2003 Rhif 3225 (Cy.307)
Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1), (2), (4) a (4A), 140(4) a 143(1), (3) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru2.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003.
Diwygio Rheoliadau 19992
1
Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 19993 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (4) o reoliad 1:
a
Ar y dechrau, mewnosodwch y canlynol—
a
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (b)
b
Ar y diwedd, ychwanegwch y canlynol—
b
Yn Rhan 2 o'r Atodlen, mae'r cyfeiriad at Aquila Networks plc yn gyfeiriad at gwmni ac iddo'r enw hwnnw ar 10 Mai 2002.
3
Yn Rhan 2 o'r Atodlen, ac yn effeithiol o 1 Tachwedd 2001 ymlaen, rhowch “Aquila Networks plc” yn lle “Midlands Electricity plc”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)