Darpariaeth Drosiannol3

Bydd unrhyw gam a gymerwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â darparu Cynllun Gofodol Cymru2, gan gynnwys unrhyw ymgynghoriad gydag unrhyw berson mewn perthynas â darpariaethau'r Cynllun, i'w drin fel un a gymerwyd er mwyn cyflawni'r dyletswyddau a osodwyd ar y Cynulliad Cenedlaethol gan adran 60 o'r Ddeddf, boed i'r cam hwnnw gael ei gymryd cyn y dyddiad a bennwyd gan erthygl 2 neu ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.