- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth faethu oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth faethu oni bai bod y person—
(a)yn achos asiantaeth faethu annibynnol, yn unigolyn sy'n rhedeg yr asiantaeth faethu; neu
(b)yn gorff a—
(i)bod y corff wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a safle unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) yn y corff a hwnnw'n unigolyn sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth yr asiantaeth faethu; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Y gofynion yw:
(a)bod yr unigolyn yn onest ac o gymeriad da;
(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth faethu; ac
(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r unigolyn mewn perthynas â phob mater a bennir yn Atodlen 1.
(4) Rhaid i berson peidio â rhedeg asiantaeth faethu—
(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu
(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
6.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn, ac eithrio'r darparydd cofrestredig, i reoli'r asiantaeth faethu.
(2) Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid iddo beidio â phenodi yn rheolwr yr unigolyn cyfrifol.
(3) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—
(a)o enw unrhyw berson a benodwyd yn unol â'r rheoliad hwn; a
(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i ddod yn effeithiol.
7.—(1) Rhaid i berson beidio â rheoli asiantaeth faethu oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth faethu oni bai—
(a)bod y person yn onest ac o gymeriad da;
(b)o roi sylw i faint yr asiantaeth faethu, ei datganiad o ddiben a nifer ac anghenion y plant sydd wedi'u lleoli ganddi—
(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r asiantaeth faethu; a
(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli asiantaeth faethu;
(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 1.
8.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw—
(a)i ddatganiad o ddiben yr asiantaeth faethu, ei maint, a nifer ac anghenion y plant sydd wedi'u lleoli ganddi; a
(b)i'r angen i ddiogelu a hybu lles y plant sydd wedi'u lleoli gan yr asiantaeth faethu,
redeg neu reoli'r asiantaeth faethu (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig—
(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd;
(b)yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd;
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod gan yr unigolyn y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth faethu.
(3) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod gan y rheolwr hwnnw y medrau y mae eu hangen i redeg yr asiantaeth faethu.
9. Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru a Lloegr neu mewn man arall, rhaid i'r person sydd wedi'i gollfarnu hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—
(a)o dyddiad a man y collfarniad,
(b)o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac
(c)o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.
10.—(1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli gwasanaeth maethu'r awdurdod lleol a rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith —
(a)o enw'r person a benodwyd; a
(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i ddod yn effeithiol.
(2) Mae rheoliadau 7, 8, a 9 i fod yn gymwys i reolwr gwasanaeth maethu awdurdod lleol, mewn perthynas â'r gwasanaeth hwnnw, fel y bônt yn gymwys i reolwr asiantaeth faethu mewn perthynas â'r asiantaeth faethu.
(3) Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os yw'r person a benodwyd o dan baragraff (1) yn rhoi'r gorau i reoli gwasanaeth maethu'r awdurdod lleol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: