- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
42.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer—
(a)monitro'r materion a nodir yn Atodlen 7 bob hyn a hyn fel y bo'n briodol, a
(b)gwella ansawdd y gofal maeth sy'n cael ei ddarparu gan yr asiantaeth faethu.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol adroddiad ynglŷn ag unrhyw adolygiad a gynhaliwyd gan y person cofrestredig at ddibenion paragraff (1) a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar gais i'r personau a grybwyllwyd yn rheoliad 3(2).
(3) Rhaid i'r system y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â rhieni maeth, plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth, a'u hawdurdod cyfrifol (onid, yn achos asiantaeth faethu sy'n gorff gwirfoddol, yr asiantaeth faethu yw'r awdurdod cyfrifol hefyd).
43.—(1) Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 8 yn digwydd mewn perthynas ag asiantaeth faethu, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r personau a nodir yng ngholofn 2 o'r tabl yn ddi-oed ynglŷn â'r digwyddiad.
(2) Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn.
44.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg yr asiantaeth faethu mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig—
(a)sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cadw a'u cadw'n gyfoes mewn perthynas â'r asiantaeth faethu; a
(b)darparu copi o'r cyfrifon i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os yw'n gofyn amdanynt.
(3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y bydd arno ei hangen er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth faethu, gan gynnwys—
(a)cyfrifon blynyddol yr asiantaeth faethu, a'r rheini wedi'u hardystio gan gyfrifydd;
(b)tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparwyr cofrestredig;
(c)gwybodaeth am adnoddau ariannol yr asiantaeth faethu a'i hadnoddau ariannol;
(ch)os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o gwmnïau cysylltiedig y darparydd cofrestredig; a
(d)tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r atebolrwydd a allai gael ei achosi gan y darparydd mewn perthynas â'r asiantaeth faethu ynghylch marwolaeth, niwed, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.
(4) Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall, neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.
45.—(1) Os yw'r rheolwr cofrestredig yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth faethu am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(2) Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn y dyddiad y mae'r absenoldeb arfaethedig i fod i ddechrau, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu—
(a)pa mor hir fydd yr absenoldeb arfaethedig neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;
(b)y rheswm dros yr absenoldeb hwnnw;
(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth faethu yn ystod yr absenoldeb hwnnw;
(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am yr asiantaeth faethu yn ystod yr absenoldeb; a
(d)y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth faethu yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad erbyn pryd y mae'r penodiad i ddechrau.
(3) Os yw'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi iddo ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(4) Os yw'r rheolwr cofrestredig wedi bod yn absennol o'r asiantaeth faethu am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, a bod swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol heb gael ei hysbysu o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig yn ddi-oed i'r swyddfa honno, gan roi manylion am y materion a grybwyllwyd yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol fod y rheolwr cofrestredig wedi dychwelyd i'w ddyletswyddau a rhaid i'r hysbysiad hwnnw gael ei roi heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i'r rheolwr ddychwelyd.
46.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd—
(a)bod person heblaw'r person cofrestredig yn cynnal neu'n rheoli'r asiantaeth faethu;
(b)bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r asiantaeth faethu;
(c)os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod yr unigolyn yn newid ei enw;
(ch)os corff yw'r darparydd cofrestredig—
(i)bod enw neu gyfeiriad y corff wedi newid;
(ii)bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff;
(iii)bod unrhyw newid yn mynd i ddigwydd o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol;
(d)os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael ei benodi ar ei gyfer neu fod cyfamod neu drefniant yn cael ei wneud gyda chredydwyr; neu
(dd)os yw'r darparydd cofrestredig yn gwmni, neu mewn partneriaeth, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael ei benodi mewn perthynas â'r darparydd cofrestredig.
(2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ac yn ddi-oed ynghylch marwolaeth y rheolwr cofrestredig.
47.—(1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—
(a)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith ei fod wedi'i benodi, gan nodi'r rhesymau dros hynny;
(b)penodi rheolwr i gymryd gofal llawn-amser o ddydd i ddydd o'r asiantaeth faethu mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac
(c)o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o fwriadau'r person ynghylch gweithredu'r asiantaeth faethu yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—
(a)yn dderbynnydd neu'n rheolwr eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig asiantaeth faethu;
(b)yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig asiantaeth faethu; neu
(c)yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig asiantaeth faethu.
48.—(1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 3 i 23 a 42 i 46 yn dramgwydd.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg yn berson cofrestredig, ond nad ydyw bellach, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 22 ar ôl i'r person roi'r gorau i fod yn berson cofrestredig.
49. Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth faethu, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth sy'n ofynnol ei wneud o dan y rheoliadau hyn gan y person cofrestredig, os yw wedi cael ei wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: