xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990(1));
mae i'r ymadrodd “colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl”,“sefydliad sy'n cynhyrchu colagen”, “canolfan gasglu”, “deunydd crai”, a “thanerdy” yr ystyr a roddir, yn ôl eu trefn i “collagen intended for human consumption”, “establishment producing collagen” “collection centre”, “raw material” a “tannery” yn Mhenderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC; ac
ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC” yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC(2) ynglŷn â'r gofynion ar gyfer colagen(3).