Search Legislation

Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) (Diwygio) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 105 (Cy.12)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) (Diwygio) 2004

Wedi'u gwneud

20 Ionawr 2004

Yn dod i rym

26 Ionawr 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, ac yn gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl a Chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 26 Ionawr 2004.

Diwygio Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001

2.  Diwygir Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001(3) yn unol â rheoliadau 3 i 12 o'r Rheoliadau hyn.

3.  Yn rheoliad 1, ar ôl y gair “Chymru” yn yr ail le y mae'n ymddangos, mewnosodir y geiriau “ac mewn perthynas â daliadau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol arnynt”.

4.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (Dehongli) —

(a)mewnosodir y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “awdurdod archwilio” —

ystyr “awdurdod cymwys perthnasol” yw'r awdurdod sy'n gweithredu fel yr awdurdod cymwys perthnasol o fewn ystyr “relevant competent authority” yn Rheoliadau Gweinyddu a Rheoli Integredig 1993(4);;

(b)yn y diffiniad o “cais” ar ôl y gair “gymorth” mewnosodir y geiriau “yn unol â rheoliad 3 neu reoliad 5A yn ôl y digwydd a hwnnw'n gais”;

(c)yn lle'r diffiniad o “cyfnod penodedig” mewnosodir y diffiniad canlynol —

ystyr “cyfnod penodedig” (“specified period”):

(i)

o ran cais o dan reoliad 3, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad derbyn ac sy'n gorffen pan ddaw'r cyfnod o bum mlynedd, o'r dyddiad y daw'r taliad cyntaf yn daladwy arno ar gyfer y parsel organig olaf sy'n destun y cais hwnnw, i ben; neu

(ii)

o ran cais o dan reoliad 5A, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad derbyn ac sy'n gorffen pan ddaw'r cyfnod o bum mlynedd, o'r dyddiad y daw'r taliadau hynny yn daladwy arno ar gyfer y parsel neu'r parseli organig sy'n destun y cais hwnnw, i ben;

(ch)yn y diffiniad o “dyddiad derbyn” mewnosodir ar ôl y geiriau “rheoliad 3” y geiriau “neu reoliad 5A yn ôl y diwgydd”;

(d)yn y diffiniad o “tystysgrif gofrestru”, yn lle'r gair “pennu'r”, mewnosodir y geiriau “pennu, lle bo'n gymwys, y”.

5.  Ar ôl rheoliad 5, mewnosodir y rheoliadau canlynol —

Cymorth Stiwardiaeth Organig

5A.(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 5B a 5C, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau cymorth blynyddol, a elwir cymorth Stiwardiaeth Organig, ar gyfer parsel organig, i unrhyw berson sy'n fuddiolwr o ran y parsel organig hwnnw, ar yr amod bod y buddiolwr, mewn perthynas ag unrhyw daliad ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, wedi hawlio taliad ar gyfer y flwyddyn honno yn unol â rheoliad 9 ac wedi darparu unrhyw wybodaeth a thystiolaeth bellach ynglŷn â'r hawliad hwnnw y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo i'w darparu.

(2) Rhaid gwneud taliadau o dan baragraff 1 i'r ceiswyr hynny sydd yn bodloni'r amodau cymhwyster a nodir yn rheoliad 5B.

(3) Rhaid penderfynu cyfradd y taliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1), ac am ba hyd y byddant yn para, yn unol â rheoliad 5C.

(4) Bydd rheoliadau 6 i 20 o'r rheoliadau hyn, os yw'n gymwys, yn gymwys i gymorth Stiwardiaeth Organig sy'n daladwy yn unol â pharagraff (1).

