xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1743 (Cy.182)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

6 Gorffennaf 2004

Yn dod i rym

rheoliadau 1, 2 a 5

1 Awst 2004

rheoliadau 3, 4 a 6

1 Medi 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004.

(2Mae'r rheoliad hwn a rheoliadau 2 a 5 yn dod i rym ar 1 Awst 2004.

(3Mae rheoliadau 3, 4 a 6 yn dod i rym ar 1 Medi 2004.

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2); ac

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn ôl eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.

Llywodraethu ysgolion a gynhelir

3.  Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae'r diffiniad o “maintained school” yn adran 39 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 21 a 30 at “maintained school” i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir fel y diffinnir “maintained school” gan adran 20(7) o Ddeddf 1998.

Addasu adran 127(6) o Ddeddf 1998

4.  Yn adran 127(6) o Ddeddf 1998(3) mewnosoder ar ôl paragraff (m) y canlynol —

(n)section 30(3) and (4) of that Act (Governors' reports and other information),.

Cynigion sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech

5.  Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Awst 2004 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y daw diddymiad Atodlen 23 i Ddeddf 1998 (a wnaed gan adran 215(2) a Rhan 3 o Atodlen 22 ) i rym mewn perthynas â Chymru, mae paragraff 2 o Atodlen 23 i Ddeddf 1998 i gael effaith —

(a)fel pe bai'r geiriau “under any enactment” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “under section 28 or paragraph 5 of Schedule 7” yn is-baragraffau (1), (2) a (3), a

(b)fel pe bai'r geiriau “, or by the relevant authority under section 113A(5) of, or paragraph 1 of Schedule 7A to, the Learning and Skills Act 2000(4)” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd is-baragraff (3)(b).

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999

6.  Diwygir rheoliad 4(1) o Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999(5) drwy roi ar ôl y geiriau “inspected by” y geiriau “a member of the Inspectorate or”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â'r ffaith bod darpariaethau Deddf Addysg 2002 yn cael eu dwyn i rym gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004. Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dyfodiad i rym adran 21 (cyfrifoldeb cyffredinol dros redeg ysgolion) ac adran 30 (adroddiadau llywodraethwyr a gwybodaeth arall). Nes y bydd y diffiniad o “maintained school” yn adran 39 (sy'n cynnwys ysgol feithrin a gynhelir) yn dod i rym, mae'r cyfeiriadau yn adrannau 21 a 30 at ysgol a gynhelir i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at “maintained school” fel y'i diffinnir yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”), a hwnnw'n ddiffiniad nad yw'n cynnwys ysgol feithrin a gynhelir.

Mae rheoliad 4 yn diwygio adran 127 o Ddeddf 1998 drwy ychwanegu at y rhestr o swyddogaethau perthnasol sydd i'w cwmpasu gan y Cod Ymarfer ar berthynas effeithiol rhwng AALl ac ysgolion, adroddiadau a wneir gan gyrff llywodraethu a phenaethiaid o dan adran 30. Mae'r paragraff (n) newydd sydd wedi'i fewnosod yn rhagolygol yn adran 127(6) o Ddeddf 1998 gan baragraff 110(3)(c) o Atodlen 21 yn ddiffygiol, ac ni fwriedir i baragraff 110(3)(c) gael ei ddwyn i rym mewn perthynas â Chymru i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff (n).

Mae rheoliad 5 yn darparu hyd nes y diddymir Atodlen 23 i Ddeddf 1998 (sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â niferoedd safonol i'w derbyn i ysgolion a gynhelir), fod y cyfeiriadau ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno at gynigion a wnaed o dan ddarpariaethau Deddf 1998 i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at gynigion a wnaed o dan unrhyw ddeddfiad. Bydd hyn yn cynnwys cynigion a wnaed mewn perthynas â dosbarthiadau chwech gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant o dan adran 113A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (fel y'i mewnosodwyd gan adran 72).

Mae rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999 sy'n ganlyniad i ddyfodiad i rym Atodlen 14 er mwyn cyfeirio at arolygiadau gan aelodau o'r Arolygiaeth, yn ogystal â chan arolygwyr meithrinfeydd cofrestredig.

(3)

Fe'i diwygiwyd gan baragraff 110 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002.

(4)

Mewnosodir adran 113A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac Atodlen 7A iddi gan adran 72 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 9 iddi ar 1 Awst 2004 (gweler O.S. 2004/1728 (Cy.172) (C.67).