Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(5) nad ydynt yn bersonau cymwys

5.  Dosbarth o bersonau, nad ydynt yn bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, ac a ragnodwyd at ddibenion adran 160A(5) o'r Ddeddf (personau a ragnodwyd yn anghymwys i gael dyraniad llety tai) yw'r canlynol—

Dosbarth D-person nad yw fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin heblaw—

(a)gweithiwr at ddibenion Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 1612/68(1) neu (CEE) Rhif 1251/70(2);

(b)person a chanddo hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn unol â Gorchymyn Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2000(3) ac sy'n deillio o Cyfarwyddeb y Cyngor Rhif 68/360/CEE(4)) neu Rif 73/148/CEE(5);

(c)person sydd wedi ymadael â thriogaeth Montserrat ar ôl 1 Tachwedd 1995 oherwydd effaith ffrwydrad folcanig ar y diriogaeth honno.

(1)

OJ Rhif L 257 19.10.68, t. 2, Argraffiad Arbennig 1968 (II) t.475, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

OJ Rhif L 142 30.6.70, t.24 Argraffiad Arbennig 1970 (II) t.402.

(4)

OJ Rhif L 257 19.10.68, t. 13, Argraffiad Arbennig 1968 (II) t.485, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(5)

OJ Rhif L 172 28.6.73, t.14.