xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
12.—(1) Gellir anfon unrhyw ddogfennau y mae'n ofynnol eu hanfon, neu yr awdurdodwyd eu hanfon, gan y naill berson at y llall o dan y Rheoliadau hyn drwy gyfrwng cyfathrebu electronig a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ysgrifennu yn y Rheoliadau hyn, sut bynnag y caiff ei fynegi, fel petai'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei chadw ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac oddi wrth gyfrifiadur, a'i darllen gan gyfrifiadur.
(2) Os oes gofyniad, o dan y Rheoliadau hyn, y dylid anfon copi o ddatganiad, sylw, hysbysiad neu ddogfen arall gan y naill berson at y llall, yna, os anfonir y copi hwnnw drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, dylid diystyru unrhyw ofyniad pellach bod rhaid anfon mwy nag un copi.