Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys4

Dyma'r dosbarthiadau o bobl sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac a ragnodwyd at ddibenion adran 160A(3) o'r Ddeddf (personau a ragnodwyd fel rhai cymwys i ddyraniad o lety tai gan awdurdod tai lleol)—

a

Dosbarth A-person a gofnodwyd fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn diffiniad erthygl 1 o'r Confensiwn sy'n ymwneud â statws Ffoaduriaid ac a wnaethpwyd yng Ngenefa 28 Gorffennaf 19515 fel yr estynnwyd gan Erthygl 1(2) o'r Protocol sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid ac a wnaethpwyd yn Efrog Newydd 31 Ionawr 19676);

b

Dosbarth B-person—

i

a gafodd ganiatâd arbennig gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i ddarpariaethau'r rheolau mewnfudo; a

ii

nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n ei wneud yn ofynnol iddo ei gynnal a'i letya ei hun, ac unrhyw berson sy'n ddibynnol arno, heb fynd ar ofyn cronfeydd cyhoeddus;

c

Dosbarth C-person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ac nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin heblaw person—

i

a gafodd ganiatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar sail ymgymeriad ysgrifenedig a roddwyd gan berson arall (“noddwr” y person hwnnw) yn unol â'r rheolau mewnfudo i fod yn gyfrifol am gynhaliaeth a llety'r person hwnnw;

ii

a fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad pan ddaeth i mewn i'r wlad neu'r dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad a grybwyllir uchod mewn perthynas â'r person hwnnw, p'un bynnag yw'r diweddaraf; a

iii

y mae ei noddwr neu, os bydd rhagor nag un noddwr, o leiaf un o'i noddwyr, yn fyw o hyd;

d

Dosbarth Ch-person sydd fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin ac sy'n—

i

wladolyn gwladwriaeth a gadarnhaodd Gonfensiwn Ewrop ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaethpwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 19537 neu wladwriaeth a gadarnhaodd Siarter Gymdeithasol Ewrop a wnaethpwyd yn Nhorino (Turin) ar 18 Hydref 19618 ac sy'n gyfreithiol bresennol yn y Deyrnas Unedig; neu

ii

cyn 3 Ebrill 2000 yr oedd ar awdurdod tai ddyletswydd iddo o dan Ran III o Ddeddf Tai 19859 (cartrefu'r digartref) neu Ran VII o'r Ddeddf (digartrefedd) sy'n bodoli, ac sy'n wladolyn gwladwriaeth a lofnododd Gonfensiwn Ewrop ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaethpwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953 neu wladwriaeth a lofnododd Siarter Gymdeithasol Ewrop ar 18 Hydref 1961.