Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1014 (Cy.111)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

31 Mawrth 2004

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2004.

(3Daw rheoliadau 2, 3, 7 a 8 i rym ar 6 Ebrill 2004.

(4Yn y Rheoliadau onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2);

ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(3).

(5Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997

2.—(1Diwygir rheoliad 1 o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—

“Local Health Board” has the meaning assigned to it by section 16BA(4) of the Act;

“pension credit guarantee credit” is to be construed in accordance with sections 1 and 2 of the State Pension Credit Act 2002(5));

“severe disability element” means the severe disability element of working tax credit specified in section 11(6)(d) of the Tax Credits Act 2002(6);.

(3Ar ôl paragraff (2), mewnosoder y paragraff canlynol—

(2A) In the application of these Regulations in relation to Wales—

  • “Health Authority” shall, in each place where these words occur, have effect as if there were substituted the words “Local Health Board”..

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997

3.  Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol)—

(a)ym mharagraff (3)(1)(i)(bb), ar ôl “disability element”, mewnosoder “or severe disability element”.

(b)ym mharagraff (3)(1)(ii) yn lle “£14,200” rhodder “£14,600”.

Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997

4.  Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)—

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£45.70” rhodder “£46.80”; a

(b)ym mharagraff (3), yn lle “£11.80” rhodder “£12.10”.

Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997

5.—(1Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

TABL

(1)(2)
Swm blaenorolSwm newydd
£ 31.30£ 32.10
£ 47.60£ 48.80
£ 64.80£ 71.30
£ 146.30£ 161.00
£ 54.00£ 55.40
£ 68.70£ 70.40
£ 83.00£ 91.30
£ 160.90£ 177.00
£ 160.90£ 164.90
£ 45.70£ 46.80

(2Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig, a theclynnau cymhleth)—

(a)ym mharagraff 1(1)(a) (prism — lens golwg unigol), yn lle “£10.10” rhodder “£10.40”;

(b)ym mharagraff 1(1)(b) (prism — lens arall), yn lle “£12.20” rhodder “£12.50”;

(c)ym mharagraff 1(1)(c) (lens arlliw golwg unigol), yn lle “£3.40” rhodder “£3.50”;

(ch)ym mharagraff 1(1)(d) (lens arlliw arall), yn lle “£3.90” rhodder “£4.00”;

(d)ym mharagraff 1(1)(e) (sbectol fach)—

(i)yn lle “£51.50” rhodder “£52.80”,

(ii)yn lle “£45.70” rhodder “£46.80”, a

(iii)yn lle “£24.80” rhodder “£25.40”;

(dd)ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau a weithgynhyrchwyd yn arbennig) yn lle “£51.50” rhodder “£52.80”;

(e)ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad am declyn cymhleth — lensys golwg unigol), yn lle “£11.00” rhodder “£12.10”;

(f)ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad am declyn cymhleth — lensys eraill), yn lle “£27.70” rhodder “£30.50”.

(3Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Defnyddio'r Rheoliadau hyn

6.  Nid yw'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 4 a 5 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.

Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 1986

7.—(1Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau 1986 (dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)yn y diffiniad o “notice of entitlement”, ar ôl “under regulation 7” mewnosoder “or 7A”;

(b)yn y safleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau canlynol—

“Local Health Board” has the meaning assigned to it by section 16BA(7) of the Act;

“pension credit guarantee credit” is to be construed in accordance with sections 1 and 2 of the State Pension Credit Act 2002(8);

“severe disability element” means the severe disability element of working tax credit specified in section 11(6)(d) of the Tax Credits Act 2002(9);.

(3Ar ôl paragraff (1), mewnosoder y paragraff canlynol—

(1A) In the application of these Regulations in relation to Wales—

  • “Health Authority” shall, in each place where these words occur, have effect as if there were substituted the words “Local Health Board”..

Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986

8.—(1Diwygir Rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion llygaid — cymhwyster) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff (2) —

(a)yn lle is-baragraff (l) rhodder yr is-baragraff canlynol—

(l)he is a member of a family—

(i)one member of which is receiving —

(aa)working tax credit and child tax credit,

(bb)working tax credit which includes a disability element or a severe disability element, or

(cc)child tax credit, but is not eligible to receive working tax credit, and

(ii)where the gross annual income of the person or persons to whom an award of a tax credit is made under section 14 of the Tax Credits Act 2002 is determined at the time of the award not to exceed £14,600; or;

(b)ar ôl is-baragraff (l), mewnosoder yr is-baragraffau canlynol—

(m)he is a person in respect of whom there is a current notice of entitlement;

(n)he is a member of a family one member of which is receiving pension credit guarantee credit..

(3Ym mharagraff (3), yn is-baragraff (a), yn lle “sub-paragraphs (b) and (f)” rhodder “sub-paragraphs (b), (f) and (n)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2004

Rheoliad 5(3)

ATODLENATODLEN 3 I REOLIADAU 1997 FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN

REGULATIONS 19(2) AND (3)

SCHEDULE 3VOUCHER VALUES — REPAIR

(1)(2)
Nature of RepairLetter Codes-Values
ABCDEFGHI
£££££££££
Repair or replacement of one lens10.0018.3529.6074.4521.6529.1539.6082.4576.40
Repair or replacement of two lenses20.0036.7059.20148.9043.3058.3079.20164.90152.80
Repair or replacement of:
The front of a frame10.2510.2510.2510.2510.2510.2510.2510.2510.25
A side of a frame6.106.106.106.106.106.106.106.106.10
The whole frame12.1012.1012.1012.1012.1012.1012.1012.1012.10

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”).

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG trwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion llygaid, ac â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cyflwyno yn y categorïau o bersonau y mae ganddynt yr hawl i dderbyn cymorth tuag at gost cyflenwi teclynnau optegol (o dan Reoliadau 1997) ac i gael prawf llygaid o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol (o dan Reoliadau 1986) aelodau o deulu y mae ei incwm yn disgyn o dan y terfyn penodedig ac sy'n derbyn credyd treth gwaith gydag elfen anabledd difrifol.

Maent hefyd yn gwneud diwygiadau yn sgil cyflwyno credyd gwarant credyd pensiwn yn Neddf Pensiwn y Wladwriaeth 2002. Pwrpas y diwygiadau yw sicrhau y bydd gan y rheini sy'n derbyn credyd gwarant credyd pensiwn ac aelodau o'u teuluoedd yr hawl i gael talebau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'w rhoi tuag at gost teclynnau optegol a gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) er mwyn cynyddu gwerth taleb optegol a ddyroddir tuag at gost ailosod un lens gyffwrdd, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae rheoliad 5(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd.

Mae rheoliad 5(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau.

Mae rheoliad 5(3) a'r Atodlen yn rhoi Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol.

Tua 2.5% yw graddfa'r cynnydd, ond ceir cynnydd o ryw 10% yng ngwerth talebau ar gyfer pobl benodol sydd â lensys presgripsiwn cryf.

Mae rheoliad 6 yn darparu na fydd y cynnydd yng ngwerth y talebau a wneir gan reoliadau 4 a 5 yn gymwys ond i dalebau a dderbynnir neu a ddefnyddir ar ôl 1 Ebrill 2004.

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) ar gyfer y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd Adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) (“Deddf 1980”), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“Deddf 1984”), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (“Deddf 1988”), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 27. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6). Yn lle paragraff 2(1) o Atodlen 12 rhoddwyd paragraff 8(1) o Atodlen 2 o Ddeddf 1988; mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 197(1).

(4)

Mewnosodwyd Adran 16BA yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 6.

(7)

Mewnosodwyd Adran 16BA yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 6.

(10)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources