2003 Rhif 947 (Cy.128)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1) a (2)(b) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 20001 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: —

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 20022

Yn Rheoliad 19(6) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 20022(ffitrwydd gweithwyr) yn lle'r geiriau “1 Ebrill 2003” rhodder y geiriau “31 Hydref 2004”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 3.

Jane HuttY Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae Rheoliad 19 o'r Rheoliadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth a dogfennau penodol ar gael mewn perthynas â phobl sy'n gweithio mewn cartref gofal, gan gynnwys tystysgrifau cofnodion troseddol a ddyroddwyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997. O ran staff a gyflogir mewn cartref gofal yn union cyn 1 Ebrill 2002, nid yw'r gofyniad sy'n ymwneud â thystysgrifau cofnodion troseddol yn gymwys tan 1 Ebrill 2003. Mae rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r gofyniad hwn fel nad yw'n gymwys tan 31 Hydref 2004.