xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2532 (Cy.247) (C.94)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

1 Hydref 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan adran 43(6) a (7) o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

(3Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'n dweud fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001.

Y diwrnod penodedig

2.  Y diwrnod penodedig pan ddaw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yw 8 Hydref 2003.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Hydref 2003

Erthygl 4

YR ATODLENDARPARIAETHAU YN DOD I RYM AR 8 HYDREF 2003

Y DdarpariaethY Pwnc
Adran 14Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd
Adran 15Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd: gweithdrefn
Adran 22 (i'r graddau y mae'n rhoi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cyfarwyddiadau o dan adran 28M(1) neu (3) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 neu yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddyd o'r fath)Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Cynulliad Cenedlaethol

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 8 Hydref 2003 weddill darpariaethau Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 nad ydynt mewn grym yng Nghymru ar ddyddiad y Gorchymyn hwn, fel na fydd angen Gorchymyn pellach mewn perthynas â Chymru.

Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau mewn perthynas â strategaethau a chynlluniau hygyrchedd, o dan ddarpariaethau Rhan 2 o'r Ddeddf (gwahaniaethu ar sail anabledd mewn addysg).

Mae'r darpariaethau hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cyfarwyddiadau i awdurdodau addysg lleol ynghylch cyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau a chynlluniau hygyrchedd neu i wneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddiadau o'r fath.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad cychwynRhif O.S.
Adran 10 (yn rhannol)8 Rhagfyr 20012001/3992 (C. 127)
Paragraffau 3 ac 14 o Atodlen 1 (yn rhannol)8 Rhagfyr 20012001/3992 (C. 127)
Adran 1 (yn rhannol)21 Ionawr 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 8 (yn rhannol)21 Ionawr 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 42(1) (yn rhannol)21 Ionawr 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Paragraffau 17 ac 18 o Atodlen 8 (yn rhannol)21 Ionawr 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 4 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Adran 5 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Adran 61 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Adran 10 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Adran 411 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Adran 42(1) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) yn rhannol1 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Adran 42(2)—(4) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Adran 42(6) yn rhannol1 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Paragraffau 1 hyd 20 o Atodlen 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)1 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Yn Atodlen 8, paragraffau 13(1) hyd (4) a 151 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Yn Atodlen 9, y diddymiadau canlynol i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru —
yn Neddf Addysg 1996, yn adran 336(2), paragraff (d) ac yn adran 441(3)(a), y geiriau “in accordance with paragraph 10 of Schedule 27”; ac
yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn Atodlen 30, paragraff 186(2)(b).1 Ebrill 20022001/3992 (C. 127)
Adran 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Ebrill 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Adrannau 2 a 31 Ebrill 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 71 Ebrill 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Ebrill 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 91 Ebrill 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 42(1) (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) yn rhannol1 Ebrill 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Adran 42(6) yn rhannol1 Ebrill 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Yn Atodlen 8, paragraffau 1, 5 hyd 12, 14, 16 hyd 18 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)1 Ebrill 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
Yn Atodlen 9, y diddymiadau canlynol i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru —1 Ebrill 20022002/74 (Cy.8) (C.1)
yn Neddf Pobl Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychiolaeth) 1986, adran 5(1); ac
yn Neddf Addysg 1996 —
yn adran 325(1), y geiriau “, and of the effect of subsection (2) below”; ac
yn Atodlen 27, paragraff 3(4), paragraff 8(1)(b)(iii), ym mharagraff 9(1) y geiriau “amend, or” a “10 or”, a pharagraff 10.
Adran 26, at ddibenion caniatáu dynodi sefydliadau addysgol yn unol ag adrannau 28R(6)(c) a 28R(7)(e) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 199530 Mai 20022002/1647 (C. 49)
Adran 3130 Mai 20022002/1647 (C. 49)
Adran 19 is-adran (1), yn rhannol1 Gorffennaf 20022002/1721 (C. 50)
Yn adran 36, is-adran (2) ac is-adran (1) i'r graddau y maent yn berthnasol i is-adran (2)1 Gorffennaf 20022002/1721 (C. 50)
Paragraff 13(5) o Atodlen 81 Gorffennaf 20022002/1721 (C. 50)
Adrannau 11 i 13 yn gynhwysol1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adrannau 16 i 18 yn gyn hwysol1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adran 19 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adrannau 20 a 211 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adran 22 (ac eithrio i'r graddau y mae'n rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddiadau o dan adran 28M(1) neu (3) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 neu wneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarwyddyd o'r fath)1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adrannau 23 i 25 yn gynhwysoi1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adran 26 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adran 271 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adran 28 (yn ddarostynedig i erthygl 6 o O.S. 2002/2217(C.71))1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adran 291 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adran 301 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adrannau 32 i 35 yn gynhwysol1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adran 36 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adrannau 37 i 40 yn gynhwysol1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adran 41 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Adran 42 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Atodlenni 2 i 7 yn gynhwysol1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Atodlen 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Medi 20022002/2217 (C.71)
Atodlen 9 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)1 Medi 20022002/2217 (C.71)