Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau 7(3), 9(2) a 12(2)

ATODLEN 2YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Å DARPARWYR A RHEOLWYR COFRESTREDIG ASIANTAETH A NYRSYS SY'N GYFRIFOL AM DDEWIS NYRSYS I'W CYFLENWI I DDEFNYDDWYR GWASANAETH

1.  Prawf o bwy yw'r person, gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Naill ai —

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n gysylltiedig ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(1), neu os yw'r swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o'r Ddeddf honno(2), tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 133(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno(3).

3.  Dau dystlythyr, gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf nad oedd wedi para'n llai na thri mis.

4.  Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd a oedd yn golygu gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.

5.  Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.

7.  Mewn perthynas â nyrs y mae rheoliad 12(2) yn gymwys iddi, cadarnhad o'i chofrestriad cyfredol â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(4), gan gynnwys manylion am y Rhan o'r gofrestr y mae enw'r nyrs wedi'i gofrestru ynddi.

8.  Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.

9.  Gwiriad heddlu, sef adroddiad a luniwyd gan neu ar ran prif swyddog heddlu o fewn ystyr “chief officer” yn Neddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cofnodi, adeg llunio'r adroddiad, bob tramgwydd troseddol —

(a)yr oedd y person wedi'i gollfarnu o'i herwydd gan gynnwys collfarnau sydd wedi'u disbyddu o fewn ystyr “spent” yn Neddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(5) ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(6)); neu

(b)yr oedd y person wedi'i rybuddio amdanynt ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd.

(1)

Mewnosodwyd adran 115(5)(ea) gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104.

(2)

Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw'n fath a bennir mewn rheoliadau ac os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau sy'n 18 oed neu drosodd, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio, neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.

(3)

Mae adran 113(3A) ac 115(6A) wedi'u hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14), ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannau 113(3C) a 115(6B) i'w hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.

(4)

Mae'r gofrestr yn cael ei chadw yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 2 i Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001 (O.S. 2002/253).

(6)

O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, O.S. 1986/2268 ac O.S. 2001/1192.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources