- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau 10 ac 11
1.—(1) O ran pob disgybl cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl.
(2) O ran pob disgybl o'r fath, yr wybodaeth ganlynol, pan fo'n briodol, mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol—
(a)unrhyw ganlyniad yn ôl asesiad tasg Cwricwlwm Cenedlaethol;
(b)y lefel ar lefel graddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gyflawnodd y disgybl yn ôl asesiad athrawon;
(c)a aseswyd y disgybl gan athrawon wrth weithio tuag at lefel 1;
(ch)a oedd y disgybl yn esempt rhag asesiad athrawon o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu
(d)a ydyw canlyniad asesiad athrawon heb fod ar gael oherwydd absenoldeb y disgybl.
2.—(1) O ran pob disgybl cofrestredig yng nghyfnod y trydydd cyfnod allweddol, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl.
(2) O ran pob disgybl o'r fath, yr wybodaeth ganlynol, pan fo'n briodol, mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol—
(a)y lefel ar lefel graddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gyflawnodd disgybl yn ôl asesiad athrawon;
(b)a aseswyd disgybl gan athrawon wrth weithio tuag at lefel 1;
(c)a aseswyd disgybl gan athrawon ar lefel ar raddfa lefel y Cwricwlwm Cenedlaethol o dan y pennawd “Perfformiad Eithriadol”;
(ch)a oedd y disgybl yn esempt rhag asesiad athrawon o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; ac
(d)a ydyw canlyniad asesiad athrawon heb fod ar gael oherwydd absenoldeb disgybl.
3. O ran pob disgybl cofrestredig yn yr ail gyfnod allweddol, yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol—
(a)a oedd y disgybl, ym marn pennaeth yr ysgol, yn gweithio ar lefel 1 neu'n is na hynny ac na roddwyd profion Cwricwlwm Cenedlaethol i'r disgybl;
(b)a oedd y disgybl yn esempt rhag profion Cwricwlwm Cenedlaethol o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu
(c)a ydyw canlyniad prawf Cwricwlwm Cenedlaethol heb fod ar gael am fod y disgybl yn absennol ar y diwrnod y rhoddwyd y prawf Cwricwlwm Cenedlaethol.
4. O ran pob disgybl cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol, yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob un o'r pynciau perthnasol—
(a) a oedd y disgybl, ym marn pennaeth yr ysgol, yn gweithio ar lefel 2 neu'n is na hynny ac na roddwyd profion Cwricwlwm Cenedlaethol i'r disgybl;
(b)a oedd y disgybl yn esempt rhag profion Cwricwlwm Cenedlaethol o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu
(c)a ydyw canlyniad prawf Cwricwlwm Cenedlaethol heb fod ar gael am fod y disgybl yn absennol ar y diwrnod y rhoddwyd prawf Cwricwlwm Cenedlaethol.
5. O ran pob disgybl cofrestredig yn yr ail a thrydyddd cyfnod allweddol, rhyw y disgybl, ei ddyddiad geni a'i gyfenw ac yna'i enw cyntaf neu, os oes mwy nag un, yna pob un o'r enwau cyntaf ac, os yw'r wybodaeth mewn ffurf ddarllenadwy ar beiriant, Rhif unigryw'r disgybl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: