- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
26 Mawrth 2003
Yn dod i rym
1 Ebrill 2003
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997(3).
2. Ar ôl rheoliad 12A (Gwariant nad oes angen ei dynnu o gyfrif refeniw — gwariant at ddibenion cyfalaf ar eiddo yn y Cyfrif Refeniw Tai) o Reoliadau 1997 mewnosodir —
12B.—(1) Expenditure by a local authority in Wales in respect of liabilities for retirement benefits appropriated to a pension reserve in accordance with proper practices shall be expenditure falling within section 42(2).
(2) For the purposes of paragraph (1) “retirement benefits” means benefits payable pursuant to —
(a)the Local Government Pension Scheme Regulations 1997(4);
(b)the Local Government (Early Termination of Employment) (Discretionary Compensation) (England and Wales) Regulations 2000(5);
(c)the Firemen’s Pension Scheme Order 1992(6);
(d)the Police Pensions Regulations 1987(7)); and
(e)the Teachers (Compensation for Redundancy and Premature Retirement) Regulations 1997(8).
(f)any other regulations made under section 24 of the Superannuation Act 1972 (Compensation for loss of office, etc)(9)).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (10)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997 (“Rheoliadau 1997 ”) er mwyn ymdrin ag effeithiau cymhwyso safon gyfrifo newydd 'FRS 17' i awdurdodau lleol, ac mae'r safon yn ei gwneud yn ofynnol i rwymedigaethau yn y dyfodol ar gyfer budd-daliadau ymddeol gael eu cydnabod yng nghyfrifon yr awdurdodau lleol.
Mae adran 42 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn darparu nad oes angen i wariant penodol awdurdod lleol gael ei dalu o gyfrif refeniw'r awdurdod. Mae'r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan yr adran honno yn diwygio Rheoliadau 1997 drwy fewnosod rheoliad newydd sy'n darparu nad oes angen bod gwariant ar rwymedigaethau ar gyfer budd-daliadau ymddeol a neilltuodd awdurdod lleol i gronfa bensiwn fel y mae'n ofynnol gan arferion cyfrifo priodol yn cael ei dalu o gyfrif refeniw.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1997/319, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/3237. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1997/1612, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1238, 1999/1212 a 3438, 2000/1164 a 3025, 2001/1481 a 3401 a 2002/206.
O.S. 1987/257, a ddiwygiwyd gan O.S. 1988/1339, 1990/805, 1992/2349, 1994/641, 1996/867, 1998/577, 2000/843 a 1549 a 2001/3888.
O.S. 1997/311, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/2256 a 1999/608.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: