Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1728 (Cy.172) (C.67)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

13 Gorffennaf 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004.

2.  Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig.

3.  Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Diwrnodau penodedig

4.  1 Awst 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

5.  1 Medi 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Gorffennaf 2004

RHAN 1Darpariaethau yn dod i rym ar 1 Awst 2004

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 72Cynigion sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau AtodlenMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol 21 isod
Atodlen 9Cynigion sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech — gweithredu
Atodlen 21Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 100(3)

RHAN 2Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2004

Y ddarpariaethY pwnc
Adran 21Cyfrifoldeb cyffredinol dros redeg ysgol
Adran 22Hyfforddiant a chymorth i lywodraethwyr
Adran 30Adroddiadau llywodraethwyr a gwybodaeth arall
Adran 32Cyfrifoldeb dros bennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau
Adran 39(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diffiniad o “statutory provision”Dehongli Pennod 1
Adran 155Arolygu addysg feithrin
Adran 176Ymgynghori â disgyblion
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isodMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isodDiddymiadau
Atodlen 14, paragraffau 1 i 7Arolygu addysg feithrin
Atodlen 21 —Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol
Paragraff 39(1) a (5)
Paragraff 63 ac eithrio is-baragraff (a)
Paragraff 68
Paragraff 110(1) a (3) ond at ddiben dileu paragraff (e) o is-adran (6) o adran 127 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —Diddymiadau
Deddf Plant 1989(3), adran 79P(4)(d) a'r “and” sy'n dod o'i blaen;

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(4).

Adran 38, adrannau 41 a 42, adran 127(6)(e), yn adran 138, yn is-adran (4)(b), y geiriau “paragraph 4 or 8 of Schedule 23 or”, ac yn is-adran (5), paragraff (a)(ii) a (iii) ac, ym mharagraff (b)(ii), y gair “46”, yn Rhan II o Atodlen 11, paragraff 7, yn Atodlen 30, paragraff 204(b)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Awst 2004 ac 1 Medi 2004 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, mewn perthynas â Chymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.

Mae effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen fel a ganlyn —

Mae adran 72 ac Atodlen 9 yn diwygio Deddf Dysgu a Medrau 2000 er mwyn galluogi Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant i gynnig sefydlu, addasu neu gau dosbarthiadau chwech. Mae ei gynigion i'w cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”). Nodir y gweithdrefnau mewn rheoliadau.

Mae effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen fel a ganlyn —

Mae adrannau 21, 22, 30 a 32 yn ailddeddfu darpariaethau penodol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) ynglŷn â llywodraethu ysgolion a gynhelir.

Mae adran 21 yn darparu mai corff llywodraethu ysgol sy'n gyfrifol am ei rhedeg. Mae'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n nodi rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu, penaethiaid ac AALl.

Mae adran 22 yn darparu bod rhaid i AALl ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant yn rhad ac am ddim i lywodraethwyr.

O dan adran 30 rhaid i gorff llywodraethu baratoi adroddiad blynyddol. Bydd y rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi'r gofynion ynglŷn â chynnwys adroddiadau blynyddol a'u dosbarthu. Rhaid i gyrff llywodraethu ddarparu adroddiadau o'r fath i'r AALl yn unol â'i ofynion, a rhaid i benaethiaid ddarparu adroddiadau o'r fath i gyrff llywodraethu neu AALl yn unol â'u gofynion hwythau.

Mae adran 32 yn nodi, o ran gwahanol gategorïau o ysgol, y corff sy'n gyfrifol am benderfynu dyddiadau tymhorau ysgol, gwyliau ysgol ac amserau sesiynau ysgol. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau ynglŷn â chynigion i newid amserau sesiynau ysgol.

Mae adran 39 yn cynnwys diffiniadau.

Mae adran 155 ac Atodlen 14 yn diwygio Atodlen 26 i Ddeddf 1998 sy'n gwneud darpariaeth ynglŷn ag arolygu addysg feithrin. Bydd y diwygiadau hyn yn caniatáu i arolygiadau gael eu gwneud gan aelodau o'r arolygiaeth yn ogystal ag arolygwyr meithrinfyedd cofrestredig, ac yn caniatáu i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru gofrestru'r personau hynny y mae hi'n barnu eu bod yn briodol a chymryd i ystyriaeth yr angen am arolygwyr yng Nghymru. O'r blaen cofrestrodd hi unrhyw berson a fodlonodd y meini prawf statudol. Mae Atodlen 14 yn cynnwys diwygiadau hefyd a fydd yn golygu y bydd apelau yn erbyn penderfyniadau ar gofrestru yn cael eu gwneud yn Lloegr i'r tribiwnlys a sefydlwyd o dan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999. Bydd apelau yng Nghymru yn parhau i gael eu gwneud i Dribiwnlys yr Arolygydd Meithrinfeydd Cofrestredig, ond mae rhai diwygiadau sy'n ganlyniad i'r newidiadau yn Lloegr.

Mae adran 176 yn gosod dyletswydd ar AALl a chyrff llywodraethu i roi sylw i ganllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn ag ymgynghori â disgyblion ynghylch gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 14 i 1731 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 18(2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran (19)(6) (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adrannau 27 a 281 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 291 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 40 (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 414 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 424 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 431 Tachwedd 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 461 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 4919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 51 (yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adran 52 (yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adrannau 54 i 5619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 60 i 641 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 75 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 97 a 9819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 99(1)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 100 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 101 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 105 i 10719 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 108 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 111 i 11819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1191 Hydref 20022002/2439
Adran 120(1) a (3) i (5)1 Hydref 20022002/2439
Adran 120(2)1 Awst 20032003/1667
Adran 1211 Hydref 20022002/2439
Adran 122 i 1291 Awst 20032003/1667
Adran 130 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn llawn)1 Awst 20032003/1667
Adran 13119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 132 a 13319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 134 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 13519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 136 i 1401 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 14119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 142 i 14431 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 14519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 146 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 148 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 14931 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 15031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 151(2)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 152 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 15431 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adran 15631 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adrannau 157 i 1741 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 1771 Awst 20042004/912 (Cy.95)
Adran 178(1) a (4)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 179 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 18019 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 181 i 1851 Medi 20032003/1718 (Cy. 185)
Adran 188 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 189 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 191 i 19419 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 195 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn llawn)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 19619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1971 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 19831 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adran 1991 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 20031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 201 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adrannau 202 a 2031 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 2061 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 207 a 2089 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 215 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)1 Awst 20042004/912 (Cy.95)
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 3, paragraffau 1 i 51 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 4, paragraffau 1 a 49 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Paragraff 12(1), (3) i (5)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Atodlen 519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 1519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 111 Hydref 20022002/2439
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 719 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Paragraff 12(1) a (2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 31 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol),31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 1531 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 181 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 191 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 201 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1667
(yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Atodlen 22 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)9 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)1 Awst 20042004/912 (Cy.95)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O. S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667, O.S. 2003/2071 ac O.S. 2004/1318.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources