Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Ardal Deithio Gyffredin” (“the Common Travel Area”) yw'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda'i gilydd;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 1996; ac

  • ystyr “y rheolau mewnfudo” (“the immigration rules”) yw'r rheolau a osodir fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 19712 (darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheolaeth).