ATODLEN 2Gofynion Statws Athrawon Cymwysedig
RHAN 2
Lleferydd a Drama20
Gofynion y paragraff hwn yw bod personau wedi cael cymhwyster —
a
Diploma Addysgu a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn Ysgol Ganolog Hyfforddiant Lleferydd a Chelfyddyd Drama (Ysgol Ganolog Lleferydd a Drama wedi hynny),
b
Diploma Addysgu mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn yr Academi Frenhinol Gerdd,
c
Diploma Addysgu mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yng Ngholeg Newydd Lleferydd a Drama,
ch
Diploma Athro Aelodaeth Gyswllt o Ysgol Cerdd a Drama'r Guildhall (AGSM) mewn Lleferydd a Drama a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd yn Ysgol Cerddoriaeth a Drama'r Guildhall cyn 1 Ionawr 1960,
d
Diploma a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs tair blynedd mewn Lleferydd a Drama a gynhaliwyd gan Goleg Hyfforddiant Lleferydd a Drama Rose Bruford (Coleg Lleferydd a Drama Rose Bruford wedi hynny),
dd
Tystysgrif Athro a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd mewn Lleferydd a Drama a gynhaliwyd gan Ysgol Gerdd y Northern tan 1968,
e
Diploma a ddyfarnwyd ym 1969 ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd ar gyfer athrawon Lleferydd a Drama yng Ngholeg Celfyddyd a Dylunio Manceinion, neu
f
Diploma a ddyfarnwyd o 1970 ymlaen ar ôl cwblhau'n llwyddiannus y cwrs hyfforddiant amser-llawn o dair blynedd ar gyfer athrawon Lleferydd a Drama ym Mholytechnig Manceinion,
a chyn iddynt ennill cymhwyster y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (a) i (f) yr oeddent wedi sicrhau'r cymwysterau addysg gofynnol yr oedd eu hangen i gael mynediad i goleg addysg cydnabyddedig.