- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
30 Mawrth 2004
Yn dod i rym
12 Ebrill 2004
1.—(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Ebrill 2004.
(2) Yn y rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 20 (Terfyn cyfalaf), yn lle'r ffigur “£20,000”(4), rhodder y ffigur “£20,500”.
(3) Yn rheoliad 28(1) (Cyfrifo incwm tariff o'r cyfalaf), yn lle'r ffigur “£12,250”(5), lle mae'n ymddangos, rhodder y ffigur “£13,500” ac yn lle'r ffigur “£20,000”(6), rhodder y ffigur “£20,500”.
3. Ym mharagraff 28H o Atodlen 3 o'r Prif Reoliadau—
(a)yn lle'r ffigur “£4.50” rhodder y ffigur “£4.75” ble bynnnag y mae'n ymddangos;
(b)yn is-baragraffau (3) a (4), yn lle'r ffigur “£6.75” rhodder y ffigur “£6.95” ble bynnag y mae'n ymddangos;
(c)dileer is-baragraff (5) ac yn ei le rhodder yr is-baragraff canlynol—
“(5) Where,
(a)the sum referred to in sub-paragraph (4) has been disregarded in the assessment of the resident’s partner’s income under these Regulations, or,
(b)the partner referred to in paragraph (4)(a) is in receipt of savings credit,
sub-paragraph (4) does not apply to the resident.”.
Dirymir rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2003(7)).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”).
Mae'r Prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person (“y preswylydd”) i dalu am y llety a drefnir gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Trefnir llety o dan Ran III i bobl 18 oed neu drosodd sydd, oblegid eu hoedran, afiechyd, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, mewn angen gofal a sylw nad ydynt fel arall ar gael iddynt, ac i famau sy'n disgwyl neu'n sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.
Mae'r Prif Reoliadau yn darparu bod rhaid asesu preswylydd fel un sy'n gallu talu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy na therfyn cyfalaf uchaf o £20,000. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau i gynyddu'r terfyn cyfalaf uchaf o £20,000 i £20,500. Mae'r Prif Reoliadau yn darparu hefyd ar gyfer cyfrifo incwm preswylydd i gymryd i ystyriaeth gyfalaf sydd o fewn band rhwng y terfyn cyfalaf uchaf a'r terfyn cyfalaf isaf. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r terfynau cyfalaf uchaf ac isaf. Mae pob £250 neu ran o £250 o fewn y band hwn yn cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm wythnosol o £1.
Mae rheoliad 3 yn cynyddu swm y Credyd Cynilion sydd i'w anwybyddu wrth gyfrifo incwm preswylydd. Mae hefyd yn gwneud mân ddiwygiad er mwyn symud effaith na fwriadwyd mohono yn y rheoliad fel y deddfwyd ef gyntaf.
Mae rheoliad 4 yn dirymu'r rheoliad a ddiwygiodd y terfynau cyfalaf yn 2003.
1948 p. 29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1992/2977; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/602, O.S. 2002/814 (Cy. 94) ac O.S.2003/897 (Cy. 117).
Mewnosodwyd y ffigur hwn mewn perthynas â Chymru gan O.S.2003/897 (Cy.117).
Mewnosodwyd y ffigur hwn mewn perthynas â Chymru gan O.S.2003/897 (Cy.117)
Mewnosodwyd y ffigur hwn mewn perthynas â Chymru gan O.S.2003/897 (Cy.117)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: