Search Legislation

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3034 (Cy.282) (C.113)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

26 Tachwedd 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 128(4), (6)(b) a (9) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2003.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) Deddf Llywodraeth Leol 2003.

Darpariaethau sy'n dod i rym

2.—(1Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan I o Atodlen 1 ac yn Atodlen 2 i rym ar 27 Tachwedd 2003.

(2Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i rym ar 1 Ebrill 2004.

(3Oni phennir fel arall yn Atodlen 1 neu Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) uchod i rym at bob diben.

(4Ac eithrio i'r graddau y cânt eu pennu yn adran 128(4)(b) i (g) o'r Ddeddf, dim ond i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru y dygir i rym ddarpariaethau'r Ddeddf sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn.

Darpariaethau trosiannol ac eithriadau

3.  Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaethau trosiannol ac eithriadau mewn cysylltiad â'r darpariaethau y mae'n cyfeirio atynt.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003

Erthygl 2

ATODLEN 1

RHAN IDarpariaethau sy'n dod i rym ar 27 Tachwedd 2003 i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru

Adrannau 1 i 24(dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adrannau 25 i 28(dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adran 36
Adran 37(dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adrannau 38 i 40
Adrannau 41 i 59
Adrannau 60 a 61
Adran 62(1) a (3) i (10)
Adrannau 66 a 67(1) a (3) i (5)
Adran 70(1) i (3) a (7) i (9)
Adran 71
Adran 75(2) i (5)
Adran 89(dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adran 90(1) i (3)(dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adran 100(3)
Adran 101(dim ond i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdod gwerth gorau yng Nghymru, ac eithrio un a gyrbwyllir yn is-adran (7) o'r adran honno)
Adran 102
Adran 109(1)(i'r graddau y mae'n ymwneud â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Awdurdod Perthnasol mewn cysylltiad â hwy at ddibenion Rhan I o Ddeddf Tai 1996 (p.52))
Adran 109(2)
Adran 117(dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Adrannau 118 a 119
Adran 127(3) a (4)
Atodlen 1(dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Atodlen 2(dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Atodlen 3
Atodlen 7 ac adran 127(1) i'r graddau y maent yn ymwneud â —
pharagraffau 2 a 3 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraff 5
paragraff 6 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraffau 8, 9(2) a 12 i 17
paragraff 18 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraffau 19, 22, 23, 24(4), 25(2) a (3), 26(1) a (2)
paragraff 29 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraff 30
paragraffau 32 a 33(3) a (5) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraphau 49(b), 50(b) a 51(2)
paragraffau 51(3) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraff 56
paragraff 57 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraffau 58, 59, 61 a 62
paragraffau 63 a 64 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraff 66
paragraff 67 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraff 79 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Atodlen 8 ac adran 127(2) i'r graddau y maent yn ymwneud ag —
adran 137(4AA) a (4C) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70)
Deddf Trosglwyddo Stoc 1982 (p.41) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Deddf Tai 1985 (p.68)
adran 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 (p.9)
adran 140(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41)
adrannau 39 i 66 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
adran 80(2) o Ddeddf Llywodraeth ddiben blynyddoedd ariannol sy'n Leol a Thai 1989 (dim ond at cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
adran 80(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
adran 155(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac Atodlen 3 iddi (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraff 37(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
paragraff 60 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraffau 6, 7 a 59 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraff 97 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
adran 88(6)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43)
adran 11(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14)
adrannau 32(11), 43(8) a 50(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 neu mewn cysylltiad â hwy)
adran 52Z(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
adran 69(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
paragraff 90 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
adran 51(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2004 ac mewn perthynas â hwy)
paragraff 30 o Atodlen 15 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994
paragraff 88 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraff 8(5) o Atodlen 8 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25)
adran 30 o Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
adran 73 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) a pharagraff 31(2) o Atodlen 10 iddi (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Atodlen 7 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p.16) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ô1 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymeradwyaethau Credyd Atodol) 1997 (p.63) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
adran 81(4) o Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
paragraff 5 o Atodlen 12 i Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
adran 1(4) o Ddeddf Ardrethu (Cyn Safleoedd Amaethyddiaeth a Siopau Gwledig) 2001 (p.14)
paragraff 53 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)
Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (dim ond at ddiben blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 ac mewn cysylltiad â hwy)

RHAN IIDarpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2004 i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru

  • Adran 64

  • Adran 67(2)

  • Adran 92(2)

  • Adran 120

  • Atodlen 6

  • Atodlen 7 ac adran 127(1) i'r graddau y maent yn berthnasol i—

    • Baragraff 4

Erthygl 3

ATODLEN 2Darpariaethau Trosiannol ac Eithriadau

Gwariant dewisol awdurdodau lleol

1.  Er gwaethaf diddymu adran 137(4AA) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), mae erthygl 2(2) o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000(3) i barhau mewn grym.

Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

2.—(1Er gwaethaf diddymu'r adrannau hynny o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a'r paragraffau hynny o Atodlen 3 iddi a geir yng ngholofn (1) isod mae'r rheoliadau cyfatebol yng ngholofn (2) i barhau mewn grym hyd 31 Mawrth 2004, ac ar ôl hynny i'r graddau y caiff y darpariaethau perthnasol eu heithrio gan baragraff 2(2)(a) i (ff) o'r Atodlen hon:

(1)(2)
Adran 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) 1990(4)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1991(5)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1992(6)
Adrannau 40(5)(a), 49(3), 51(7), 59(3) a (5), 61(4), 64(2), 66(1)(a) a (6) a pharagraffau 10, 15(1)(a) ac 18(1) o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1995(7))
Adrannau 40(5)(b), 42(4)(a), 49(3), 51(7), 58(9)(b), 59(3) a (5), 64(2), 66(1)(a) a pharagraffau 10 a 15(1)(a) o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio Rhif 2) 1995(8)
Adrannau 48(5), 49(3), 58(9)(b), 59(3), (4) a (5), 61(4), 64(2), 66(1)(a) a pharagraffau 10 a 15(1)(a) o Atodlen 3.Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) 1996(9))
Adrannau 40(5), 42(4), 48(1)(c) a (5), 49(3), 51(7), 57(1)(c), 58(4)(b) a (9), 59(3) i (5), 61(4), 64(2) a (5), 66(1)(a) a (6) a pharagraffau 10, 11(2), 15(1)(a), 17, 18(1) a 20 o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997(10)
Adrannau 48(1)(c), 49(3), 59(4) a 61(4)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) 1997(11)
Adrannau 48(1)(c), 59(4) a pharagraffau 15(1)(a) a 20 o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) 1998(12)
Adran 48(5)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Rhif 2) 1998(13)
Adrannau 40(5)(a), 58(9)(a) a 59(3) a (5) a pharagraff 15(1)(a) o Atodlen 3Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio Rhif 3) 1998(14))
Adrannau 59(4) a (5)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 1999(15)
Adrannau 40(5)(a), 48(1)(c), 49(2), 59(4) a (5), 61(4) a 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 1999(16))
Adran 49(3)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000 (17)
Adran 61(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2001(18)
Adran 58(9) a 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2002(19)
Adran 66(1)(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002(20)
Adran 49(2)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2003/2004) (Cymru) 2003(21)
Adran 42(4)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2003(22))

(2) (aMae adrannau 39 (cymhwyso Rhan 4) a 66 (dehongli Rhan 4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, ar ac ar ôl 1 Ebrill 2004, at ddibenion y darpariaethau trosiannol a'r eithriadau ym mharagraff (b) i (ff) isod a hynny fel pe na bai'r adrannau hynny wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(b)Mae adrannau 40 i 42 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dibenion cyfalaf a chodi gwariant ar gyfrif refeniw) i barhau i fod yn effeithiol mewn cysylltiad â gwariant a dynnir gan awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2004 fel pe na bai'r adrannau hynny wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(c)Mae unrhyw gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan adran 40(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dibenion cyfalaf) —

(i)Mewn cysylltiad â gwariant y gall yr awdurdod dan sylw ei drin yn wariant at ddibenion cyfalaf; a

(ii)Lle y mae'r cyfnod a bennir o dan adran 40(6)(d) yn gorffen ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004,

i barhau i fod yn effeithiol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004 fel pe bai'n gyfarwyddyd a gafodd ei wneud o dan adran 16(2)(b) o'r Ddeddf (“capital expenditure”) ac, yn unol â hynny, caiff yr awdurdod dan sylw drin y gwariant y cyfeirir ato yn y cyfarwyddyd yn wariant cyfalaf at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.

(ch)Mae adrannau 54 i 57 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cymeradwyaethau credyd) i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw gymeradwyaeth credyd sylfaenol neu gredyd atodol a roddwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer blwyddyn ariannol, neu gyfnod, yn cychwyn cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Deddf.

(d)Mae adrannau 58, 59 a 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (derbyniadau cyfalaf) i barhau i fod yn effeithiol cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (balans derbyniad cyfalaf y gellir ei ddefnyddio), a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(dd)Mae adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw benderfyniad a gafodd ei wneud o dan yr adran honno mewn cysylltiad â'r rhan y gellir ei defnyddio o dderbyniadau cyfalaf yr awdurdod sydd i'w cymhwyso cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'i diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(e)Mae Rhan 4 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (isafswm y ddarpariaeth refeniw) i barhau i fod yn effeithiol, cyn Hydref 2004, at ddibenion adran 63(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i osod symiau penodol o'r neilltu yn ddarpariaeth i gwrdd â rhwymedigaethau credyd), a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'i diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(f)Mae is-adrannau (1) a (5) o adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i barhau i fod yn effeithiol, cyn 1 Hydref 2004, at ddibenion unrhyw benderfyniad o dan yr adran honno a gafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2003, a hynny fel pe na baent wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi'u diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

(ff)Mae adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (gwybodaeth) i barhau i fod yn effeithiol, ar ac ar ôl 1 Ebrill 2004, at ddibenion unrhyw wybodaeth y mae ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei hangen at unrhyw bwrpas penodol ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) i'r graddau y mae'n berthnasol i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2004, a hynny fel pe na bai wedi peidio â bod yn effeithiol neu wedi ei diddymu yn rhinwedd y Ddeddf.

Cyllid cyfalaf — Rhan 1 o'r Ddeddf

3.—(1Caiff unrhyw drefniant credyd —

(a)o fewn yr ystyr sydd iddo yn adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (trefniadau credyd);

(b)sydd mewn bodolaeth yn union cyn 1 Ebrill 2004; ac

(c)a fyddai, pe byddai wedi'i wneud ar 1 Ebrill 2004, yn drefniant credyd o fewn yr ystyr sydd iddo yn adran 7 o'r Ddeddf (“credit arrangements”),

ei drin fel pe bai'n drefniant credyd at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf (cyllid cyfalaf etc.).

(2Mae'r rhan y gellir ei defnyddio o unrhyw dderbyniad cyfalaf —

(a)o fewn yr ystyr sydd iddo yn adran 60(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (balans derbyniadau cyfalaf y gellir ei ddefnyddio); a

(b)nas cymhwysir gan yr awdurdod lleol mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2004,

i'w thrin fel pe bai'n dderbyniad cyfalaf o fewn yr ystyr sydd i hynny yn adran 9 o'r Ddeddf (“capital receipt”) at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o'r Ddeddf.

Gweinyddu ariannol

4.  Nid yw adran 27 o'r Ddeddf (cyfrifo cyllideb: adroddiad ar arian wrth gefn nad yw'n ddigonol) i fod yn gymwys mewn cysylltiad â chyfrifo at ddiben unrhyw flwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2005.

Cyfrif refeniw tai

5.  Er i baragraff 33(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf ddod i rym, bydd unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan eitem 9 yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ac a fydd yn effeithiol am flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004, yn parhau i fod yn effeithiol, fel pe bai wedi'i wneud o dan eitem 9 fel y'i hamnewidiwyd gan baragraff 33(3) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.

Cadw ardrethi lleol yn yr ardal leol

6.  Er i adran 70 o'r Ddeddf ddod i rym, bydd y darpariaethau ym mharagraffau 5(6) a (6A) o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41), fel y maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar neu cyn 31 Mawrth 2005, yn parhau i weithredu fel pe na bai'r diwygiadau i'r paragraffau hynny wedi'u gwneud.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 2003 (“y Ddeddf”) i rym. Daw'r rheini a bennir yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Tachwedd 2003. Daw'r rheini a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004. Oni nodir fel arall yn Atodlen 1, daw'r darpariaethau hynny a bennir i rym ar y dyddiad perthnasol ac at bob diben.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o Atodlen 1.

Mae adrannau 1 i 22 o'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â system newydd o gyllid cyfalaf a chyfrifon awdurdodau lleol yng Nghymru fel a ganlyn.

Yn benodol, mae adran 1 yn darparu ar gyfer pwerau benthyg awdurdod lleol gan gynnwys y pŵer i fenthyg at ddiben rheoli materion ariannol yn ddarbodus. Mae adran 2 i 8 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â benthyg. Mae adrannau 9 i 11 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â derbyniadau cyfalaf. Mae adran 12 yn galluogi awdurdodau lleol i fuddsoddi at ddiben sy'n berthnasol i'w swyddogaethau ac at ddiben rheoli eu materion ariannol yn ddarbodus. Mae adrannau 13 i 20 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gwarant ar arian a fenthycir, yr wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”), canllawiau gan y Cynulliad, ystyr “capital expenditure”, cyllid allanol, cwmnïau awdurdodau lleol a chyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae adran 19 yn rhoi effaith weithredol i Atodlen 1 i'r Ddeddf (atodlen sy'n gwneud darpariaeth ynghylch cyllid cyfalaf mewn cysylltiad â chynghorau cymuned ac ymddiriedolwyr siartr). Mae adrannau 21 i 22 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag arferion cyfrifydda a chyfrifon refeniw.

Mae adrannau 23 a 24 yn cynnwys diffiniadau a darpariaethau dehongli.

Mae adrannau 25 i 28 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweinyddu cyllid. Mae adrannau 25 i 27 yn ymdrin â chyfrifo cyllidebau, mae adran 26 yn ymdrin ag isafswm lefel cronfeydd wrth gefn ac mae adran 28 yn ymdrin â monitro cyllidebau.

Bydd y pŵer yn adran 36 yn galluogi'r Cynulliad i dalu grantiau i awdurdodau gwerth gorau, a hynny mewn perthynas â'r treuliau y maent wedi'u tynnu wrth wneud cais am gael eu dyfarnu'n deilwng o ddynodiad sy'n seiliedig ar ragoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau. Bydd hyn yn ddarostyngedig i unrhyw un o'r dyletswyddau gwerth gorau yn adrannau 3 i 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Pan ddyfernir y dynodiad hwnnw i awdurdod gwerth gorau, sydd yn ddarostyngedig i unrhyw un o'r dyletswyddau perthnasol, bydd y pŵer hefyd yn galluogi grantiau i gael eu talu'n wobr am y dynodiad hwnnw ac mewn perthynas â threuliau a dynnwyd neu sydd i'w tynnu gan yr awdurdod wrth ddosbarthu gwybodaeth am arferion gorau.

Bydd adran 37 yn galluogi'r Cynulliad i roi cymorth ariannol mewn argyfwng i Awdurdodau Tân Cyfunol (a gyfunwyd yn rhinwedd Deddf Gwasanaethau Tân 1947) yn eu henw eu hunain.

Mae adrannau 38 a 39 yn hwyluso trosglwyddo tai awdurdodau lleol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. O dan adran 38, bydd y Cynulliad yn gallu gwneud taliadau i'r Comisiynwyr Benthyciad Gweithfeydd Cyhoeddus (“the Commissioners”) er mwyn gostwng neu ddileu'r ddyled o'r fath a fydd gan awdurdod leol yng Ngymru, i'r Comisiynwyr yng Nghymru fel y gwêl y Cynulliad yn dda. Gallai'r Comisiynwyr wrthod derbyn taliad y mae'r Cynulliad yn cynnig ei wneud iddynt. Bydd adran 39 yn galluogi'r Cynulliad i wneud taliadau i awdurdodau lleol i'w galluogi i dalu dyledion ac eithrio dyledion i'r Comisiynwyr.

Mae adran 40 yn cychwyn Atodlen 2 i'r Ddeddf sy'n gwneud darpariaeth i alluogi'r Cynulliad i wneud dau adroddiad cyllid llywodraeth leol am unrhyw flwyddyn ariannol, y naill yn ymwneud ag awdurdodau heddlu a'r llall yn ymwneud ag awdurdodau a chyrff eraill.

Mae adrannau 41 i 59 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag Ardaloedd Gwella Busnes (“AGBoedd”). Caiff awdurdodau bilio wneud trefniadau mewn perthynas ag ardaloedd o fewn eu hawdurdod a elwir yn AGBoedd. Mewn AGB, cyllidir gwasanaethau ychwanegol neu welliannau o fudd i'r gymuned leol drwy bobl sy'n talu ardrethi annomestig neu rai pobl benodol sy'n talu ardrethi annomestig yn yr AGB (adran 41). Er mwyn sefydlu AGB, rhaid yn gyntaf i fwyafrif o'r bobl a fyddai'n rhwym o dalu'r ardoll berthnasol bleidleisio o blaid (adran 49).

