2003 Rhif 2909 (Cy.275)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 47A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981 ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol2.

RHAN 1CYFLWYNIAD

Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2003.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

3

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “aelod o'r tu allan i'r ysgolion” (“non-schools member”), o ran fforwm ysgolion, yw aelod nad yw'n aelod ysgolion;

  • ystyr “aelod ysgolion” (“schools member”), o ran fforwm ysgolion, yw aelod a etholir i gynrychioli cyrff llywodraethu neu benaethiaid ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol;

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”), o ran fforwm ysgolion, yw'r awdurdod addysg lleol sydd yn sefydlu'r fforwm;

  • ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw unrhyw gorff (gan gynnwys unrhyw gorff neu berson y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(4)(a), (b) ac (c) a'r awdurdod ei hunan ond heb gynnwys Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant) a enwir gan yr awdurdod perthnasol fel un y mae'n briodol ei gynrychioli yn y fforwm;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

  • ystyr “y meini prawf cymhwyso” (“the eligibility criteria”) yw'r meini prawf a bennir gan yr awdurdod perthnasol yn feini prawf y mae'n rhaid i rywun eu bodloni os yw am fod yn gymwys i gael ei enwebu gan y corff perthnasol dan sylw ar gyfer cael ei benodi i'r fforwm ysgolion a sefydlir gan yr awdurdod hwnnw; ac

  • ystyr “ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol” (“schools maintained by the relevant authority”) yw pob ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol arbennig sefydledig, ac ysgol wirfoddol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol.

4

Yn y Rheoliadau hyn, nid yw cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys cyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) ac nid yw cyfeiriad at lywodraethwr yn cynnwys cyfeiriad at aelod o gorff llywodraethu dros dro ysgol newydd.

RHAN 2SEFYDLU, CYFANSODDIAD, CYFARFODYDD A THRAFODION

Sefydlu fforwm ysgolion2

Rhaid i bob awdurdod addysg lleol, yn unol â'r Rheoliadau hyn, sefydlu fforwm ysgolion i'w ardal erbyn 15 Rhagfyr 2003.

Aelodau: cyffredinol3

1

Rhaid bod o leiaf 15 o aelodau mewn fforwm wedi eu penodi gan yr awdurdod perthnasol.

2

Ni chaiff yr awdurdod perthnasol benodi mwy na chwarter holl aelodau'r fforwm yn aelodau o'r tu allan i'r ysgolion i gynrychioli cyrff perthnasol.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r fforwm gynnwys aelodau ysgolion yn unig.

4

Rhaid i aelodau ysgolion ac aelodau o'r tu allan i'r ysgolion gael eu penodi drwy offeryn ysgrifenedig i fod yn aelod am dymor a bennir yn yr offeryn hwnnw.

5

Caiff yr awdurdod perthnasol ddod ag aelodaeth unrhyw aelod ysgolion i ben cyn i'w dymor aelodaeth ddod i ben os nad yw'r aelod dan sylw bellach yn bennaeth neu yn llywodraethwr yr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol y bu'n gymwys i gael ei benodi i'r fforwm o'i herwydd.

6

Caiff yr awdurdod perthnasol ddod ag aelodaeth unrhyw aelod o'r tu allan i'r ysgolion i ben os nad yw bellach yn bodloni'r meini prawf cymhwyso y bu'n gymwys i gael ei enwebu ar gyfer ei benodi i'r fforwm o'u herwydd.

Ethol a phenodi'r aelodau ysgolion4

1

Rhaid i'r awdurdod perthnasol benodi, i fod yn aelodau ysgolion, gynrychiolwyr ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol sydd wedi eu hethol yn unol â gweithdrefnau a bennir gan yr awdurdod perthnasol.

2

Wrth bennu'r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

a

rhaid i'r awdurdod perthnasol wneud trefniadau er mwyn sicrhau bod aelodau ysgolion yn cynnwys nifer gyfatebol o gynrychiolwyr ysgolion cynradd ac o gynrychiolwyr ysgolion uwchradd, wedi ystyried cyfanswm y disgyblion sydd yn yr ysgolion cynradd, cyfanswm y disgyblion sydd yn yr ysgolion uwchradd a chyfanswm yr aelodau ysgolion sydd i gael eu hethol o dan y gweithdrefnau hynny sydd i fod yn gynrychiolwyr ysgolion cynradd ac uwchradd;

b

os yw'r awdurdod perthnasol yn cynnal un neu fwy o ysgolion arbennig, rhaid iddo sicrhau bod o leiaf un aelod ysgolion yn cynrychioli ysgol o'r fath; ac

c

os yw'r awdurdod perthnasol yn cynnal ysgolion o wahanol gategorïau ysgol, rhaid i'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod yn rhinwedd is-baragraff (a) sicrhau bod y cynrychiolwyr ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a benodir ganddo yn cynnwys o leiaf un person sy'n gynrychiolydd ysgol ym mhob categori ysgol o'r fath.

3

At ddibenion paragraff 2(c), mae'r canlynol yn gategorïau ysgol —

a

ysgolion cymunedol;

b

ysgolion sefydledig; ac

c

ysgolion gwirfoddol.

4

Rhaid i'r awdurdod perthnasol sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol bod o leiaf un aelod ysgolion yn rhiant-lywodraethwr.

5

Yn y rheoliad hwn —

a

ystyr “ysgol gynradd” (“primary school”) yw ysgol gynradd a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol ond heb gynnwys ysgol feithrin;

b

ystyr “ysgol uwchradd” (“secondary school”) yw ysgol uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol;

c

ystyr “cynrychiolwr” (“representative”) yw pennaeth neu lywodraethwr ysgol a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol;

ch

ystyr “ysgol arbennig” (“special school”) yw ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig.

Penodi'r aelodau o'r tu allan i'r ysgolion5

1

Os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu penodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion yn aelodau'r fforwm, rhaid iddo ofyn i gyrff perthnasol am enwebiadau ar gyfer yr aelodau hynny.

2

Ni chaiff corff perthnasol enwebu rhywun os nad yw'n bodloni'r meini prawf cymhwyso.

3

O fewn mis ar ôl penodi unrhyw aelod a enwebwyd o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod perthnasol roi gwybod i gorff llywodraethu pob ysgol y mae yn ei chynnal am enw'r aelod a'r corff perthnasol mewn cysylltiad â'r penodiad hwnnw.

4

Wrth benodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod perthnasol, os yw o'r farn y byddai'n briodol, ofyn am enwebiadau —

a

gan Fwrdd Addysg Esgobaethol unrhyw esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru y mae unrhyw ran ohoni yn ardal yr awdurdod perthnasol;

b

gan esgob unrhyw esgobaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig y mae unrhyw ran ohoni yn ardal yr awdurdod perthnasol; ac

c

gan undebau athrawon ac undebau llafur eraill y mae ganddynt aelodau sy'n gweithio yng Nghymru.

Cyfarfodydd a thrafodion y fforwm ysgolion6

1

Mae'r fforwm â chworwm os yw o leiaf deugain y cant o'i holl aelodau yn bresennol mewn cyfarfod.

2

Y fforwm sydd i ethol ei gadeirydd cyntaf a'i olynwyr.

3

Bydd y cadeirydd yn dal y swydd am flwyddyn (ond ceir ei ailbenodi).

4

Caiff Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant3 enwebu arsylwr a bydd yr hawl ganddo i fynychu holl gyfarfodydd y fforwm.

5

Caiff yr awdurdod perthnasol os yw o'r farn y byddai'n briodol i gorff penodol gael yr hawl i fynychu cyfarfodydd y fforwm fel arsylwr, wahodd y corff hwnnw i enwebu person i fynychu cyfarfodydd y fforwm i'r diben hwnnw.

RHAN 3SWYDDOGAETHAU

Ymgynghori ynghylch materion ariannol7

1

Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol —

a

ar arfer swyddogaethau'r awdurdod perthnasol sy'n ymwneud â'i gyllideb ysgolion, a

b

ar newidiadau rhagolygol i gynllun yr awdurdod perthnasol ar gyfer ariannu ysgolion.

2

Caiff yr awdurdod perthnasol ymghynghori â'r fforwm ynghylch unrhyw faterion eraill o'r fath sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion fel y mae'n gweld yn briodol.

Ymgynghori ynghylch fformiwla ariannu ysgolion8

1

Rhaid i'r awdurdod perthnasol ymgynghori â'r fforwm ynghylch:—

a

unrhyw newidiadau arfaethedig mewn cysylltiad â'r materion a'r meini prawf a ystyriwyd, neu'r dulliau, yr egwyddorion a'r rheolau a fabwysiadwyd, yn ei fformiwla yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 47 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a

b

effaith ariannol tebygol unrhyw newid o'r fath.

2

Rhaid i'r ymgynghori o dan baragraff (1) gael ei wneud gan roi digon o amser fel bo'r safbwyntiau a fynegwyd yn gallu cael eu hystyried wrth bennu fformiwla'r awdurdod perthnasol ac wrth wneud y penderfyniad cychwynnol ynghylch cyfrannau ysgolion o'r gyllideb cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.

Ymgynghori ynghylch contractau9

1

Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gontract arfaethedig am gyflenwadau neu wasanaethau, a hwnnw'n gontract sydd wedi ei dalu neu sydd i'w dalu o'i gyllideb ysgolion os: —

a

nad yw amcangyfrif gwerth contract gwasanaethau cyhoeddus arfaethedig yn llai na'r trothwy penodol sy'n gymwys i'r awdurdod perthnasol yn unol â Rheoliad 7(1) o Reoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 19934; neu

b

nad yw amcangyfrif gwerth contract cyflenwi cyhoeddus arfaethedig yn llai na'r trothwy penodol sy'n gymwys i'r awdurdod perthnasol yn unol â Rheoliad 7(2) o Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 19955.

2

Rhaid i'r awdurdod perthnasol, o leiaf dri mis cyn y dyddiad pan fo'n bwriadu gwneud y cytundeb terfynol, ymgynghori â'r fforwm ynghylch amodau unrhyw gytundeb lefel gwasanaeth y byddai'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol yn cael nwyddau neu wasanaethau gan yr awdurdod oddi tano ac y byddai cost y nwyddau neu'r gwasanaethau yn cael eu talu (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) o gyfraniadau'r gyllideb ysgolion.

Adroddiadau i ysgolion10

Rhaid i'r fforwm, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, roi gwybod i gyrff llywodraethu'r ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod perthnasol am bob ymgynghoriad a wnaed o dan y Rhan hon yn y rheoliadau hyn.

RHAN 4COSTAU

Talu costau11

Yr awdurdod perthnasol sydd i dalu pob un o gostiau'r fforwm, a hynny o'i gyllideb ysgolion lleol tan 1 Ebrill 2004 ac o'i gyllideb AALl wedi hynny.

Costau'r aelodau12

Rhaid i'r awdurdod perthnasol dalu yn ôl i'r aelodau bob cost resymol sy'n deillio o fynychu cyfarfodydd y fforwm.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi amryw faterion sy'n ymwneud â sefydlu fforymau ysgolion a'u swyddogaethau.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod addysg lleol sefydlu fforwm ysgolion erbyn 30 Tachwedd 2003.

Mae rheoliad 3 yn pennu'r isafswm o aelodau'r fforwm ysgolion a chyfran uchaf yr aelodau sy'n dod o'r tu allan i'r ysgolion. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau ynghylch amodau aelodaeth ac ar gyfer dod ag aelodaeth i ben yn gynnar mewn amgylchiadau penodedig.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer penodi penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion a gynhelir, sydd wedi cael eu hethol yn unol â'r gweithdrefnau y penderfynwyd arnynt gan yr awdurdod addysg lleol, i fod yn aelodau ysgolion, a hynny i sicrhau bod ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, a gwahanol gategorïau o ysgolion yn cael eu cynrychioli'n briodol.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth bod yr awdurdod addysg lleol yn penodi aelodau o'r tu allan i'r ysgolion a hynny i gynrychioli cyrff perthnasol, a allai gynnwys cyrff esgobaethol ac Undebau Llafur.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion y fforymau.

Mae rheoliad 7 yn darparu i'r awdurdod ymgynghori â'r fforwm yn flynyddol ar arfer ei swyddogaethau o ran ei gyllideb ysgolion a newidiadau i'w gynllun ariannu.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth bod yr awdurdod addysg lleol yn ymgynghori â'r fforwm ysgolion ynghylch newidiadau i fformiwla ariannu ysgolion yr awdurdod.

Mae rheoliad 9 yn darparu yr ymgynghorir â'r fforwm ynghylch contractau cyflenwi a gwasanaethau cyhoeddus os yw'r pris yn mynd y tu hwnt i'r trothwy caffael a ragnodwyd ac ynghylch cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r ysgolion gan yr awdurdod.

Mae rheoliadau 10, 11 a 12 yn darparu bod y fforwm yn rhoi gwybod i'r ysgolion am bob ymgynghoriad a wnaethpwyd, bod costau'r fforwm yn cael eu talu o gyllideb yr AALl, a bod yr awdurdod addysg lleol yn talu costau rhesymol aelodau'r fforwm.