- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Pan wneir cais o dan y rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi sefydliad i gynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni—
(a)bod perchennog y sefydliad yn cynnal profion i sicrhau —
(i)bod pwyntiau critigol yn y sefydliad mewn perthynas â'r broses gynhyrchu a ddefnyddir yn cael eu nodi a'u bod yn dderbyniol gan yr awdurdod bwyd,
(ii)bod dulliau o fonitro a rheoli'r fath bwyntiau yn cael eu rhoi ar waith a'u bod yn dderbyniol gan yr awdurdod bwyd,
(iii)bod samplau'n cael eu cymryd at ddibenion gwirio dulliau glanhau a diheintio a bod y sefydliad yn cydymffurfio â'r safonau a nodir yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC,
(iv)bod y samplau hynny'n cael eu ddansoddi fel sy'n briodol a hynny mewn labordy sy'n dderbyniol gan yr awdurdod,
(v)yr hysbysir yr awdurdod bwyd ar unwaith pan fydd archwiliad o samplau mewn labordy neu unrhyw wybodaeth arall sydd yn nwylo'r perchennog yn datgelu bod yna risg ddifrifol i iechyd, a
(vi)os bydd yna risg ar fin digwydd i iechyd, tynnir oddi ar y farchnad y cynhyrchion hynny a geir o dan amodau tebyg yn dechnolegol ac sy'n debygol o beri'r un risg;
(b)bod gan berchennog y sefydliad sytem ar waith i sicrhau y gwneir cofnod ar ffurf barhaol mewn cysylltiad â'r materion a nodir yn is-adrannau (i) i (iii) o baragraff (a) a chanlyniadau'r dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (iv) o'r paragraff hwnnw, a bod y cofnod yn cael ei gadw am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf a'i fod ar gael i'r awdurdod bwyd os gofynnir amdano;
(c)bod perchennog y sefydliad wedi trefnu neu wedi rhoi ar waith raglen hyfforddi staff er mwyn galluogi staff, sy'n ymwneud â chynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl, ac nad oes ganddynt eisoes gymwysterau sy'n ddigonol ac yn berthnasol i'r pwrpas hwnnw, i gydymffurfio â'r amodau ar gynhyrchu hylan sy'n briodol i'w dyletswyddau; ac
(ch)bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae ei hangen arno i hysbysu'r Asiantaeth o awdurdodiad yn unol â rheoliad 9(2)(a).
(2) Pan ganiateir awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi Rhif adnabod unigryw i'r sefydlaid dan sylw.
(3) Rhaid i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg yn unrhyw sefydliad a awdurdodwyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r awdurdod bwyd ar unwaith —
(a)o unrhyw newid, neu newid a fwriedir, o ran perchnogaeth y busnes hwnnw; neu
(b)o unrhyw newid perthnasol, neu newid perthnasol a fwriedir, o ran gweithredu'r busnes hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: