Awdurdodi canolfannau casglu a thanerdai4

1

an wneir cais o dan y Rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi canolfan gasglu neu danerdy at ddibenion cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl, os caiff yr awdurdod bwyd ei fodloni —

a

bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy ystafelloedd storio a chanddynt loriau caled a waliau llyfn y mae'n hawdd eu glanhau a'u diheintio;

b

bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy gyfleusterau oergell, os yw hynny'n briodol;

c

bod ystafelloedd storio'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy yn cael eu cadw mewn cyflwr boddhaol o ran glendid ac adeiladwaith, fel nad ydynt yn creu ffynhonnell i halogi'r deunyddiau crai;

ch

bod, neu, yn ôl fel y digwydd, y bydd unrhyw ddeunydd crai nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996, os yw'n cael neu os bydd yn cael ei storio neu ei brosesu ar safle'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy, wedi'i wahanu oddi wrth ddeunydd crai sy'n cydymffurfio felly drwy gydol y cyfnod derbyn, storio, prosesu ac anfon; a

d

bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae arno ei hangen er mwyn hysbysu'r Asiantaeth o'r awdurdodiad yn unol â rheoliad 9(2)(a).

2

Wrth ganiatáu unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliadau hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi Rhif penodol i'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw.

3

Rhaid i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg mewn unrhyw sefydliad sy'n cael ei awdurdodi o dan y rheoliad hwn hysbysu'r awdurdod bwyd ar unwaith —

a

o unrhyw newid, neu newid sylweddol a fwriedir, o ran perchnogaeth y busnes hwnnw; neu

b

unrhyw newid sylweddol, neu newid sylweddol a fwriedir, o ran rhedeg y busnes hwnnw.