Mae adrannau 60, 61, 62(1) a (3) i (10), 66, 67(1) a (3) i (5), 70(1) i (3) a (7) i (9), a 71 yn diwygio darpariaethau ardrethu annomestig yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel a ganlyn.

Mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol llunio rhestr o'r ardrethi arfaethedig chwe mis cyn iddynt ddod i rym. Mae adran 61 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth newydd i fusnesau bach. Mae adrannau 62(1) a (3) i (10) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfrifo'r lluosydd ardrethu annomestig. Mae adran 66 yn darparu ar gyfer hawl i ddefnyddio unrhyw dir at ddiben gweithredu mesurydd i fesur cyflenwad o nwy neu drydan neu wasanaeth arall o'r fath y gall y Cynulliad ei bennu'n hereditament (os person heblaw defnyddiwr y gwasanaeth sy'n berchen ar y mesurydd). Mae adrannau 67(1) a (3) i (5) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag esemptiadau ar gyfer adeiladau amaethyddol. Mae adran 70(1) i (3) a (7) i (9) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chadw ardrethi lleol yn yr ardal leol. Mae adran 71 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag addasiadau ar gyfer cymorth caledi.

Mae adran 75(2) i (5) yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 er mwyn gwneud darpariaeth mewn perthynas â disgowntiau yn y dreth gyngor yng Nghymru mewn cysylltiad ag ail gartrefi a chartrefi gwag.

Mae adran 89 yn ymdrin â thalu a chyfrifo cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai ac mae adran 90(1) a (3) yn ymdrin â symiau negyddol o gymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai.

Mae adran 100(3) yn gwneud Atodlen 3 yn effeithiol. Mae'r Atodlen honno yn diwygio rhai o'r darpariaethau sy'n rhoi pwerau i wneud gorchmynion a rheoliadau o dan ddeddfau llywodraeth leol amrywiol neu yn llywodraethu eu harfer. Mae'n gwneud hynny at ddibenion eu harfer mewn perthynas ag awdurdodau yr effeithir arnynt ganddynt.

Mae adran 101 yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn cysylltiad â materion trosglwyddo staff. Mae hyn yn berthnasol pan fydd awdurdod gwerth gorau yn gwneud contract â pherson ar gyfer darparu gwasanaethau ac mae adran 102 yn gwneud darpariaeth yn benodol mewn cysylltiad â phensiynau a materion trosglwyddo staff.

Mae adran 109(1) yn diwygio Deddf y Comisiwn Archwilio 1998 ac mae'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag archwilio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a ffioedd ar gyfer hynny. Mae adran 109(2) yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer gorchmynion a rheoliadau sydd i'w gwneud o dan adran 52 o'r Ddeddf honno gan y Cynulliad.

Mae adran 117 yn galluogi'r Cynulliad i ddiwygio deddfiadau sy'n berthnasol i awdurdod lleol os yw'n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni arferion cyfrifydda sy'n gyffredinol dderbyniol.

Mae adran 118 yn diwygio adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (sy'n galluogi awdurdodau lleol i dynnu treuliau at ddibenion penodol nad ydynt yn cael eu hawdurdodi fel arall) ynghyd â'r Atodlen gysylltiedig yn y Ddeddf honno.

Mae adran 119 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â'r defnydd o gosbau penodedig ar gyfer tramgwyddau ysbwriel a chŵ n yn baeddu.

Caiff effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 ei hegluro isod.

Mae adran 64 yn darparu cymorth ar gyfer clybiau chwaraeon amatur cymunedol cofrestredig mewn cysylltiad ag ardrethi annomestig.

Mae adran 67(2) yn diwygio Atodlen 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel bod yr esemptio o ardrethu annomestig mewn cysylltiad â thir ac adeiladau amaethyddol yn cael ei estyn.

Mae adran 92(2) yn galluogi'r Cynulliad i ddiddymu drwy orchymyn adran 24(3) o Ddeddf Tai 1985 fel y'i diwygiwyd gan adran 92(1) o'r Ddeddf.

Mae adran 120 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio busnes tyllu rhannau o'r corff a lliwio'r croen at ddibenion cosmetig.

Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaethau trosiannol sy'n gysylltiedig â phan ddaw adran 120 i rym.

Mae Atodlenni 7 ac 8 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau a dirymiadau yn y drefn honno.

Mae Atodlen 2 o'r Gorchymyn yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources