Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn Neddf Diogelwch Bwyd 19904);

  • mae i'r ymadrodd “colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl”,“sefydliad sy'n cynhyrchu colagen”, “canolfan gasglu”, “deunydd crai”, a “thanerdy” yr ystyr a roddir, yn ôl eu trefn i “collagen intended for human consumption”, “establishment producing collagen” “collection centre”, “raw material” a “tannery” yn Mhenderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC; ac

  • ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC” yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC5 ynglŷn â'r gofynion ar gyfer colagen6.