Enw, cychwyn a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 22 Ebrill 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr y “Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trwyddedu Sŵau 1981(1);
ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2002(2)).
Cymhwyso'r Ddeddf: Cymru
2.—(1) Mae adran 22A o'r Ddeddf (a fewnosodir gan Reoliadau 2002) yn peidio â bod yn effeithiol fel bod y diwygiadau i'r Ddeddf a wnaed gan reoliadau 3 i 26 o Reoliadau 2002 ac sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys i Gymru.
(2) Mae'r cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(3) at y Ddeddf i'w drin fel pe bai'n cyfeirio at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 2002 a chan y Rheoliadau hyn.
Trwyddedau Cyfredol
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob sw yng Nghymru y mae trwydded mewn grym ar ei gyfer o dan y Ddeddf ar 22 Ebrill 2003 heblaw sŵau sy'n cau cyn 1 Hydref 2003.
(2) Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau, cyn 1 Hydref 2003, fod pob trwydded a roddir ganddo o dan y Ddeddf yn cynnwys y fath amodau sydd, yn nhyb yr awdurdod, yn angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn sicrhau bod y mesurau cadwraeth y cyfeirir atynt yn adran 1A o'r Ddeddf yn cael eu rhoi ar waith yn y sw, a gall newid y drwydded at y diben hwnnw.
(3) Mae adran 16(2), (3) a (4) i (6) o'r Ddeddf yn gymwys ynghylch newid trwydded o dan baragraff (2) fel petai'r cyfeiriadau yn adran 16(2) a (6) at “subsection (1)” yn gyfeiriadau at y paragraff hwnnw.
(4) Mae adran 18(1)(b) ac (c), (2), (3), (5) a (7) o'r Ddeddf yn gymwys ynghylch newid trwydded o dan baragraff (2).
(5) Wrth benderfynu ynghylch pa amodau i'w gosod ar drwydded o dan baragraff (2) rhaid i awdurdod ystyried unrhyw safonau a bennir i Gymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 9 o'r Ddeddf.
(6) Ni chaiff newid trwydded o dan baragraff (2) ei drin fel newid sylweddol at ddibenion adran 16 o'r Ddeddf.
Darpariaeth drosiannol i sŵau heb drwyddedau
4.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i sw yng Nghymru y mae'n ofynnol iddo, oherwydd y diwygiadau a wneir i'r Ddeddf gan Reoliadau 2002 a chan y Rheoliadau hyn, gael ei drwyddedu o dan y Ddeddf ond nad oedd hi'n ofynnol iddo gael ei drwyddedu felly yn union cyn 22 Ebrill 2003.
(2) Er gwaethaf unrhyw ddiwygiad o'r fath, caiff person a oedd, yn union cyn 22 Ebrill 2003, yn rhedeg sw y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar unrhyw dir neu mewn unrhyw adeiladau barhau i redeg y sw hwnnw ar y tir neu yn yr adeiladau hynny heb drwydded o dan y Ddeddf—
(a)yn ystod y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a
(b)os yn ystod y cyfnod hwnnw gwneir cais am drwydded, nes bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynglŷn â'r cais hwnnw, neu fod y cais yn cael ei dynnu yn ôl.
(3) Nid yw adran 16C o'r Ddeddf yn gymwys i sw y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo tra caniateir i berson barhau i redeg y sw heb drwydded yn rhinwedd paragraff (2).
(4) Os caiff y drwydded ei rhoi, caiff ei rhoi am gyfnod o bedair blynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y rhoddir y drwydded arno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Ebrill 2003