Amodau Cymhwyster

5B.(1) Mae'r amodau cymhwyster y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 5A (2) fel a ganlyn —

(i)bod ceiswyr yn gallu bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol, neu y byddant yn gallu ei fodloni erbyn yr amser y mae unrhyw daliad cymorth i fod i gael ei wneud, bod y tir sydd wedi'i gynnwys yn eu cais yn bodloni gofynion paragraff (2);

(ii)bod rhaid cyflwyno cais am gymorth Stiwardiaeth Organig ar gyfer nid llai nag un hectar o dir;

(iii)mai'r ceisydd, ar ddyddiad cais am gymorth Stiwardiaeth Organig, yw perchennog neu denant y tir sy'n destun y cais a'i fod yn meddiannu'r tir hwnnw yn gyfreithlon;

(iv)nad yw'r ceisydd wedi'i anghymhwyso rhag cymryd rhan mewn cynllun amaeth-amgylcheddol naill ai o dan Reoliad y Cyngor 1257/1999 neu o dan Reoliad y Comisiwn;

(v)yn achos ceiswyr a oedd gynt yn fuddiolwyr cymorth o dan reoliad 3, y cydymffurfiwyd â'r amodau cymhwyster i gael cymorth o dan y rheoliad hwnnw er bodlonrwydd y Cynulliad Cenedlaethol;

(vi)bod y ceisydd yn rhoi'r ymrwymiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) i ategu'r cais.

(2) Y gofynion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(i) ynglŷn â'r tir sydd wedi'i gynnwys mewn cais am gymorth Stiwardiaeth Organig yw:

(i)bod yr holl dir o'r fath yn hollol organig a'i fod wedi parhau i fod yn hollol organig ers i'r gwaith gwreiddiol o'i drosi gael ei gwblhau; a

(ii)bod pob cymorth o'r fath, lle'r oedd proses trosi'r tir hwnnw wedi denu cymorth gynt o dan reoliad 3, wedi dod i ben.

(3) Mae'r ymrwymiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(vi) fel a ganlyn —

(i)cyn bod cymorth Stiwardiaeth Organig yn cael ei hawlio ar gyfer unrhyw barsel organig, bod tystysgrif gofrestru ar gyfer y parsel organig hwnnw yn cael ei darparu i'r Cynulliad Cenedlaethol;

(ii)ar gyfer pob parsel organig sydd wedi'i gynnwys mewn cais o dan reoliad 5A(1), bod tystysgrif gofrestru ddilys y parseli hynny a'u statws hollol organig yn cael eu cadw drwy gydol y cyfnod penodedig;

(iii)bod y tir sy'n destun y cais yn cael ei ffermio, drwy gydol y cyfnod penodedig, yn unol â'r cynigion sydd wedi'u nodi yn y cais o dan reoliad 5A(1) ac yn unol â safonau UKROFS a'r safonau sydd wedi'u nodi yn Atodlen 2;

(iv)bod rhaid sicrhau bod unrhyw dda byw organig neu dda byw sy'n cael eu trosi ac sy'n cael eu cadw ar y tir sydd wedi'i gynnwys mewn cais o dan reoliad 5A(1) yn cael eu cadw, drwy gydol y cyfnod penodedig, yn unol â safonau UKROFS; a

(v)os yw'r ceisydd, ar ddyddiad y cais o dan reoliad 5A(1), wedi cyflwyno ffermio organig ar ran o'r daliad ac eithrio'r rhan sy'n destun y cais, ei fod yn sicrhau bod y rhan arall yn cydymffurfio, drwy gydol y cyfnod penodedig, â safonau UKROFS ac yn parhau â ffermio organig ar y rhan arall honno o'r daliad yn unol â safonau UKROFS a'r safonau a nodir yn Atodlen 2.

Penderfynu swm y cymorth Stiwardiaeth Organig a'r cyfnodau y mae cymorth yn cael ei dalu ar eu cyfer

5C.(1) Ar gyfer pob parsel organig sy'n destun cais o dan reoliad 5A (1) rhaid gwneud taliadau ar gyfer y cyfnod penodedig.

(2) Ni chaniateir i gymorth Stiwardiaeth Organig fod yn daladwy ar gyfer cais ar gyfer unrhyw gyfnod cyn y dyddiad derbyn.

(3) Caniateir i gais am gymorth Stiwardiaeth Organig gael ei dynnu'n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y ceisydd ar unrhyw adeg cyn bod y cais yn cael ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(4) Rhaid cyfrifo taliadau o dan reoliad 5A(1) yn unol â Rhan 1A o Atodlen 1..

6.  Yn rheoliad 6 (Cyfyngiadau ar dderbyn ceisiadau), ym mharagraff 1, ar ôl y gair “cais”, mewnosodir y geiriau canlynol “o dan reoliad 3”.

7.  Yn rheoliad 7 (Cyfyngiadau ar dalu cymorth), ym mharagraff (4), ar ôl y gair “cymorth” mewnosodir y geiriau “o dan reoliad 3”.

8.  Yn rheoliad 10 (Y pŵer i amrywio ymrwymiadau), ym mharagraff (1), ar ôl y cyfeiriad alffaniwmerig “5(1)(ch)”, mewnosodir y cyfeiriad alffaniwmerig “5B(1)(vi),”.

9.  Yn rheoliad 12 (Newid meddiannaeth) —

(a)ym mharagraff 3(b), ar ôl y cyfeiriad alffaniwmerig “5(1)(a), (b) ac (c)” mewnosodir y geiriau, a'r cyfeiriad alffaniwmerig “ac yn rheoliad 5B(1)”;

(b)ym mharagraff 4, ar ôl y gair “amodau” mewnosodir y geiriau canlynol “, i'r graddau y maent yn yn ymwneud â chymorth sy'n daladwy o dan reoliad 3”;

(c)ym mharagraff 6(c), ar ôl y cyfeiriad alffaniwmerig “5(1)(a), (b)(ii) ac (ch)” mewnosodir y geiriau canlynol a'r cyfeiriad alffaniwmerig “ac yn rheoliad 5B(1)(ii), (iv) a (vi)”.

10.  Yn rheoliad 16 (Gwrthod ac adennill cymorth, terfynu a gwahardd) —

(a)ym mharagraff (1), yn lle'r geiriau “mewn perthynas â'r cynllun hwn” rhoddir y geiriau “o dan y Rheoliadau hyn”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle'r geiriau “y cynllun hwn” rhoddir y geiriau “y Rheoliadau hyn”.

11.  Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (Y Taliad ar gyfer Parsel Organig) —

(a)ym mharagraff 1 (tir cymwys CTATA a chnydau parhaol), o fewn y llinellau sydd wedi'u dynodi â'r Rhif olion Rhufeinig “(iv)” a “(v)”, rhaid rhoi'r ffigur “£35” yn lle'r ffigur “£20”;

(b)ym mharagraff 2 (Tir wedi'i amgáu), o fewn y llinellau sydd wedi'u dynodi â'r Rhif olion Rhufeinig “(iv)” a “(v)”, rhaid rhoi'r ffigur“£35” yn lle'r ffigur “£15”;

(c)ym mharagraff 3 (Tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori), o fewn y llinellau sydd wedi'u dynodi â'r Rhif olion Rhufeinig “(iii)”, “(iv)” a “(v)”, rhaid rhoi'r ffigur “£10” yn lle'r ffigur “£5”;

(ch)ar ôl y tabl ym mharagraff 3, rhaid mewnosod y tabl canlynol —

RHAN 1ACymorth Stiwardiaeth Organig Blynyddol ar gyfer Parseli Organig

1.  Tir cymwys CTATA a chnydau parhaol

— £35 yr hectar

2.  Tir wedi'i amgáu

— £35 yr hectar

3.  Tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori

— £10 yr hectar..

(d)yn y frawddeg ganlynol, ar ôl y geriau “Yn Rhan 1” ychwanegir “a Rhan 1A”.

12.  Yn Atodlen 2:

(a)ar ôl y geiriau a'r cyfeiriad alffaniwmerig “rheoliad 5(2)(b)(ii), (iv) a (v)” mewnosodir y geiriau a'r cyfeiriad alffaniwmerig “a rheoliad 5B(3)(iii) a (v)”.

(b)rhoddir y paragraff canlynol yn lle paragraff 10 —

10.  Rhaid i'r buddiolwr lynu wrth delerau'r Codau Arferion Amaethyddol Da canlynol(5):

(i)Cod Arferion Amaethyddol Da er Diogelu Aer (1992, (a ddiwygiwyd ym 1998)), a gyhoeddwyd gan Adran Amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig a'r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (6);

(ii)Cod Arferion Amaethyddol Da er Diogelu Dŵ r (1991 (a ddiwygiwyd ym 1998)), a gyhoeddwyd gan Adran Amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig a'r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (7);

(iii)Cod Arferion Amaethyddol Da ar gyfer Diogelu'r Pridd (1992 (a ddiwygiwyd ym 1998)), a gyhoeddwyd gan Adran Amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig a'r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (8));

(iv)Cod Arferion ar gyfer Defnyddio Plaleiddiaid ar Ffermydd a Daliadau (1998), a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Comisiwn Iechyd a Diogelwch(9)..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Ionawr 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 26 Ionawr 2004, yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”) yn y fath fodd ag i gyflwyno cymorth ychwanegol, a elwir cymorth Stiwardiaeth Organig (“cymorth Stiwardiaeth”), a fyddai'n daladwy i geiswyr cymwys ar gyfer tir y mae'r gwaith i'w drosi i fod yn dir organig wedi'i gwblhau ond y mae'r ceisydd wedi rhoi ymrwymiad ynglŷn â'r tir hwnnw i barhau i'w ffermio yn organig.

Mae rheoliad 3 yn diwygio'r prif reoliadau yn y fath fodd ag i ddarparu iddynt fod yn gymwys i ddaliadau trawsffiniol sy'n cynnwys tir sydd y tu allan i Gymru.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod darpariaethau yn y prif Reoliadau sydd:

(a)yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud taliadau cymorth Stiwardiaeth yn ddarostyngedig i amodau penodedig;

(b)yn pennu'r amodau cymhwyster;

(c)yn pennu cyfradd y cymorth Stiwardiaeth ac am ba hyd y bydd yn para;

(ch)yn darparu bod y darpariaethau gweinyddu a gorfodi yn y prif Reoliadau yn gymwys i Gymorth Stiwardiaeth.

Mae rheoliadau 4, 6, 7, 8, 9, 10 a 12 yn darparu diwygiadau i'r prif Reoliadau sy'n ganlyniad i gyflwyno cymorth Stiwardiaeth ac yn gysylltiedig â hynny.

Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r prif Reoliadau hefyd yn y fath fodd ag i gynyddu'r gyfradd dalu ar gyfer cymorth ffermio organig sy'n daladwy o dan reoliad 3 o'r prif Reoliadau ar gyfer pedwaredd, pumed (ac o ran tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori), trydedd flwyddyn y cais (rheoliad 11(a), (b) ac (c)).

Mae rheoliad 11(ch) yn rhoi i mewn i'r prif Reoliadau ran newydd, (“Rhan 1A”), o Atodlen 1, sy'n nodi'r cyfraddau talu ar gyfer cymorth Stiwardiaeth.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ac fe'i hadneuwyd yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Bwyd a Datblygu Amaethyddol, Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) (“y Gorchymyn”). Mae pŵer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn y Deyrnas Unedig ond sydd y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.

(5)

Mae pob cod ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Is-adran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(6)

Cyfeirnod PB 0618.

(7)

CyfeirnodPB 0587.

(8)

CyfeirnodPB 0617.

(9)

Cyfeirnod PB 3528.

(10)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources