2003 Rhif 300 (Cy.42)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 87(1), (2) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 19951 a pharagraff 5 o Atodlen 11 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan y Cynulliad Cenedlaethol2, ac ar ôl ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd a chyda'r cyrff a'r personau hynny y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried eu bod yn briodol yn unol ag adran 87(7) o'r Ddeddf drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1CYFLWYNIAD

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mai 2003.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “awdurdod lleol dynodedig” (“designated local authority”) yw awdurdod lleol sy'n cael ei ddynodi am y tro o dan reoliad 4(1);

  • ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) —

    1. a

      mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig, yw'r awdurdod lleol y mae'r hysbysiad yn cael ei ddyroddi ar ei ran;

    2. b

      mewn perthynas â pherson awdurdodedig, yw'r awdurdod lleol y mae'r person hwnnw yn cael ei awdurdodi ganddo;

  • ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995;

  • ystyr “hysbysiad cosb benodedig” (“fixed penalty notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 10 neu 13;

  • ystyr “hysbysiad yn gofyn am wrandawiad” (“notice requesting a hearing”) yw hysbysiad o ddisgrifiad y cyfeirir ato yn rheoliad 18(1);

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) —

    1. a

      mewn perthynas ag ymchwilio i dramgwydd neu erlyn am dramgwydd allyriad yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 6(1);

    2. b

      mewn perthynas ag ymchwilio i dramgwydd neu erlyn am dramgwydd segura llonydd yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 6(3);

  • ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Eu Hadeiladwaith a'u Defnydd) 19863;

  • ystyr “tramgwydd allyriad” (“emissions offence”) yw defnyddio cerbyd modur ar ffordd nad yw'n cydymffurfio â gofyniad rheoliad 61 neu 61A (allyriad mwg a.y.y.b.) Rheoliadau 1986;

  • ystyr “tramgwydd segura llonydd” (“stationary idling offence”) yw torri, neu fethiant i gydymffurfio â chymaint o reoliad 98 (diffodd peiriant pan yn llonydd) o Reoliadau 1986 sy'n ymwneud ag atal allyriadau nwyon llosg.

2

Oni bai fod y cyd-destun yn darparu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn —

a

at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran o Ddeddf 1995 sy'n dwyn y Rhif hwnnw; a

b

at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw.

RHAN 2DYNODI AWDURDODAU LLEOL

Cais am ddynodiad3

1

Pan fo unrhyw ran o ardal awdurdod lleol yn cael ei dynodi am y tro yn ardal rheoli ansawdd aer yn unol ag adran 83, gall yr awdurdod hwnnw wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol fod yn awdurdod lleol dynodedig.

2

Rhaid i gais o dan baragraff (1) fod yn gais ysgrifenedig a rhaid sicrhau bod copi o bob un o'r dogfennau canlynol yn mynd gydag ef —

a

yr adolygiad diweddaraf a gynhaliwyd ganddo, a'r asesiad diweddaraf y mae wedi'i wneud, yn unol ag adran 82; a

b

y gorchymyn sy'n dynodi ei ardal rheoli ansawdd aer yn unol ag adran 83.

Dynodi4

1

Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, ag yntau wedi derbyn ffurflen gais oddi wrth awdurdod lleol o dan reoliad 3, wedi'i fodloni mewn perthynas â'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), rhaid iddo, drwy offeryn ysgrifenedig, ddynodi'r awdurdod hwnnw.

2

Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —

a

bod yr allyriadau mwg ac anweddau a sylweddau eraill o gerbydau yn, neu'n debygol o ddod yn arwyddocaol wrth benderfynu a lwyddir i gyflawni safonau neu amcanion ansawdd aer o fewn ardal yr awdurdod hwnnw neu, pan mai dim ond rhan o'i ardal sydd am y tro wedi'i dynodi fel ardal rheoli ansawdd aer yn unol ag adran 83, y rhan honno; a

b

bydd yr awdurdod yn darparu hyfforddiant priodol a digonol, neu'n sicrhau bod hynny'n cael ei ddarparu, ar gyfer y personau allai gael eu hawdurdodi ganddo at ddibenion y Rheoliadau hyn.

3

Gall awdurdod lleol dynodedig, mewn perthynas â'i ardal neu, pan mai dim ond rhan o'i ardal sy'n cael ei dynodi am y tro fel ardal rheoli ansawdd aer yn unol ag adran 83, mewn perthynas â'r rhan honno, arfer y pwerau hynny a roddir gan ddarpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn mewn perthynas â thramgwyddau allyriad.

Terfynu dynodiad5

1

Os nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon mewn perthynas ag awdurdod dynodedig —

a

mewn perthynas â'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(2); neu

b

bod unrhyw ganllaw y mae wedi'i gyhoeddi mewn perthynas ag adran 88 yn cael ei barchu,

gall, yn ddarostyngedig i baragraff (2), drwy hysbysiad a gyflwynir ar yr awdurdod, ddiddymu ei ddynodiad.

2

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) oni bai ei fod wedi hysbysu'r awdurdod drwy hysbysiad—

a

o'i fwriad i ddiddymu dynodiad yr awdurdod;

b

o'i resymau dros fwriadu diddymu'r dynodiad; ac

c

y gellir cyflwyno sylwadau iddo ynghylch y diddymiad arfaethedig cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan y paragraff hwn (a'r cyfnod hwnnw ddim llai na 28 diwrnod gan ddechrau â dyddiad cyflwyno'r hysbysiad hwnnw).

3

Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) bennu'r dyddiad y mae'r diddymiad i gael effaith, a rhaid bod datganiad o resymau'r Cynulliad Cenedlaethol dros ddiddymu'r dynodiad yn mynd gydag ef.

4

Pan, o ganlyniad bod awdurdod lleol dynodedig wedi diddymu'r gorchymyn y mae ei ardal neu ran ohoni (yn ôl fel y digwydd) yn ardal rheoli ansawdd aer trwy rinwedd y gorchymyn hwnnw, nad yw unrhyw ran o ardal yr awdurdod yn ardal rheoli ansawdd aer, bydd yr awdurdod drwy hynny yn peidio â chael y pwerau a roddwyd iddo o dan baragraff (3) o reoliad 4, a dylid trin ei ddynodiad o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw fel pe bai wedi'i ddiddymu.

RHAN 3AWDURDODIADAU

Awdurdodiadau6

1

Gall awdurdod lleol dynodedig, yn ddarostyngedig i baragraff (2), awdurdodi unrhyw swyddog o'r awdurdod, neu unrhyw berson arall, ar ôl cyflwyno tystiolaeth o awdurdodiad y person hwnnw —

a

i gynnal, yn unol â rheoliad 9, brofion ar gerbydau sydd mewn, neu sydd ar fin pasio drwy, neu sydd wedi pasio drwy, ardal a ddynodwyd gan yr awdurdod fel ardal rheoli ansawdd aer; a

b

i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas â thramgwyddau allyriad a gyflawnir mewn perthynas â cherbydau o'r fath.

2

Ni chaiff person ei awdurodi o dan baragraff (1) oni bai fod yr awdurdod wedi'i fodloni bod y person sydd i gael ei awdurdodi wedi cwblhau cwrs hyfforddi ar brofi allyriadau yn llwyddiannus a'r cwrs hwnnw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

3

Gall awdurdod lleol (p'un a ydyw yn awdurdod lleol dynodedig ai peidio) awdurdodi unrhywun o swyddogion yr awdurdod hwnnw, neu unrhyw berson arall, mewn unrhyw ardal o'r awdurod hwnnw —

a

yn unol â rheoliad 12, i stopio comisiynu tramgwyddau segura llonydd; a

b

i ddyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas â thramgwydd o'r fath a gyflawnir yn ei ardal.

RHAN 4TRAMGWYDDAU COSB BENODEDIG

Tramgwyddau cosb benodedig7

Rhagnodir drwy hyn dramgwyddau allyriad a thramgwyddau segura llonydd o dan adran 42 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 19984 fel tramgwyddau cosb benodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Swm y gosb8

Yn ddarostyngedig i reoliad 17, gall person gyflawni unrhyw atebolrwydd i gollfarn —

a

am dramgwydd allyriad, yn ddarostyngedig i reoliad 19, drwy dalu £60;

b

am dramgwydd segura llonydd, drwy dalu £20.

RHAN 5PROFION

Profion allyriad yn y fan a'r lle a phrofion gohiriedig9

1

Gall person awdurdodedig ei gwneud hi'n ofynnol i berson sy'n gyrru cerbyd modur ar ffordd ac sydd mewn, neu sydd ar fin pasio drwy, neu sydd wedi pasio drwy, ardal rheoli ansawdd aer yr awdurdod priodol ganiatáu i'r cerbyd y mae'r person hwnnw yn ei yrru i fod yn ddarostyngedig i brawf at y diben o benderfynu p'un a oes tramgwydd allyriad yn cael ei gyflawni neu wedi'i gyflawni.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r prawf y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei gyflawni ar unwaith gan berson awdurdodedig.

3

Gall person awdurdodedig, yn hytrach na bwrw ymlaen ar unwaith i gynnal y prawf —

a

ei gwneud hi'n ofynnol bod person awdurdodedig yn cyflawni'r prawf a hynny mewn man ac ar adeg (heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod y cafodd gofyniad paragraff (1) ei osod) y bydd y person awdurdodedig yn eu pennu wrth osod y gofyniad hwnnw; neu

b

ei gwneud hi'n ofynnol i'r person y mae gofyniad paragraff (1) yn cael ei osod arno i gyflwyno'r cerbyd i gael ei archwilio o dan adran 45 (profion i weld a yw cerbydau mewn cyflwr boddhaol) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988.

4

Wrth osod gofyniad o dan baragraff (3)(b), rhaid i berson awdurdodedig hefyd —

a

ei gwneud hi'n ofynnol i yrrwr y cerbyd dan sylw gyflwyno, mewn perthynas â'r cerbyd hwnnw, naill ai dystysgrif a ddyroddwyd o dan adran 45(2)(b) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 neu hysbysiad methiant; a

b

bennu'r canlynol mewn perthynas â chyflwyno'r dystysgrif neu hysbysiad —

i

y dyddiad, a'r amser;

ii

y lleoliad ar gyfer ei chyflwyno; a

iii

y person y mae i'w chyflwyno iddo

5

Rhaid i'r dyddiad a bennir o dan baragraff (4)(b) fod o fewn 21 diwrnod i'r diwrnod pan fo'r person awdurdodedig yn gosod y gofyniad o dan baragraff (3)(b).

6

Ni chaiff gofyniad i gyflwyno tystysgrif neu hysbysiad gael ei drin fel gofyniad a fodlonwyd oni bai fod dyddiad dyroddi'r ddogfen a gyflwynwyd yn cyfateb i'r dyddiad pan osodwyd y gofyniad neu wedi hynny.

7

Bydd person sy'n methu â chydymffurfio â —

a

gofyniad paragraff (1), neu

b

gofyniad paragraff (3)(a) neu 4(a),

yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

8

Yn y rheoliad hwn —

  • ystyr “gofyniad paragraff (1)” (“paragraph (1) requirement”) yw gofyniad a osodir drwy rinwedd paragraff (1) o'r rheoliad hwn; ac

  • ystyr “hysbysiad methiant” (“notice of failure”) yw hysbysiad, o dan adran 45(4) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, bod tystysgrif brawf yn cael ei wrthod nad yw'r seiliau a nodir fel seiliau pam y bu i'r cerbyd fethu'r archwiliad o dan yr adran honno yn cynnwys eitem 28 ym mharagraff 3(b) o Atodlen 2 i Reoliadau Cerbydau Modur (Profion) 19815 (gan gynnwys yr eitem honno fel y caiff ei chymhwyso fel y crybwyllir ym mharagraffau 3A i 6 o'r Atodlen honno).

Dyroddi hysbysiadau cosbau penodedig: tramgwydd allyriad10

Pan —

a

fo prawf ar gerbyd wedi'i gyflawni fel y crybwyllwyd ym mharagraff (2) neu (3)(a) o reoliad 9; a

b

o ganlyniad i'r prawf hwnnw bod person awdurdodedig yn ystyried bod tramgwydd allyriad wedi'i gyflawni gan y person sy'n defnyddio'r cerbyd hwnnw,

gall y person awdurdodedig, yn unol â Rhan 7, ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i'r person hwnnw.

Cyflenwi gwybodaeth at ddibenion Rhan 511

1

Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon, gall person awdurdodedig ei gwneud hi'n ofynnol i yrrwr cerbyd y mae gofyniad o dan reoliad 9(1) wedi'i osod mewn perthynas ag ef ddatgelu i'r person awdurdodedig —

a

enw a chyfeiriad y gyrrwr;

b

dyddiad geni y gyrrwr; ac

c

os nad y gyrrwr yw'r person y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru yn ei enw o dan Ddeddf Trethu a Chofrestru 19996 ar yr adeg pan osodwyd y gofyniad, enw'r person hwnnw.

2

Mae person sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

RHAN 6DIFFODD PEIRIANNAU

Diffodd peiriannau pan fo cerbyd yn llonydd12

1

Gall person awdurdodedig sydd â rheswm rhesymol dros gredu bod gyrrwr cerbyd sy'n llonydd ar ffordd yn cyflawni tramgwydd segura llonydd fynnu, ar ôl cyflwyno tystiolaeth o awdurdodiad o dan reoliad 6(3), bod y gyrrwr yn diffodd peiriant y cerbyd hwnnw.

2

Mae person sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Dyroddi hysbysiad cosb benodedig: tramgwydd segura llonydd13

Gall person awdurdodedig sy'n ystyried bod tramgwydd segura llonydd wedi'i gyflawni, yn unol â pharagraff 7, ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i yrrwr y cerbyd hwnnw.

Cyflenwi gwybodeth at ddibenion Rhan 614

1

Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon, gall person awdurdodedig fynnu bod gyrrwr cerbyd y gosodwyd gofyniad o dan reoliad 12(1) mewn perthynas ag ef i ddatgelu i'r person awdurdodedig —

a

enw a chyfeiriad y gyrrwr;

b

dyddiad geni y gyrrwr; ac

c

os nad y gyrrwr yw'r person y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru yn ei enw o dan Ddeddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 ar yr adeg pan gaiff y gofyniad ei osod, enw'r person hwnnw.

2

Bydd person sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad i gyflenwi gwybodaeth o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

RHAN 7HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

Yr amser ar gyfer dyroddi hysbysiad15

1

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig o dan reoliad 10 gael ei ddyroddi cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol a chyn pen 24 awr wedi i'r prawf y mae paragraff (a) o'r rheoliad hwnnw yn cyfeirio ato gael ei gwblhau.

2

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig o dan reoliad 13 gael ei ddyroddi cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol a chyn pen 24 awr ar ôl i'r tramgwydd segura llonydd gael ei gyflawni.

Cynnwys yr hysbysiad16

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig roi'r manylion hynny ynghylch yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu'r dramgwydd cosb benodedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef ag sy'n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol ynghylch y dramgwydd a rhaid iddo ddatgan —

a

enw a chyfeiriad y person y mae'r hysbysiad yn cael ei ddyroddi iddo;

b

Rhif cofrestredig y cerbyd dan sylw;

c

dyddiad y dramgwydd;

ch

swm y gosb benodedig sydd i'w dalu;

d

y person y mae'r gosb benodedig i gael ei thalu iddo, a'r cyfeiriad ar gyfer talu'r gosb ac ar gyfer anfon unrhyw ohebiaeth sy'n ymwneud â'r hysbysaid cosb benodedig;

dd

y person, y cyfeiriad, a'r cyfnod mewn perthynas ag anfon;

i

cais am wrandawiad;

ii

cais i ostwng neu hepgor y gosb benodedig;

e

y dull neu'r dulliau ar gyfer talu'r gosb benodedig;

f

y cyfnod ar gyfer talu'r gosb benodedig, na fydd yn llai na 28 diwrnod gan ddechrau â diwrnod dyroddi'r hysbysiad; a

ff

canlyniadau peidio â thalu'r gosb benodedig cyn i'r cyfnod ar gyfer ei thalu ddod i ben.

Effaith dyroddi hysbysiad cosb benodedig17

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan gaiff hysbysiad cosb benodedig ei ddyroddi o dan reoliad 10 neu 13.

