- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4.—(1) an wneir cais o dan y Rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi canolfan gasglu neu danerdy at ddibenion cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl, os caiff yr awdurdod bwyd ei fodloni —
(a)bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy ystafelloedd storio a chanddynt loriau caled a waliau llyfn y mae'n hawdd eu glanhau a'u diheintio;
(b)bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy gyfleusterau oergell, os yw hynny'n briodol;
(c)bod ystafelloedd storio'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy yn cael eu cadw mewn cyflwr boddhaol o ran glendid ac adeiladwaith, fel nad ydynt yn creu ffynhonnell i halogi'r deunyddiau crai;
(ch)bod, neu, yn ôl fel y digwydd, y bydd unrhyw ddeunydd crai nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996, os yw'n cael neu os bydd yn cael ei storio neu ei brosesu ar safle'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy, wedi'i wahanu oddi wrth ddeunydd crai sy'n cydymffurfio felly drwy gydol y cyfnod derbyn, storio, prosesu ac anfon; a
(d)bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae arno ei hangen er mwyn hysbysu'r Asiantaeth o'r awdurdodiad yn unol â rheoliad 9(2)(a).
(2) Wrth ganiatáu unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliadau hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi Rhif penodol i'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw.
(3) Rhaid i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg mewn unrhyw sefydliad sy'n cael ei awdurdodi o dan y rheoliad hwn hysbysu'r awdurdod bwyd ar unwaith —
(a)o unrhyw newid, neu newid sylweddol a fwriedir, o ran perchnogaeth y busnes hwnnw; neu
(b)unrhyw newid sylweddol, neu newid sylweddol a fwriedir, o ran rhedeg y busnes hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: