xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5PROFION

Cyflenwi gwybodaeth at ddibenion Rhan 5

11.—(1Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon, gall person awdurdodedig ei gwneud hi'n ofynnol i yrrwr cerbyd y mae gofyniad o dan reoliad 9(1) wedi'i osod mewn perthynas ag ef ddatgelu i'r person awdurdodedig —

(a)enw a chyfeiriad y gyrrwr;

(b)dyddiad geni y gyrrwr; ac

(c)os nad y gyrrwr yw'r person y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru yn ei enw o dan Ddeddf Trethu a Chofrestru 1999(1) ar yr adeg pan osodwyd y gofyniad, enw'r person hwnnw.

(2Mae person sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.