- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
20.—(1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu beidio â gwneud y canlynol—
(a)cyflogi person i weithio at ddibenion y gwasanaeth maethu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth maethu; neu
(b)caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, weithio at ddibenion y gwasanaeth maethu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio dros wasanaeth maethu.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan berson heblaw darparydd y gwasanaeth maethu mewn swydd lle gallai wrth gyflawni ei ddyletswyddau gael cysylltiad rheolaidd â phlant sydd wedi'u lleoli gan y gwasanaeth maethu.
(3) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio i wasanaeth maethu oni bai—
(a)bod y person yn onest ac o gymeriad da;
(b)bod gan y person y cymwysterau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
(c)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni; ac
(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ynglyn â'r person ar gael mewn perthynas â phob mater a bennir yn Atodlen 1.
(4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio i wasanaeth maethu nad yw'n cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaeth maethu ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei oruchwylio'n briodol tra bydd yn cyflawni ei ddyletswyddau.
(5) Yn ddarostyngedig i reoliad 52(7), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu beidio â chyflogi person i weithio at ddibenion y gwasanaeth maethu mewn swydd y mae paragraff (6) yn gymwys iddi—
(a)sy'n rhiant maeth a gymeradwywyd gan y gwasanaeth maethu, neu
(b)sy'n aelod o aelwyd rhiant maeth o'r fath.
(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw swydd reoli, swydd gwaith cymdeithasol neu swydd broffesiynol arall, oni bai bod y gwaith, yn achos swydd nad yw'n swydd reoli nac yn swydd gwaith cymdeithasol, yn cael ei wneud yn achlysurol, fel gwirfoddolwr, am nid mwy na phum awr mewn unrhyw wythnos.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: