- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
1 Hydref 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan adran 43(6) a (7) o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'n dweud fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001.
2. Y diwrnod penodedig pan ddaw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yw 8 Hydref 2003.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Hydref 2003
Erthygl 4
Y Ddarpariaeth | Y Pwnc |
---|---|
Adran 14 | Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd |
Adran 15 | Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd: gweithdrefn |
Adran 22 (i'r graddau y mae'n rhoi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cyfarwyddiadau o dan adran 28M(1) neu (3) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 neu yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddyd o'r fath) | Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Cynulliad Cenedlaethol |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 8 Hydref 2003 weddill darpariaethau Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 nad ydynt mewn grym yng Nghymru ar ddyddiad y Gorchymyn hwn, fel na fydd angen Gorchymyn pellach mewn perthynas â Chymru.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau mewn perthynas â strategaethau a chynlluniau hygyrchedd, o dan ddarpariaethau Rhan 2 o'r Ddeddf (gwahaniaethu ar sail anabledd mewn addysg).
Mae'r darpariaethau hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddiadau i awdurdodau addysg lleol ynghylch cyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau a chynlluniau hygyrchedd neu i wneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddiadau o'r fath.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 10 (yn rhannol) | 8 Rhagfyr 2001 | 2001/3992 (C. 127) |
Paragraffau 3 ac 14 o Atodlen 1 (yn rhannol) | 8 Rhagfyr 2001 | 2001/3992 (C. 127) |
Adran 1 (yn rhannol) | 21 Ionawr 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Adran 8 (yn rhannol) | 21 Ionawr 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Adran 42(1) (yn rhannol) | 21 Ionawr 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Paragraffau 17 ac 18 o Atodlen 8 (yn rhannol) | 21 Ionawr 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Adran 4 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Adran 5 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Adran 6 | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Adran 10 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Adran 41 | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Adran 42(1) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) yn rhannol | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Adran 42(2)—(4) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Adran 42(6) yn rhannol | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Paragraffau 1 hyd 20 o Atodlen 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Yn Atodlen 8, paragraffau 13(1) hyd (4) a 15 | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Yn Atodlen 9, y diddymiadau canlynol i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru — | ||
yn Neddf Addysg 1996, yn adran 336(2), paragraff (d) ac yn adran 441(3)(a), y geiriau “in accordance with paragraph 10 of Schedule 27”; ac | ||
yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn Atodlen 30, paragraff 186(2)(b). | 1 Ebrill 2002 | 2001/3992 (C. 127) |
Adran 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Adrannau 2 a 3 | 1 Ebrill 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Adran 7 | 1 Ebrill 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Adran 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Adran 9 | 1 Ebrill 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Adran 42(1) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) yn rhannol | 1 Ebrill 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Adran 42(6) yn rhannol | 1 Ebrill 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Yn Atodlen 8, paragraffau 1, 5 hyd 12, 14, 16 hyd 18 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 1 Ebrill 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
Yn Atodlen 9, y diddymiadau canlynol i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru — | 1 Ebrill 2002 | 2002/74 (Cy.8) (C.1) |
yn Neddf Pobl Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychiolaeth) 1986, adran 5(1); ac | ||
yn Neddf Addysg 1996 — | ||
yn adran 325(1), y geiriau “, and of the effect of subsection (2) below”; ac | ||
yn Atodlen 27, paragraff 3(4), paragraff 8(1)(b)(iii), ym mharagraff 9(1) y geiriau “amend, or” a “10 or”, a pharagraff 10. | ||
Adran 26, at ddibenion caniatáu dynodi sefydliadau addysgol yn unol ag adrannau 28R(6)(c) a 28R(7)(e) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 | 30 Mai 2002 | 2002/1647 (C. 49) |
Adran 31 | 30 Mai 2002 | 2002/1647 (C. 49) |
Adran 19 is-adran (1), yn rhannol | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1721 (C. 50) |
Yn adran 36, is-adran (2) ac is-adran (1) i'r graddau y maent yn berthnasol i is-adran (2) | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1721 (C. 50) |
Paragraff 13(5) o Atodlen 8 | 1 Gorffennaf 2002 | 2002/1721 (C. 50) |
Adrannau 11 i 13 yn gynhwysol | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adrannau 16 i 18 yn gyn hwysol | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adran 19 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adrannau 20 a 21 | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adran 22 (ac eithrio i'r graddau y mae'n rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddiadau o dan adran 28M(1) neu (3) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 neu wneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddyd o'r fath) | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adrannau 23 i 25 yn gynhwysoi | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adran 26 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adran 27 | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adran 28 (yn ddarostynedig i erthygl 6 o O.S. 2002/2217(C.71)) | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adran 29 | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adran 30 | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adrannau 32 i 35 yn gynhwysol | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adran 36 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adrannau 37 i 40 yn gynhwysol | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adran 41 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Adran 42 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Atodlenni 2 i 7 yn gynhwysol | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Atodlen 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Atodlen 9 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Medi 2002 | 2002/2217 (C.71) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: