- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
6 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym
ac eithrio erthygl 4(3)
31 Gorffennaf 2004
erthygl 4(3)
31 Awst 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(3) a (4) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl dilyn y weithdrefn a bennir yn Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Y Weithdrefn Ddynodi) 1998(3):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004.
(2) Ac eithrio erthygl 4(3) daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2004.
(3) Daw erthygl 4(3) i rym ar 31 Awst 2004
(4) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “yr enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religious denomination”) yw'r enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn unol â'i ddaliadau mewn ysgol yn unol ag Atodlen 19 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
2. Dynodir yr ysgolion a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.
3. Yr enwad crefyddol perthnasol mewn perthynas ag ysgol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yw—
(a)Yr Eglwys yng Nghymru, yn achos ysgol a restrir yn Rhan I o'r Atodlen;
(b)Catholig, yn achos ysgol a restrir yn Rhan II o'r Atodlen; ac
(c)Eglwys Loegr yn achos ysgol a restrir yn Rhan III o'r Atodlen.
4.—(1) Diwygir Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999(4) fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw —
(a)hepgorwch y cofnodion ar gyfer:
(i)Jeffreyston Voluntary Controlled Primary School;
(ii)Manordeifi Upper Voluntary Controlled Primary School;
(iii)Ysgol Gynradd Wirfoddol Myddfai; a
(iv)Portskewett Voluntary Controlled Infants School; a
(b)hepgorwch y cofnod ar gyfer St. Paul’s Primary School o'r rhestr o Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Reolir a mewnosodwch gofnod union debyg ar gyfer St. Paul’s Primary School yn y rhestr o Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Gynorthwyir.
(3) Yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw hepgorwch y cofnod ar gyfer St Winefrides Roman Catholic School, Sir Ddinbych.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004
Rheoliadau 2 a 3
AALl | Enw'r Ysgol | Categori'r Ysgol |
---|---|---|
Sir Fynwy | Ysgol Gynradd yr Archesgob Rowan Williams — Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir | Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
Sir Benfro | Ysgol Gynradd Sant Oswallt — Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir | Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
Powys | Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanelwedd— Ysgol Wirfoddol a Reolir | Ysgol Wirfoddol a Reolir |
AALl | Enw'r Ysgol | Categori'r Ysgol |
---|---|---|
Sir Ddinbych | Ysgol y Santes Ffraid | Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
AALl | Enw'r Ysgol | Categori'r Ysgol |
---|---|---|
Powys | Ysgol Eglwys Loegr Sarn | Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 31 Gorffennaf 2004, yn dynodi ysgolion yng Nghymru sydd â chymeriad crefyddol yn unol ag adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Dynodir yr ysgolion hyn yn ogystal â'r ysgolion hynny a restrir eisoes yng Ngorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999 (“Gorchymyn 1999”).
Mae dynodi ysgol sydd â chymeriad crefyddol yn berthnasol ar gyfer nifer o ddibenion o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“y Ddeddf”), yn arbennig:
(a)fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar ffurf yr addysg grefyddol sydd i'w darparu o dan Atodlen 19 i'r Ddeddf;
(b)fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar ffurf yr addoli ar y cyd sydd i'w ddarparu o dan Atodlen 20 i'r Ddeddf;
(c)fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar faterion staffio ysgol o dan adrannau 58-60 o'r Ddeddf;
(ch)at ddibenion penderfynu ar y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion o dan adran 89 o'r Ddeddf; a
(d)at ddibenion cael gwared ar asedau o dan baragraff 5 o Atodlen 3 i'r Ddeddf, er mwyn ailgyfeirio asedau er lles ysgolion o'r un crefydd neu o'r un enwad crefyddol.
Nid yw'r dynodiad gan y Gorchymyn hwn ynddo'i hun yn fodd i ennill cymeriad crefyddol na newid cymeriad crefyddol. Mae dynodiad yn cydnabod nodweddion presennol penodol yr ysgol neu ei chorff llywodraethu fel y disgrifir hwy yn Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Y Weithdrefn Ddynodi) 1998 (O.S. 1998/2535). O dan y Ddeddf rhaid i ysgol gau yn gyntaf os yw i ennill cymeriad crefyddol, onid oes ganddi un eisoes fel cwestiwn o ffaith, neu os yw i newid ei chymeriad crefyddol.
Nid yw datganiad yn y Gorchymyn mewn perthynas ag ysgol fod yr enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn unol â'i ddaliadau yn yr ysgol yn unol ag Atodlen 19 i Ddeddf 1998, yn Gatholig yn penderfynu a yw ysgol yn ysgol Gatholig neu beidio yn unol â chyfraith ganon.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud diwygiadau i Orchymyn 1999 er mwyn adlewyrchu'r ffaith:
(i)bod rhai ysgolion sydd wedi'u rhestru yn y Gorchymyn hwnnw wedi cau: a
(ii)bod un o'r ysgolion sydd wedi'u rhestru yn y Gorchymyn hwnnw wedi newid categori.
Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddi (O.S.1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: