Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

3

Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 20033.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw'r gofrestr ddisgyblion a gedwir o dan adran 434 o Ddeddf 1996 ac yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 19954);

  • ystyr “cyfeirnod gweithgaredd dysgu” (“learning activity reference”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren yn cael eu dyrannu i gwrs astudiaeth neu weithgaredd dysgu arall ac sy'n benodol i'r cwrs hwnnw neu'r gweithgaredd dysgu hwnnw, ac a benderfynwyd gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “disgybl chweched dosbarth” (“sixth form pupil”) yw disgybl y caiff Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant dalu grant mewn perthynas â'i addysg i'r awdurdod addysg lleol o dan adran 36 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 20005;

  • ystyr “dyddiad gwahardd parhaol” (“permanent exclusion date”) yw'r dyddiad y caiff enw disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol ei ddileu o'r gofrestr;

  • mae i “plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “child looked after by a local authority” gan adran 22(1) o Ddeddf Plant 19896;

  • ystyr “Rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren neu lythrennau yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “wedi'i wahardd yn barhaol” (“permanently excluded”) mewn perthynas â disgybl yw disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol o'r ysgol am resymau disgyblu;ac

  • mae i “ysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 19967.

Ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol yn darparu gwybodaeth i'w hawdurdodau addysg lleol3

O fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais yn ysgrifenedig gan yr awdurdod addysg lleol y cynhelir ysgol ganddo, rhaid i'r corff llywodraethu roi i'r awdurdod y cyfryw wybodaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ag y gofynnir amdani.

Personau Rhagnodedig4

1

At ddibenion adran 537A(4) o Ddeddf 1996, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhagnodi'r personau canlynol fel personau y caiff ddarparu gwybodaeth am ddisgyblion unigol iddynt—

a

unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) isod; a

b

unrhyw berson sy'n perthyn i'r categori y cyfeirir ato ym mharagraff (3) isod.

2

Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw —

a

yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi, neu, yn achos ysgol na chynhelir mohoni felly, awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi, y cofrestrir neu y cofrestrwyd y disgybl sy'n destun yr wybodaeth honno ynddi;

b

Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

c

Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru; ac

ch

y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8, 9 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 19738.

3

Y categori y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) uchod yw'r categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol disgyblion ac y mae'n ofynnol iddynt gael gwybodaeth am ddisgyblion unigol at y diben hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol