- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
NYRSYS, BYDWRAGEDD AC YMWELWYR IECHYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Tachwedd 2003
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 16(3), 22(1) a (2)(b), 25, 34(1), 35 a 118(5) — (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaethau nyrsys yng Nghymru yn unig.
2. Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003(2) fel a ganlyn:—
yn rheoliad 12(1) (Ffitrwydd y nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan asiantaeth) yn lle isbaragraff (ch) rhodder y canlynol:—
“(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael amdano/amdani —
(i)ac eithrio lle mae paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 4 a 6 i 13 o Atodlen 3;
(ii)lle mae paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 3 a 5 i 13 o Atodlen 3.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003 (“Rheoliadau 2003”).
Mae Rheoliad 12 o Reoliadau 2003 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i'r person sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas ag asiantaeth nyrsys sicrhau na fydd unrhyw nyrs yn cael ei chyflenwi gan yr asiantaeth oni bai ei bod yn “ffit”. Un o ofynion ffitrwydd yw bod yn rhaid i wybodaeth a dogfennau penodol fod ar gael mewn perthynas â'r nyrsys hyn. Ymhlith y dogfennau y mae'n rhaid iddynt fod ar gael y mae tystysgrifau record droseddol a roddir naill ai o dan adran 113 neu 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac adroddiad o wiriad gan yr heddlu.
Mae'r diwygiadau i Reoliadau 2003 yn darparu nad oes rhaid i wiriad gan yr heddlu fod ar gael ond lle bydd cais wedi'i wneud am dystysgrif o dan Ddeddf yr Heddlu ond nad yw'r dystysgrif wedi'i rhoi.
2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 121(1) fel y'i darllenir gydag adran 5(1)(b), mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: