Search Legislation

Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2909 (Cy.275)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

12 Tachwedd 2003

Yn dod i rym

13 Tachwedd 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 47A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol(2).

RHAN 1CYFLWYNIAD

Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

(3Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “aelod o'r tu allan i'r ysgolion” (“non-schools member”), o ran fforwm ysgolion, yw aelod nad yw'n aelod ysgolion;

ystyr “aelod ysgolion” (“schools member”), o ran fforwm ysgolion, yw aelod a etholir i gynrychioli cyrff llywodraethu neu benaethiaid ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”), o ran fforwm ysgolion, yw'r awdurdod addysg lleol sydd yn sefydlu'r fforwm;

ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw unrhyw gorff (gan gynnwys unrhyw gorff neu berson y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(4)(a), (b) ac (c) a'r awdurdod ei hunan ond heb gynnwys Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant) a enwir gan yr awdurdod perthnasol fel un y mae'n briodol ei gynrychioli yn y fforwm;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “y meini prawf cymhwyso” (“the eligibility criteria”) yw'r meini prawf a bennir gan yr awdurdod perthnasol yn feini prawf y mae'n rhaid i rywun eu bodloni os yw am fod yn gymwys i gael ei enwebu gan y corff perthnasol dan sylw ar gyfer cael ei benodi i'r fforwm ysgolion a sefydlir gan yr awdurdod hwnnw; ac

ystyr “ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol” (“schools maintained by the relevant authority”) yw pob ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol arbennig sefydledig, ac ysgol wirfoddol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol.

(4Yn y Rheoliadau hyn, nid yw cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys cyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) ac nid yw cyfeiriad at lywodraethwr yn cynnwys cyfeiriad at aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd.

RHAN 2SEFYDLU, CYFANSODDIAD, CYFARFODYDD A THRAFODION

Sefydlu fforwm ysgolion

2.  Rhaid i bob awdurdod addysg lleol, yn unol â'r Rheoliadau hyn, sefydlu fforwm ysgolion i'w ardal erbyn 15 Rhagfyr 2003.

Aelodau: cyffredinol

3.—(1Rhaid bod o leiaf 15 o aelodau mewn fforwm wedi eu penodi gan yr awdurdod perthnasol.

(2Ni chaiff yr awdurdod perthnasol benodi mwy na chwarter holl aelodau'r fforwm yn aelodau o'r tu allan i'r ysgolion i gynrychioli cyrff perthnasol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r fforwm gynnwys aelodau ysgolion yn unig.

(4Rhaid i aelodau ysgolion ac aelodau o'r tu allan i'r ysgolion gael eu penodi drwy offeryn ysgrifenedig i fod yn aelod am dymor a bennir yn yr offeryn hwnnw.

(5Caiff yr awdurdod perthnasol ddod ag aelodaeth unrhyw aelod ysgolion i ben cyn i'w dymor aelodaeth ddod i ben os nad yw'r aelod dan sylw bellach yn bennaeth neu yn llywodraethwr yr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol y bu'n gymwys i gael ei benodi i'r fforwm o'i herwydd.

(6Caiff yr awdurdod perthnasol ddod ag aelodaeth unrhyw aelod o'r tu allan i'r ysgolion i ben os nad yw bellach yn bodloni'r meini prawf cymhwyso y bu'n gymwys i gael ei enwebu ar gyfer ei benodi i'r fforwm o'u herwydd.

Ethol a phenodi'r aelodau ysgolion

4.—(1Rhaid i'r awdurdod perthnasol benodi, i fod yn aelodau ysgolion, gynrychiolwyr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol sydd wedi eu hethol yn unol â gweithdrefnau a bennir gan yr awdurdod perthnasol.

(2Wrth bennu'r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

(a)rhaid i'r awdurdod perthnasol wneud trefniadau er mwyn sicrhau bod aelodau ysgolion yn cynnwys nifer gyfatebol o gynrychiolwyr ysgolion cynradd ac o gynrychiolwyr ysgolion uwchradd, wedi ystyried cyfanswm y disgyblion sydd yn yr ysgolion cynradd, cyfanswm y disgyblion sydd yn yr ysgolion uwchradd a chyfanswm yr aelodau ysgolion sydd i gael eu hethol o dan y gweithdrefnau hynny sydd i fod yn gynrychiolwyr ysgolion cynradd ac uwchradd;

(b)os yw'r awdurdod perthnasol yn cynnal un neu fwy o ysgolion arbennig, rhaid iddo sicrhau bod o leiaf un aelod ysgolion yn cynrychioli ysgol o'r fath; ac

(c)os yw'r awdurdod perthnasol yn cynnal ysgolion o wahanol gategorïau ysgol, rhaid i'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod yn rhinwedd is-baragraff (a) sicrhau bod y cynrychiolwyr ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a benodir ganddo yn cynnwys o leiaf un person sy'n gynrychiolydd ysgol ym mhob categori ysgol o'r fath.

(3At ddibenion paragraff 2(c), mae'r canlynol yn gategorïau ysgol —

(a)ysgolion cymunedol;

(b)ysgolion sefydledig; ac

(c)ysgolion gwirfoddol.

(4Rhaid i'r awdurdod perthnasol sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol bod o leiaf un aelod ysgolion yn rhiant-lywodraethwr.

(5Yn y rheoliad hwn —

(a)ystyr “ysgol gynradd” (“primary school”) yw ysgol gynradd a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol ond heb gynnwys ysgol feithrin;

(b)ystyr “ysgol uwchradd” (“secondary school”) yw ysgol uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol;

(c)ystyr “cynrychiolwr” (“representative”) yw pennaeth neu lywodraethwr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol;

(ch)ystyr “ysgol arbennig” (“special school”) yw ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig.

Penodi'r aelodau o'r tu allan i'r ysgolion

5.—(1Os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu penodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion yn aelodau'r fforwm, rhaid iddo ofyn i gyrff perthnasol am enwebiadau ar gyfer yr aelodau hynny.

(2Ni chaiff corff perthnasol enwebu rhywun os nad yw'n bodloni'r meini prawf cymhwyso.

(3O fewn mis ar ôl penodi unrhyw aelod a enwebwyd o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod perthnasol roi gwybod i gorff llywodraethu pob ysgol y mae yn ei chynnal am enw'r aelod a'r corff perthnasol mewn cysylltiad â'r penodiad hwnnw.

(4Wrth benodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod perthnasol, os yw o'r farn y byddai'n briodol, ofyn am enwebiadau —

(a)gan Fwrdd Addysg Esgobaethol unrhyw esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru y mae unrhyw ran ohoni yn ardal yr awdurdod perthnasol;

(b)gan esgob unrhyw esgobaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig y mae unrhyw ran ohoni yn ardal yr awdurdod perthnasol; ac

(c)gan undebau athrawon ac undebau llafur eraill y mae ganddynt aelodau sy'n gweithio yng Nghymru.

Cyfarfodydd a thrafodion y fforwm ysgolion

6.—(1Mae'r fforwm â chworwm os yw o leiaf deugain y cant o'i holl aelodau yn bresennol mewn cyfarfod.

(2Y fforwm sydd i ethol ei gadeirydd cyntaf a'i olynwyr.

(3Bydd y cadeirydd yn dal y swydd am flwyddyn (ond ceir ei ailbenodi).

(4Caiff Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant(3) enwebu arsylwr a bydd yr hawl ganddo i fynychu holl gyfarfodydd y fforwm.

(5Caiff yr awdurdod perthnasol os yw o'r farn y byddai'n briodol i gorff penodol gael yr hawl i fynychu cyfarfodydd y fforwm fel arsylwr, wahodd y corff hwnnw i enwebu person i fynychu cyfarfodydd y fforwm i'r diben hwnnw.

RHAN 3SWYDDOGAETHAU

Ymgynghori ynghylch materion ariannol

7.—(1Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol —

(a)ar arfer swyddogaethau'r awdurdod perthnasol sy'n ymwneud â'i gyllideb ysgolion, a

(b)ar newidiadau rhagolygol i gynllun yr awdurdod perthnasol ar gyfer ariannu ysgolion.

(2Caiff yr awdurdod perthnasol ymghynghori â'r fforwm ynghylch unrhyw faterion eraill o'r fath sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion fel y mae'n gweld yn briodol.

Ymgynghori ynghylch fformiwla ariannu ysgolion

8.—(1Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm ynghylch:—

(a)unrhyw newidiadau arfaethedig mewn cysylltiad â'r materion a'r meini prawf a ystyriwyd, neu'r dulliau, yr egwyddorion a'r rheolau a fabwysiadwyd, yn ei fformiwla yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 47 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a

(b)effaith ariannol tebygol unrhyw newid o'r fath.

(2Rhaid i'r ymgynghori o dan baragraff (1) gael ei wneud gan roi digon o amser fel bo'r safbwyntiau a fynegwyd yn gallu cael eu hystyried wrth bennu fformiwla'r awdurdod perthnasol ac wrth wneud y penderfyniad cychwynnol ynghylch cyfrannau ysgolion o'r gyllideb cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.

