Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 13) (Cymru) 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r gorchymyn hwn yn penodi 1 Ebrill 2004 fel y diwrnod y daw darpariaethau penodol o Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) i rym at ddibenion rheoliadau a wnaed mewn perthynas ag asiantaethau gofal cartref. Effaith hyn fydd dwyn yr asiantaethau hyn o fewn fframwaith reoliadol Deddf Safonau Gofal 2000.