Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Wedi'u gwneud
6 Chwefror 2003
Yn dod i rym
1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 22(1), (2)(a) i (c), (e) i (j), (6), (7)(a) i (h), (j), 25(1), 34(1), 35(1), 48(1), 118(5), (6) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) ac adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2) a 62(3) o Ddeddf Plant 1989(2) a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi, ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol(3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
2000 p.14. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, sydd wedi'i ddiffinio yn adran 121(1) o'r Ddeddf Safonau Gofal, mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae “prescribed” a “regulations” wedi'u diffinio yn adran 121(1) o'r Ddeddf honNo.
1989 p.41. Caiff swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 eu gwneud yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys Deddf 1989 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672 (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).
Gweler adran 22(9) o Ddeddf 2000 am y gofyniad i ymghynghori.