2

Mae cyfeiriadau yn narpariaethau canlynol y rheoliad hwn at y derbynnydd yn gyfeiriadau at y person y mae'r hysbysiad cosb benodedig i gael ei ddyroddi iddo.

3

Ni ellir cychwyn achosion yn erbyn y derbynnydd am y dramgwydd y mae'r hysbysiad cosb benodedig yn ymwneud ag ef cyn i'r cyfnod ar gyfer talu'r ddirwy ddod i ben oni bai fod y derbynnydd wedi rhoi hysbysiad yn gofyn am wrandawiad.

4

Ni ellir collfarnu person am dramgwydd y dyroddwyd hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas ag ef os caiff y gosb bendodedig ei thalu cyn y daw'r cyfnod ar gyfer ei thalu i ben.

5

Pan —

a

nad yw'r derbynnydd wedi rhoi hysbysiad yn gofyn am wrandawiad; a

b

nad yw'r gosb benodedig wedi cael ei thalu cyn diwedd y cyfnod ar gyfer ei thalu caiff y gosb benodedig ei chynyddu fel y crybwyllwyd ym mharagraff (6).

6

Caiff cosb benodedig —

a

sydd wedi'i gostwng o dan reoliad 19(4) i £30, ei chynyddu i £60;

b

o £60 mewn unrhyw achos arall o dramgwydd allyriad, ei chynyddu i £90;

c

o £20, yn achos tramgwydd segura llonydd, ei chynyddu i £40.

7

Pan fo hysbysiad o dan reoliad 19(6) yn cynnwys datganiad o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 19(7), dylid trin y cyfeiriadau ym mharagraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwn at y cyfnod ar gyfer talu'r gosb benodedig fel cyfeiriadau at y cyfnod sy'n dod i ben ar y dyddiad a nodwyd yn unol â rheoliad 19(7)(b).

Hysbysiad yn gwneud cais am wrandawiad18

1

Gall person y mae hysbysiad cosb benodedig wedi'i ddyroddi iddo, o fewn y cyfnod a chan ddilyn y dull a nodir —

a

yn yr hysbysiad hwnnw, neu

b

pan fo hysbysiad wedi cael ei roi o dan reoliad 19(6), yn yr hysbysiad hwnnw,

roi hysbysiad yn gofyn am wrandawiad mewn perthynas â'r dramgwydd y mae'r hysbysiad cosb benodedig yn ymwneud ag ef.

2

Pan roddir hysbysiad sy'n gwneud cais am wrandawiad —

a

nid yw'r gosb benodedig yn daladwy; a

b

gellir trin yr hysbysiad cosb benodedig fel hysbysiaeth at ddibenion erlyn ar gyfer y dramgwydd y cafodd ei ddyroddi mewn perthynas ag ef.

Gostwng neu roi heibio cosb benodedig ar gyfer tramgwydd allyriad19

1

Gall person y mae hysbysiad cosb benodedig wedi'i ddyroddi iddo mewn perthynas â thramgwydd allyriad, o fewn y cyfnod a chan ddilyn y dull a nodwyd yn yr hysbysiad hwnnw, wneud cais i'r awdurdod priodol i'r gosb benodedig gael ei gostwng neu ei rhoi heibio.

2

Rhaid i gais o dan baragraff (1) fod yn gais ysgrifenedig a rhaid iddo —

a

gynnwys cyfryw wybodaeth, a

b

rhaid anfon tystiolaeth ddogfennol gydag ef,

sydd ym marn y ceisydd yn debygol o fodloni'r awdurdod ynghylch un neu fwy o'r materion a bennir ym mharagraff (3).

3

Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw —

a

bod y nam a barodd i'r cerbyd fethu'r prawf a gyflawnwyd yn unol â pharagraff (2) neu, yn ôl fel y digwydd, baragraff (3)(a) o reoliad 9 (“methu prawf rheoliad 9”), wedi cael ei gywiro o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y methiant hwnnw;

b

bod, o fewn y cyfnod o 6 mis a oedd yn rhagflaenu yn union y methiant prawf rheoliad 9 —

i

y cerbyd wedi pasio archwiliad o dan adran 45 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988; neu

ii

bod y cerbyd wedi methu archwiliad o'r fath, ond nad oedd yr un o'r seiliau y bu iddo fethu yn ymwneud â gofyniad rheoliad 61 neu 61A o Reoliadau 1986; neu

iii

bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd cyn y methiant prawf rheoliad 9 i gynnal a chadw'r cerbyd mewn cyflwr sy'n ddigonol i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau 61 a 61A hynny.

4

Os bydd yr awdurdod wedi'i fodloni mewn perthynas â mater a nodir yn unrhywun o baragraffau (a) i (c) o baragraff (3), gall ostwng y gosb benodedig i £30.

5

Os yw'r awdurdod yn fodlon mewn perthynas â'r materion a nodir —

a

yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwnnw; a

b

yn naill ai is-baragraff (b) neu is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw,

gall rhoi heibio'r gosb benodedig yn ei chyfanrwydd.

6

Cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol ar ôl penderfynu ar gais o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod, drwy hysbysiad, hysbysu'r ceisydd am ei benderfyniad.

7

Heblaw mewn achos pan fo'r awdurdod wedi rhoi heibio'r gosb benodedig yn ei chyfanrwydd, rhaid i hysbysiad yr awdurdod o dan baragraff (6) gynnwys datganiad —

a

o swm y gosb benodedig (p'un ai ar ffurf y swm wreiddiol neu ar ffurf y gostyngiad o dan baragraff (4));

b

o'r dyddiad y mae'r gosb benodedig i'w thalu, sef p'un bynnag yw'r olaf o'r canlynol —

i

y diwrnod olaf yn y cyfnod a bennwyd, yn unol â rheoliad 16(f), yn yr hysbysiad cosb benodedig, a

ii

y diwrnod sy'n dod 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r hysbysiad o dan baragraff (6) yn cael ei ddyroddi; a

iii

am y person y dylid anfon yr hysbysiad sy'n gwneud cais am wrandawiad ato, y cyfeiriad ar gyfer gwneud hynny a'r cyfnod ar gyfer gwneud hynny.

Tynnu hysbysiad cosb benodedig yn ôl20

1

Gellir tynnu hysbysiad cosb benodedig yn ôl mewn unrhyw achos pan fo'r awdurdod priodol yn penderfynu —

a

na ddylai fod wedi cael ei ddyroddi, neu

b

na ddylai fod wedi cael ei ddyroddi i'r person a enwyd fel y person y cafodd ei ddyroddi iddo.

2

Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi cael ei dynnu yn ôl yn unol â pharagraff (1) —

a

rhaid rhoi hysbysiad ei fod wedi cael ei dynnu'n ôl i'r person y cafodd yr hysbysiad ei ddyroddi iddo;

b

rhaid i unrhyw swm a dalwyd trwy gyfrwng cosb benodedig yn unol â'r hysbysiad hwnnw gael ei ad-dalu i'r person a dalodd y swm; ac

c

ni ellir parhau neu gychwyn unrhyw achos yn erbyn y person hwnnw am y dramgwydd y cafodd yr hysbysiad tynnu yn ôl ei ddyroddi mewn perthynas ag ef.

RHAN 8AMRYWIOL

Casglu cosbau penodedig na chawsant eu talu21

Pan fo cosb benodedig nad ydyw wedi cael ei thalu erbyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei thalu yn unol â rheoliad 16(f) neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 19(7)(b), yn cael ei chynyddu fel y crybwyllir yn rheoliad 17(6), gellir, os bydd llys sirol yn gorchymyn hynny, ei chasglu drwy atafaeleb a roddir gan lys sirol neu fel arall fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn y llys hwnnw.

Gorfodi drwy atafaelu22

1

Mae cosb benodedig nad ydyw wedi cael ei thalu y mae modd ei chasglu yn unol â rheoliad 21 fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys sirol i gael ei thrin, yn ddarostyngedig i baragraff (2), at ddibenion gorfodi drwy atafaeleb fel pe bai'n ddyled benodedig a grybwyllir yn erthygl 2(1) o Orchymyn Gorfodi Dyledion Traffig Ffyrdd 1993 (“Gorchymyn 1993”)7.

2

At ddibenion gorfodi taliad cosb benodedig na chafodd ei dalu —

a

mae unrhyw gyfeiriad yng Ngorchymyn 1993 at “the authority” yn gyfeiriad at yr awdurdod priodol; a

b

mae'r cyfeiriad yn erthygl 3(1) o Orchymyn 1993 at y cyfnod ar gyfer cyflwyno datganiad statudol yn gyfeiriad at (yn ôl fel y digwydd) —

i

y cyfnod o 21 diwrnod a ganiateir gan reoliad 23(1)(c); neu

ii

pan fo cyfnod hirach wedi cael ei ganiatáu yn unol â rheoliad 23(3), y cyfnod hwnnw.

Hysbysiadau a wnaed yn ddi-rym23

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo —

a

llys sirol yn gwneud gorchymyn o dan reoliad 21;

b

bod y person y mae'n cael ei wneud yn ei erbyn yn gwneud datganiad statudol sy'n cydymffurfio â pharagraff (2); ac

c

bod y datganiad, cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan gaiff hysbysiad o orchymyn y llys sirol ei gyflwyno ar y person hwnnw, yn cael ei gyflwyno ar y llys sirol a wnaeth y gorchymyn.

2

Rhaid i'r datganiad statudol ddatgan (yn ôl fel y digwydd) ar gyfer y person sy'n ei wneud —

a

na dderbyniodd y person hwnnw yr hysbysiad cosb benodedig dan sylw; neu

b

ei fod wedi gwneud cais o dan reoliad 19(1) ond nad oedd wedi derbyn hysbysiad bod swm y gosb benodedig wedi'i ostwng neu (yn ôl fel y digwydd) bod y cais wedi cael ei wrthod nac am y swm sy'n daladwy.

3

Pan ei bod yn ymddangos i lys sirol, ar gais person y mae hysbysiad cosb benodedig wedi'i gyflwyno iddo, y byddai'n afresymol o dan amgylchiadau'r achos i fynnu bod y person hwnnw yn cyflwyno datganiad statudol o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(c), gall y llys sirol ganiatáu cyfnod hirach ar gyfer cyflwyno'r datganiad statudol ag y bydd yn ei ystyried yn briodol.

4

Pan gaiff datganiad statudol ei gyflwyno o dan baragraff (1)(c) —

a

bydd yr hysbysiad cosb benodedig yn cael ei ddirymu;

b

mae gorchymyn y llys i gael ei drin fel pe bai wedi'i ddiddymu;

c

mae'r gosb benodedig y mae'r hysbysiad cosb benodedig yn ymwneud â hi i gael ei thrin fel pe bai wedi'i chanslo;

ch

rhaid i'r llys sirol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o effaith cyflwyno'r datganiad ar y person sy'n ei wneud ac ar yr awdurdod priodol; a

d

er gwaethaf rheoliad 15, gall yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad cosb benodedig newydd ar y person sy'n gwneud y datganiad neu unrhyw berson arall.

Dyroddi hysbysiadau24

Gall hysbysiad a ddyroddir at unrhywun o ddibenion y Rheoliadau hyn gan awdurdod lleol neu berson awdurdodedig gael ei ddyroddi —

a

drwy ei roi i'r person y mae'n cael ei ddyroddi ar ei gyfer; neu

b

drwy gyfeirio yn briodol llythyr wedi'i dalu o flaen llaw sy'n cynnwys yr hysbysiad, a'i bostio at y person hwnnw,

a dylid cymryd bod hysbysiad o'r fath wedi cael ei ddyroddi ar yr adeg pan gaiff ei roi felly neu pan gaiff y llythyr sy'n ei gynnwys ei bostio.

Diddymu25

Caiff Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosb Benodedig) 19978 eu diddymu mewn perthynas â Chymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989.

Rhodri MorganPrif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn rhoi'r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â Chymru, mewn perthynas ag asesu neu reoli ansawdd aer.

Rhoddodd Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) 1997 (“Rheoliadau 1997”), a wnaed o dan y pŵer uchod, hawl i rai awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban (“awdurdodau sy'n cymryd rhan”) i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig i ddefnyddwyr cerbydau o fewn eu hardaloedd a oedd wedi torri neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 61, 61A neu 98 o Reoliadau Cerbydau Ffyrdd (Eu Hadeiladwaith a'u Defnydd) 1986 (“Rheoliadau 1986”). Mae rheoliadau 61 a 61A o Reoliadau 1986 yn ymwneud ag allyriadau mwg, anwedd, nwyon, sylweddau olewog, a.y.y.b. Mae rheoliad 98 o Reoliadau 1986 yn ei gwneud hi'n ofynnol i beiriannau cerbydau gael eu diffodd pan nad yw'r cerbydau yn symud (heblaw am resymau sy'n ymwneud â thraffig a.y.y.b.). Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau 1977, mewn perthynas â Chymru.

O dan y Rheoliadau hyn gall awdurdod lleol yng Nghymru y mae ei ardal yn cynnwys ardal a ddynodwyd o dan adran 83 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 fel ardal rheoli ansawdd aer wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei ddynodi o dan y Rheoliadau hyn. Gall awdurdod lleol a ddynodwyd felly ddefnyddio, mewn perthynas ag ardal rheoli ansawdd aer, hysbysion cosbau penodedig i gosbi tramgwyddau o dan reoliadau 61, 61A o Reoliadau 1986 a thramgwyddau o dan reoliad 98 o'r Rheoliadau hynny sy'n ymwneud ag allyriadau nwyon llosg.

Yn Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Yn Rhan 2, mae rheoliad 3 yn pennu'r amgylchiadau pan y gellir gwneud cais am ddynodiad, a'r dogfennau y dylid eu cyflwyno law yn llaw â'r cais. Mae rheoliad 4 yn nodi'r meini prawf ar gyfer dynodiad a rheoliad 5 yn darparu ar gyfer diddymu dynodiadau.

Yn Rhan 3, mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud ag awdurdodi personau i gynnal profion allyriadau ar gerbydau, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â diffodd peiriannau cerbydau llonydd ac i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig.

Yn Rhan 4, mae rheoliad 7 yn rhagnodi dau dramgwydd o dan Reoliadau 1986 fel cosbau penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn. Mae'r cyntaf yn cael ei briodoli i reoliadau 61 a 61A o Reoliadau 1986, ac mae iddo gosb benodedig o £60 o dan reoliad 8. Mae'r ail yn cael ei briodoli i'r hynny o reoliad 98 o Reoliadau 1986 sy'n delio ag atal allyriadau nwyon llosg, ac mae i'r dramgwydd hwnnw gosb benodedig o £20 o dan reoliad 8. (Gellir cynyddu'r symiau yn unol â rheoliad 17, neu eu gostwng neu eu hepgor yn unol â rheoliad 19.).

Mae rhan 5 yn cynnwys darpariaethau (rheoliadau 9 i 11) sy'n rhoi pŵer i gynnal profion allyriadau ac i ddelio â materion eraill sy'n berthnasol i'r cyntaf o'r tramgwyddau cosb benodedig.

Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau (rheoliadau 12 i 14) sy'n rhoi pŵer i ddiffodd peiriant cerbyd llonydd ac i ddelio â materion eraill sy'n berthnasol i'r ail o'r tramgwyddau cosbau penodedig.

Yn Rhan 7, mae rheoliadau 15 ac 16 yn darparu ar gyfer amseru dyroddi'r hysbysiadau cosb benodedig a'u cynnwys. Mae rheoliad 17 yn delio ag effaith hysbysiadau cosb benodedig, ac yn darparu ar gyfer cynyddu'r gosb pan na chaiff taliad ei wneud yn unol â'r hysbysiad. Mae rheoliad 18 yn galluogi person y mae hysbysiad cosb benodedig wedi'i ddyroddi iddo i ofyn am wrandawiad mewn perthynas â'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef. Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer gwneud cais i ostwng swm cosb benodedig neu ei hepgor yn llwyr. Mae rheoliad 20 yn delio â thynnu hysbysiadau cosbau penodedig yn ôl.

Yn Rhan 8, mae rheoliadau 21 a 22 yn delio â chasglu cosbau penodedig nad ydynt wedi'u talu ac mae rheoliad 23 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dyroddi hysbysiadau o dan y Rheoliadau. Mae rheoliad 25 yn diddymu Rheoliadau 1997 mewn perthynas â Chymru.