Ymgynghori ynghylch contractau

9.—(1Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gontract arfaethedig am gyflenwadau neu wasanaethau, a hwnnw'n gontract sydd wedi ei dalu neu sydd i'w dalu o'i gyllideb ysgolion os: —

(a)nad yw amcangyfrif gwerth contract gwasanaethau cyhoeddus arfaethedig yn llai na'r trothwy penodol sy'n gymwys i'r awdurdod perthnasol yn unol â Rheoliad 7(1) o Reoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993(4); neu

(b)nad yw amcangyfrif gwerth contract cyflenwi cyhoeddus arfaethedig yn llai na'r trothwy penodol sy'n gymwys i'r awdurdod perthnasol yn unol â Rheoliad 7(2) o Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995(5).

(2 Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn y dyddiad pan fo'n bwriadu gwneud y cytundeb terfynol, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gytundeb lefel gwasanaeth y byddai'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol yn cael nwyddau neu wasanaethau gan yr awdurdod oddi tano ac y byddai cost y nwyddau neu'r gwasanaethau yn cael eu talu (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) o gyfraniadau'r gyllideb ysgolion.

Adroddiadau i ysgolion

10.  Rhaid i'r fforwm, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi gwybod i gyrff llywodraethu'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol am bob ymgynghoriad a wnaed o dan y Rhan hon yn y rheoliadau hyn.

RHAN 4COSTAU

Talu costau

11.  Yr awdurdod perthnasol sydd i dalu pob un o gostiau'r fforwm, a hynny o'i gyllideb ysgolion lleol tan 1 Ebrill 2004 ac o'i gyllideb AALl wedi hynny.

Costau'r aelodau

12.  Rhaid i'r awdurdod perthnasol dalu yn ôl i'r aelodau bob cost resymol sy'n deillio o fynychu cyfarfodydd y fforwm.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Tachwedd 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi amryw faterion sy'n ymwneud â sefydlu fforymau ysgolion a'u swyddogaethau.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod addysg lleol sefydlu fforwm ysgolion erbyn 30 Tachwedd 2003.

Mae rheoliad 3 yn pennu'r isafswm o aelodau'r fforwm ysgolion a chyfran uchaf yr aelodau sy'n dod o'r tu allan i'r ysgolion. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau ynghylch amodau aelodaeth ac ar gyfer dod ag aelodaeth i ben yn gynnar mewn amgylchiadau penodedig.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer penodi penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion a gynhelir, sydd wedi cael eu hethol yn unol â'r gweithdrefnau y penderfynwyd arnynt gan yr awdurdod addysg lleol, i fod yn aelodau ysgolion, a hynny i sicrhau bod ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, a gwahanol gategorïau o ysgolion yn cael eu cynrychioli'n briodol.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth bod yr awdurdod addysg lleol yn penodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion a hynny i gynrychioli cyrff perthnasol, a allai gynnwys cyrff esgobaethol ac Undebau Llafur.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion y fforymau.

Mae rheoliad 7 yn darparu i'r awdurdod ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol ar arfer ei swyddogaethau o ran ei gyllideb ysgolion a newidiadau i'w gynllun ariannu.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth bod yr awdurdod addysg lleol yn ymgynghori â'r fforwm ysgolion ynghylch newidiadau i fformiwla ariannu ysgolion yr awdurdod.

Mae rheoliad 9 yn darparu yr ymgynghorir â'r fforwm ynghylch contractau cyflenwi a gwasanaethau cyhoeddus os yw'r pris yn mynd y tu hwnt i'r trothwy caffael a ragnodwyd ac ynghylch cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r ysgolion gan yr awdurdod.

Mae rheoliadau 10, 11 a 12 yn darparu bod y fforwm yn rhoi gwybod i'r ysgolion am bob ymgynghoriad a wnaethpwyd, bod costau'r fforwm yn cael eu talu o gyllideb yr AALl, a bod yr awdurdod addysg lleol yn talu costau rhesymol aelodau'r fforwm.

(1)

1998 p.31. Mewnosodwyd adran 47A gan adran 43 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32), a chaiff ei dwyn i rym ar 1 Tachwedd 2003 gan Ran III o'r Atodlen i Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1718).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.

(3)

Sefydlwyd Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant o dan adran 30 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, p.21.

(4)

O.S. 1993/3228. Diwygiwyd rheoliad 7 gan Reoliad 4 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus (Gweithfeydd, Gwasanaethau a Chyflenwi) (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/2009).

(5)

O.S. 1995/201. Diwygiwyd rheoliad 7 gan Reoliad 5 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus (Gweithfeydd, Gwasanaethau a Chyflenwi) (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/2009).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources