dan yr amgylchiadau; ac

(b)os gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan y plentyn neu'r rhiant maeth; ac

(c)beth bynnag (yn ddarostyngedig i reoliad 37)

(i)yn ystod blwyddyn gyntaf y lleoliad, o fewn wythnos o'i dechrau ac yna yn ysbeidiol heb fod cyfnodau o fwy na chwe wythnos rhwng ymweliadau,

(ii)ar ôl hynny, heb fod cyfnodau o fwy na thri mis rhwng yr ymweliadau.

(2Yn achos lleoliad di-oed o dan reoliad 38, rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod y plentyn yn cael ymweliad o leiaf unwaith bob wythnos yn ystod y lleoliad.

(3Pob tro y mae'r plentyn yn cael ymweliad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod cyfrifol sicrhau bod y person y mae wedi'i awdurdodi i ymweld â'r plentyn—

(a)yn gweld y plentyn ar ei ben ei hun oni bai bod y plentyn, os yw'n ddigon hŷn a bod ganddo ddealltwriaeth i wneud hynny, yn gwrthod; a

(b)yn paratoi adroddiad ysgrifenedig am yr ymweliad.

Terfynu lleoliadau

36.—(1Rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â chaniatáu i leoliad plentyn gyda pherson penodol barhau os yw'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol nad y ffordd fwyaf addas o gyflawni eu dyletswydd o dan (yn ôl fel y digwydd) adran 22(3) neu 61(1)(a) a (b) o Ddeddf 1989 yw'r lleoliad bellach.

(2Os yw'n ymddangos i'r awdurdod ardal y byddai parhau â'r lleoliad yn niweidio lles y plentyn o dan sylw, rhaid i'r awdurdod ardal symud y plentyn oddi yno ar unwaith.

(3Rhaid i awdurdod ardal sy'n symud plentyn o dan baragraff (2) hysbysu'r awdurdod cyfrifol ar unwaith.

Lleoliadau byr-dymor

37.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw awdurdod cyfrifol wedi trefnu lleoli plentyn mewn cyfres o leoliadau byr-dymor gyda'r un rhiant maeth a bod y trefniant yn golygu—

(a)na fydd unrhyw un lleoliad yn para'n hwy na phedair wythnos; ac

(b)nad yw hyd cyfan y lleoliadau i fod yn hwy na 120 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

(2Gellir trin cyfres o leoliadau byr-dymor y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt fel un lleoliad at dibenion y Rheoliadau hyn, ond gyda'r addasiadau a nodir ym mharagraffau (3) a (4).

(3Mae rheoliad 35 (1)(c)(i) a (ii) i fod yn gymwys fel petaent yn ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer ymweliadau â'r plentyn ar ddiwrnod y mae wedi'i leoli mewn gwirionedd (“diwrnod lleoli”)—

(a)o fewn y saith diwrnod lleoli cyntaf o gyfres o leoliadau byr-dymor; a

(b)ar ôl hynny, os yw'r gyfres o leoliadau yn parhau, heb fod cyfnodau o fwy na chwe mis rhyngddynt neu, os yw'r cyfnod rhwng y lleoliadau yn fwy na chwe mis, yn ystod y lleoliad nesaf.

(4Mae rheoliad 41 i fod yn gymwys fel petai'n ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer ymweliadau â'r plentyn ar ddiwrnod lleoli, o fewn y saith diwrnod lleoli cyntaf o gyfres o leoliadau byr-dymor.

Lleoliadau brys a di-oed gan awdurdodau lleol

38.—(1Os yw plentyn i gael ei leoli mewn achos brys, caiff awdurdod lleol am gyfnod heb bod yn fwy na 24 awr leoli'r plentyn gydag unrhyw riant maeth sydd wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu unrhyw ddarparydd gwasanaeth maethu arall ar yr amod—

(a)bod y rhiant maeth wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r awdurdod lleol i gyflawni'r dyletswyddau a bennir ym mharagraff (3); a

(b)bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni ynghylch darpariaethau rheoliad 33(a).

(2Os yw awdurdod lleol wedi'i fodloni bod angen lleoli plentyn yn ddi-oed, caiff leoli'r plentyn gyda pherson nad yw'n rhiant maeth ar ôl cyfweld y person, archwilio'r llety a chael gwybodaeth am bersonau eraill sy'n byw ar aelwyd y person, am gyfnod heb fod yn hwy na chwe wythnos, ar yr amodau—

(a)bod y person yn berthynas neu'n gyfaill i'r plentyn;

(b)bod y person wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r awdurdod lleol i gyflawni'r dyletswyddau a bennir ym mharagraff (3); ac

(c)bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni ynglŷn â darpariaethau rheoliad 33(a).

(3Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1)(a) a (2)(b) yw—

(a)gofalu am y plentyn fel petai'r plentyn yn aelod o deulu'r person hwnnw;

(b)caniatáu i unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol neu (os yw'n gymwys) yr awdurdod ardal, i ymweld â'r plentyn ar unrhyw bryd;

(c)os yw rheoliad 36 yn gymwys, caniatáu i'r plentyn gael ei symud ar unrhyw bryd gan yr awdurdod lleol neu (os yw'n gymwys) yr awdurdod ardal;

(ch)sicrhau bod unrhyw wybodaeth y gall y person hwnnw gael gafael arni sy'n ymwneud â'r plentyn, neu â theulu'r plentyn neu unrhyw berson arall, sydd wedi'i rhoi i'r person hwnnw yn gyfrinachol mewn cysylltiad â'r lleoliad yn cael ei chadw'n gyfrinachol ac nad yw'n cael ei datgelu ac eithrio i'r awdurdod lleol, neu gyda chytundeb yr awdurdod lleol; a

(d)caniatáu cysylltiadau â'r plentyn yn unol â thelerau unrhyw orchymyn llys ynglŷn â chysylltiadau neu unrhyw drefniadau sydd wedi'u gwneud gan yr awdurdod lleol neu y mae'r awdurdod hwnnw wedi cytuno arnynt.

(4Os yw awdurdod lleol yn lleoli plentyn o dan y rheoliad hwn y tu allan i'w ardal rhaid iddo hysbysu'r awdurdod ardal.

Lleoliadau y tu allan i Gymru

39.—(1Rhaid i gorff gwirfoddol beidio â lleoli plentyn y tu allan i'r Ynysoedd Prydeinig(13).

(2Os yw awdurdod cyfrifol yn gwneud trefniadau i leoli plentyn y tu allan i Gymru, rhaid iddo sicrhau, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y cydymffurfir â'r gofynion a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn petai'r plentyn wedi'i leoli yng Nghymru.

Asiantaethau maethu annibynnol — cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol

40.—(1Caiff awdurdod lleol wneud trefniadau yn unol â'r rheoliad hwn ar gyfer y dyletswyddau sy'n cael eu gosod arno gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37, ac os yw paragraff (3) yn gymwys, 33(b), i gael eu cyflawni ar ei ran gan berson cofrestredig.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid peidio â gwneud unrhyw drefniadau o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â phlentyn penodol, oni bai bod awdurdod lleol wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan reoliad 33 mewn perthynas â'r plentyn hwnnw.

(3Os yw awdurdod lleol yn gwneud trefniadau gyda pherson cofrestredig i'r person cofrestredig ddarparu rhieni maeth at ddibenion lleoliad byr-dymor o fewn ystyr rheoliad 37(1), caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau hefyd i'r person cofrestredig gyflawni dyletswydd yr awdurdod lleol o dan reoliad 33(b) mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw ar ei ran.

(4Rhaid peidio â gwneud unrhyw drefniadau o dan y rheoliad hwn oni bai bod awdurdod lleol wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r person cofrestredig sy'n nodi—

(a)p'un o'i ddyletswyddau y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu ei dirprwyo yn unol â'r rheoliad hwn;

(b)y gwasanaethau sydd i'w darparu i'r awdurdod lleol gan y person cofrestredig;

(c)y trefniadau i'r awdurdod lleol ddethol rhieni maeth penodol o blith y rhai sydd wedi'u cymeradwyo gan y person cofrestredig;

(ch)y gofyniad i'r person cofrestredig gyflwyno adroddiadau i'r awdurdod lleol ar unrhyw leoliad yn ôl yr hyn y gall yr awdurdod ofyn amdano, ac yn benodol yn dilyn unrhyw ymweliad a wnaed o dan reoliad 35; a

(d)y trefniadau ar gyfer terfynu'r cytundeb.

(5Os yw awdurdod lleol yn bwriadu gwneud trefniant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â phlentyn penodol rhaid i'r awdurdod lleol wneud cytundeb gyda'r person cofrestredig mewn perthynas â'r plentyn hwnnw sy'n nodi—

(a)manylion y rhiant maeth penodol y mae'r plentyn i'w leoli gydag ef;

(b)manylion unrhyw wasanaethau y mae'r plentyn i'w cael;

(c)telerau (gan gynnwys telerau ynglyn â thalu) y cytundeb lleoliad maeth arfaethedig;

(ch)y trefniadau ar gyfer cadw cofnodion am y plentyn, ac ar gyfer dychwelyd cofnodion ar ddiwedd y lleoliad;

(d)gofyniad i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod lleol yn ddi-oed os bydd unrhyw bryderon ynglyn â'r lleoliad; ac

(dd)a ddylai unrhyw blant eraill gael eu lleoli gyda'r rhiant maeth ac ar ba sail.

(6Mae rhiant maeth y mae plentyn i'w leoli gydag ef yn unol â threfniadau a wneir o dan y rheoliad hwn, i'w drin, mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw, at ddibenion paragraff 12(d) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989 fel rhiant maeth awdurdod lleol.

(7Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw bryderon a all fod ganddo ynghylch y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan berson cofrestredig.

(8Yn y rheoliad hwn, ystyr “person cofrestredig” yw person sy'n berson cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth faethu annibynnol.

RHAN VIYMWELIADAU AWDURDOD LLEOL

Ymweliadau awdurdod lleol â phlant sydd wedi'u lleoli gan gyrff gwirfoddol

41.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol drefnu bod person sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol i ymweld â phob plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhiant maeth o fewn eu hardal gan gorff gwirfoddol fel a ganlyn—

(a)yn ddarostyngedig i reoliad 37(4), o fewn 28 diwrnod o'r lleoliad;

(b)o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais gan y corff gwirfoddol a wnaeth y lleoliad am ymweliad â phlentyn;

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol os yw'n cael ei hysbysu ei bod yn bosibl nad yw lles y plentyn yn cael ei ddiogelu na'i hybu; ac

(ch)bob chwe mis ar y mwyaf os yw'r awdurdod lleol wedi'i fodloni, yn dilyn ymweliad â phlentyn o dan y rheoliad hwn bod lles y plentyn yn cael ei ddiogelu a'i hybu.

(2Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bod person sy'n ymweld yn unol â pharagraff (1)—

(a)yn gweld y plentyn yn ystod yr ymweliad, neu os nad yw'r plentyn yno, ei fod yn gwneud trefniadau i weld y plentyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; a

(b)yn cymryd camau i ddarganfod a yw'r corff gwirfoddol a leolodd y plentyn wedi gwneud trefniadau addas i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn a'r rhai o dan adran 61 o Ddeddf 1989.

(3Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw bryderon a all fod ganddo ynghylch y corff gwirfoddol.

RHAN VIIASIANTAETHAU MAETHU (AMRYWIOL)

Adolygu ansawdd y gofal

42.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer—

(a)monitro'r materion a nodir yn Atodlen 7 bob hyn a hyn fel y bo'n briodol, a

(b)gwella ansawdd y gofal maeth sy'n cael ei ddarparu gan yr asiantaeth faethu.

(2Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol adroddiad ynglŷn ag unrhyw adolygiad a gynhaliwyd gan y person cofrestredig at ddibenion paragraff (1) a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar gais i'r personau a grybwyllwyd yn rheoliad 3(2).

(3Rhaid i'r system y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â rhieni maeth, plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth, a'u hawdurdod cyfrifol (onid, yn achos asiantaeth faethu sy'n gorff gwirfoddol, yr asiantaeth faethu yw'r awdurdod cyfrifol hefyd).

Digwyddiadau hysbysadwy

43.—(1Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 8 yn digwydd mewn perthynas ag asiantaeth faethu, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r personau a nodir yng ngholofn 2 o'r tabl yn ddi-oed ynglŷn â'r digwyddiad.

(2Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn.

Y sefyllfa ariannol

44.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg yr asiantaeth faethu mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r darparydd cofrestredig—

(a)sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cadw a'u cadw'n gyfoes mewn perthynas â'r asiantaeth faethu; a

(b)darparu copi o'r cyfrifon i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os yw'n gofyn amdanynt.

(3Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y bydd arno ei hangen er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth faethu, gan gynnwys—

(a)cyfrifon blynyddol yr asiantaeth faethu, a'r rheini wedi'u hardystio gan gyfrifydd;

(b)tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparwyr cofrestredig;

(c)gwybodaeth am adnoddau ariannol yr asiantaeth faethu a'i hadnoddau ariannol;

(ch)os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o gwmnïau cysylltiedig y darparydd cofrestredig; a

(d)tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r atebolrwydd a allai gael ei achosi gan y darparydd mewn perthynas â'r asiantaeth faethu ynghylch marwolaeth, niwed, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.

(4Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall, neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.

Hysbysu o absenoldeb

45.—(1Os yw'r rheolwr cofrestredig yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth faethu am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.

(2Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn y dyddiad y mae'r absenoldeb arfaethedig i fod i ddechrau, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu—

(a)pa mor hir fydd yr absenoldeb arfaethedig neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;

(b)y rheswm dros yr absenoldeb hwnnw;

(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth faethu yn ystod yr absenoldeb hwnnw;

(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am yr asiantaeth faethu yn ystod yr absenoldeb; a

(d)y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth faethu yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad erbyn pryd y mae'r penodiad i ddechrau.

(3Os yw'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi iddo ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(4Os yw'r rheolwr cofrestredig wedi bod yn absennol o'r asiantaeth faethu am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, a bod swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol heb gael ei hysbysu o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig yn ddi-oed i'r swyddfa honno, gan roi manylion am y materion a grybwyllwyd yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(5Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol fod y rheolwr cofrestredig wedi dychwelyd i'w ddyletswyddau a rhaid i'r hysbysiad hwnnw gael ei roi heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i'r rheolwr ddychwelyd.

Hysbysu o newidiadau

46.—(1Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd—

(a)bod person heblaw'r person cofrestredig yn cynnal neu'n rheoli'r asiantaeth faethu;

(b)bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r asiantaeth faethu;

(c)os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod yr unigolyn yn newid ei enw;

(ch)os corff yw'r darparydd cofrestredig—

(i)bod enw neu gyfeiriad y corff wedi newid;

(ii)bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff;

(iii)bod unrhyw newid yn mynd i ddigwydd o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol;

(d)os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi ar ei gyfer neu fod cyfamod neu drefniant yn cael ei wneud gyda chredydwyr; neu

(dd)os yw'r darparydd cofrestredig yn gwmni, neu mewn partneriaeth, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael ei benodi mewn perthynas â'r darparydd cofrestredig.

(2Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ac yn ddi-oed ynghylch marwolaeth y rheolwr cofrestredig.

Penodi datodwyr etc

47.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—

(a)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith ei fod wedi'i benodi, gan nodi'r rhesymau dros hynny;

(b)penodi rheolwr i gymryd gofal llawn-amser o ddydd i ddydd o'r asiantaeth faethu mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac

(c)o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o fwriadau'r person ynghylch gweithredu'r asiantaeth faethu yn y dyfodol.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)yn dderbynnydd neu'n rheolwr eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig asiantaeth faethu;

(b)yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig asiantaeth faethu; neu

(c)yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig asiantaeth faethu.

Tramgwyddau

48.—(1Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 3 i 23 a 42 i 46 yn dramgwydd.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg yn berson cofrestredig, ond nad ydyw bellach, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 22 ar ôl i'r person roi'r gorau i fod yn berson cofrestredig.

Cydymffurfio â rheoliadau

49.  Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth faethu, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth sy'n ofynnol ei wneud o dan y rheoliadau hyn gan y person cofrestredig, os yw wedi cael ei wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

RHAN VIIIAMRYWIOL

Cofrestru

50.—(1Mae “Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002”(14) yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn y paragraff sy'n dwyn y pennawd “SCHEDULES” ac yn rheoliadau 2(2), 4(2), 4(3), 4(6), 9(b), 9(d), 9(e), 9(h), 10, 12(3)(c), 13, 14, 15(4)(f) ac ym mharagraffau 1(e)(ii), 3(c), 3(d), 4, 5, 6, 7, 8, 11(a), 12(a), 13, 14 o Atodlen 1 ac ym mharagraffau 3(1), 7, 9, 10(1)(a)(i), 10(2)(a), 10(2)(b), 10(2)(c) o Atodlen 2 ac ym mharagraffau 3, 6(b), 7, 11 o Atodlen 3,

  • yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or agency”;

(3Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniadau o “registered manager”, “registered person”, “registered provider”, “representative”, “responsible individual”, yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or agency”;

(4Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “service user”, yn lle “establishment” rhowch “establishment or by an agency”;

(5Yn rheoliad 4(5) ac ym mharagraffau 15, 16(a), 16(d) o Atodlen 1, yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or for the purposes of the agency”;

(6Yn rheoliad 8(1), yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf “establishment or agency” ac “establishment or for the purposes of the agency” yr ail dro;

(7Yn rheoliad 12(3)(c)(i), yn lle “establishment” rhowch “establishment or for the purposes of an agency”;

(8Yn rheoliad 15(4)(b) ac ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ac ym mharagraff 10 o Atodlen 3, yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or by the agency”;

(9Yn rheoliad 15(4)(d), yn lle “establishment is” rhowch “establishment or the premises used by the agency are”;

(10Ym mharagraff 1(b) o Atodlen 1, yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf “establishment or agency” ac “establishment or by the agency” yr ail dro;

(11Ym mharagraff 2(c) o Atodlen 1, yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf a'r ail dro “establishment or agency” ac “establishment or by the agency” y trydydd tro;

(12Ym mharagraffau 5 a 13 o Atodlen 1, yn lle “section 4(8)(a)” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “section 4(8)(a) or (9)(a)”;

(13Ym mharagraff 11 o Atodlen 1, yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf “establishment or for the purposes of an agency”;

(14Ym mharagraff 16 o Atodlen 1, yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf “establishment or for the purposes of the agency”;

(15Ym mharagraff 2 o Atodlen 3, yn lle “establishment” rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf “establishment or agency” ac “establishment or by the agency” yr ail dro.

(16Yn rheoliad 2(1),

(a)yn y man priodol, mewnosodwch—

“fostering service” means—

(a)

a fostering agency within the meaning of the Act; or

(b)

a local authority fostering service;;

“local authority fostering service” means the discharge by a local authority of relevant fostering functions within the meaning of the Act;

(b)yn y diffiniad o “appropriate office”, ar ôl is-adran (d) mewnosodwch—

(e)in relation to a fostering service—

(i)if an office has been specified under regulation 2(2) of the Fostering Services (Wales) Regulations 2003 (15) for the area in which the fostering service, as the case may be, is situated, that office;

(ii)in any other case, any office of the National Assembly.;

(c)yn y diffiniad o “statement of purpose”, ar ôl is-adran (d) mewnosodwch—

(e)in relation to a fostering service, the written statement required to be compiled in relation to the fostering service in accordance with regulation 3(1) of the Fostering Services (Wales) Regulations 2003;.

Ffioedd

51.—(1Mae “Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002”(16) yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn y paragraff sy'n dwyn y pennawd “Arrangement of Regulations”, dylid ychwanegu'r llinell ganlynol ar y diwedd “12. Annual fee — fostering agencies and local authority fostering services”.

(3Yn rheoliad 2(1), (a) yn y mannau priodol mewnosodwch—

“agency” means a fostering agency;

“local authority fostering service” means the discharge by a local authority of relevant fostering functions within the meaning of the Act;”;

(b)

yn y diffiniadau o “new provider”, “previously exempt provider”, “registered manager”, “registered provider”, yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or agency”;

(c)

yn y diffiniad o “service user” yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or by an agency”.

(4Yn rheoliadau 2(2) a 4(3) yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or agency”.

(5Yn rheoliad 3 yn lle “establishment” ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch “establishment or an agency”.

(6Ar ôl rheoliad 11 (Annual fee — residential family centres), mewnosodir y rheoliad canlynol—

Annual fee — fostering agencies and local authority fostering services

12.(1) The annual fee in respect of a fostering agency is £ 1,000.

(2) The annual fee in respect of a local authority fostering service is £ 1,000.

(3) The annual fee in respect of a fostering agency or a local authority fostering service is to be first payable by the registered provider on the date specified in respect of him or her in paragraph (4)(“the first date”), and thereafter on the anniversary of the first date.

(4) The specified date is—

(a)in the case of a fostering agency, on 1 April 2004, or on the date on which the certificate is issued, whichever is the later;

(b)in the case of a local authority fostering service—

(i)in a case of a local authority which is discharging relevant fostering functions on the date on which the Fostering Services (Wales) Regulations 2003 come into force, on 1 April 2003;

(ii)in any other case, on the date on which such functions are first discharged.

Darpariaethau trosiannol

52.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu o fewn ystyr “fostering agency” yn adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000 (corff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989) sydd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i asiantaeth faethu y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, fel petai unrhyw gyfeiriad ynddynt at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person sy'n rhedeg yr asiantaeth(17)

(a)tan yr amser y caniateir y cais neu'r cofrestriad, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os caiff y cais ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, ac sydd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000.

(4Os yw awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn wedi'i fodloni y dylai'r plentyn gae ei leoli gyda rhieni maeth, cânt wneud trefniadau, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod arnynt gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37 gael eu cyflawni ar eu rhan gan y corff gwirfoddol y mae paragraff (3) yn gymwys iddo (“darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig”)—

(a)tan yr amser y caniateir y cais neu'r cofrestriad, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig yn unig i amodau y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y person hwnnw a'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau na chytunwyd arnynt felly, neu os caiff y cais ei wrthod—

(i)os na ddygir apêl, nes bod y cyfnod o 28 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r darparydd hwnnw wedi dod i ben; neu

(ii)os dygir apêl, nes iddi gael ei phenderfynu neu ei gollwng.

(5Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (4) oni bai—

(a)ei fod wedi'i fodloni—

(i)ynglyn â gallu'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig i gyflawni dyletswyddau ar ei ran; a

(ii)mai'r trefniadau hynny yw'r ffordd fwyaf addas o gyflawni'r dyletswyddau hynny; a

(b)ei fod yn gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig ynglŷn â'r trefniadau, a hwnnw'n gytundeb sy'n darparu ar gyfer ymgynghori a chyfnewid gwybodaeth ac adroddiadau rhwng yr awdurdod lleol a'r darparydd wirfoddol annibynnol anghofrestredig.

(6Mae paragraffau (2) a (4) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 2 o Orchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 8 (Cymru) a Darpariaethau Trosiannol, Arbedion, Darpariaethau Canlyniadol a Darpariaethau Diwygio) 2002 ac i is-baragraffau (5) a (6) o baragraff 5 o Atodlen 1 iddi (cais gan y Cynulliad Cenedlaethol i ynad hedd)(18).

(7Ni fydd rheoliad 20(5) yn gymwys i unrhyw berson y byddai'n gymwys iddo ar wahân i'r rheoliad hwn, os yw'r person eisoes yn cael ei gyflogi ar 1 Ebrill 2003 gan ddarparydd gwasanaeth maethu mewn sefyllfa y mae paragraff (6) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddo.

Dirymu

53.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu—

(a)Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991(19)

(b)rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Lleoliadau Byr-dymor) (Diwygiadau Amrywiol) 1995(20)

(c)rheoliad 3 o Reoliadau Plant (Eu Hamddiffyn Rhag Tramgwyddwyr) (Diwygiadau Amrywiol) 1997(21))

(ch)rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Eu Hamddiffyn Rhag Tramgwyddwyr) (Diwygio) (Cymru) 2001(22) i'r graddau y mae'n diwygio Rheoliadau Lleoliadau Maeth (Plant) 1991.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(23)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2003

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources