Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 219 (Cy.23)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

3 Chwefror 2004

Yn dod i rym

1 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 12(2), 14(1)(d), 15(3), 16(1) a (3), 22(1), (2)(a) i (d), ac (f) i (j), (5)(a) a (7)(a) i (h) a (j), 25, 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s guide”) yw'r wybodaeth ysgrifenedig a baratowyd yn unol â rheoliad 5(1);

ystyr “asiantaeth” (“agency”) yw asiantaeth gofal cartref;

mae i “asiantaeth gyflogi” yr un ystyr ag “employment agency” yn Neddf Asiantaethau Cyflogi 1973(3);

ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”), mewn perthynas â defnyddiwr gwasanaeth, yw person, heblaw'r person cofrestredig neu berson sy'n cael ei gyflogi at ddibenion yr asiantaeth, sydd â chydsyniad pendant neu oblygedig y defnyddiwr gwasanaeth, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles y defnyddiwr gwasanaeth;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas ag asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel y person sy'n rhedeg yr asiantaeth;

ystyr “darparydd gwasanaeth uniongyrchol” (“direct service provider”) yw darparydd sy'n cyflenwi gweithiwr gofal cartref a gyflogir gan y darparydd ac sy'n gweithredu ar ei ran ac o dan ei reolaeth;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 4(1);

ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw unrhyw berson y mae asiantaeth yn trefnu bod gofal personol yn cael ei ddarparu ar ei gyfer yng nghartref y person ei hun;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “gweithiwr gofal cartref” (“domiciliary care worker”) yw person —

(a)

a gyflogir gan yr asiantaeth i weithredu ar ran person arall ac o dan ei reolaeth;

(b)

a gyflwynir gan asiantaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth i'w gyflogi ganddo; neu

(c)

a gyflogir gan ddarparydd gwasanaeth uniongyrchol,

i ddarparu gofal personol yn eu cartrefi eu hunain i bersonau nad ydynt yn gallu ei ddarparu iddynt eu hunain heb gymorth oherwydd eu hafiechyd, eu llesgedd neu eu hanabledd;

ystyr “mangre'r asiantaeth” (“agency premises”) yw'r fangre y mae gweithgareddau asiantaeth yn cael eu rhedeg ohoni;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas ag asiantaeth, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu reolwr cofrestredig yr asiantaeth;

ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas ag unrhyw berson, yw —

(a)

priod y person;

(b)

unrhyw hynafiad uniongyrchol, disgynnydd uniongyrchol, brawd, chwaer, ewyrth, modryb, nai neu nith i'r person neu i briod y person;

(c)

priod unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn,

ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, ac mae cyfeiriadau at “priod” yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel petai ef neu hi yn ŵ r i'r person (neu yn ôl y digwydd) yn wraig i'r person;

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas ag asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr yr asiantaeth;

ystyr “staff” (“staff”) yw personau sy'n cael eu cyflogi gan y person cofrestredig at ddibenion yr asiantaeth;

ystyr “swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol” (“appropriate office of the National Assembly”) mewn perthynas ag asiantaeth—

(a)

os oes un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i phennu o dan reoliad 32 ar gyfer yr ardal y mae mangre'r asiantaeth wedi'i lleoli ynddi, yw'r swyddfa honno; neu

(b)

mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

rhaid dehongli “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yn unol â rheoliad 8(2)(a).

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —

(a)at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae'r termau “cyflogi” a “chyflogaeth” yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio a boed o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau neu mewn modd nad yw o dan gontract.

Ymgymeriadau sydd wedi'u heithrio a'u cymhwysaid i asiantaethau cyflogi

3.—(1At ddibenion y Ddeddf, mae ymgymeriad wedi'i eithrio o'r diffiniad o “domiciliary care agency” yn adran 4(3) o'r Ddeddf —

(a)os yw'n cael ei redeg gan unigolyn —

(i)sy'n ei redeg heblaw mewn partneriaeth ag eraill;

(ii)nad yw'n cael ei gyflogi gan gorff neu gymdeithas anghorfforedig i'w redeg; a

(iii)nad yw'n cyflogi unrhyw berson arall at ddibenion yr ymgymeriad;

(iv)sy'n darparu neu'n trefnu'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal personol i lai na phedwar defnyddiwr gwasanaeth;

(b)i'r graddau y mae'n trefnu ar gyfer darparu gofal personol ar gyfer personau sy'n cael eu lletya mewn cartref gofal y mae person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef o dan Ran II o'r Ddeddf;

(c)i'r graddau y mae'n trefnu ar gyfer darparu gofal personol drwy gytundeb gydag ymrwymiad a gofrestrwyd o dan y Ddeddf ac o dan y Rheoliadau hyn.

(2Ni fydd darpariaethau'r Rheoliadau hyn sydd ym mharagraff (3) yn gymwys i asiantaethau gofal cartref i'r graddau y maent hefyd yn asiantaethau cyflogi.

(3Y rheoliadau hynny yw 13 (Rhedeg yr asiantaeth), 14 (Y trefniadau ar gyfer darparu gofal personol), 16 (Staffio), 17 (Y llawlyfr staff a'r cod ymddygiad), ac 19 (Dull adnabod y gweithwyr).

Datganiad o ddiben

4.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r asiantaeth ddatganiad sydd wedi'i ysgrifennu ar bapur (a hwnnw'n ddatganiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y “datganiad o ddiben” a rhaid iddo gynnwys —

(a)datganiad o nodau ac amcanion yr asiantaeth;

(b)datganiad sy'n pennu'r gwasanaethau gofal personol y mae'r asiantaeth yn trefnu iddynt gael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth;

(c)datganiad o ran nifer a maint y contractau neu'r trefniadau eraill y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau odanynt;

(ch)datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod y datganiad o ddiben ar gael ym mangre'r asiantaeth i'w archwilio gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi at ddibenion yr asiantaeth.

Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth

5.—(1Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth a rhaid iddo gynnwys —

(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben;

(b)disgrifiad o'r ardal ddaearyddol y mae'r asiantaeth yn trefnu bod gwasanaethau i'w darparu ar ei chyfer;

(c)y telerau a'r amodau ar gyfer y gofal personol sydd i'w ddarparu i'r defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys—

(i)swm y ffioedd a dull eu talu;

(ii)y materion a ddisgrifir ym mharagraffau 5, 6 a 9 o Atodlen 1;

(ch)disgrifiad o strwythur staff yr asiantaeth;

(d)crynodeb o weithdrefn gwyno'r asiantaeth sy'n ofynnol gan reoliad 21;

(dd)datganiad o gyfrifoldebau'r asiantaeth a'r defnyddiwr gwasanaeth o ran iechyd a diogelwch;

(e)manylion ar sut y gall y defnyddiwr gwasanaeth gysylltu â'r person cofrestredig, neu berson a benodwyd i weithredu ar ei ran, ar bob adeg yn ystod y cyfnod y darperir gofal personol;

(f)gwybodaeth ar y materion a ddisgrifir ym mharagraffau 8, 16 ac 18 o Atodlen 1; ac

(ff)disgrifiad o'r broses a luniwyd gan yr asiantaeth ar gyfer monitro ac adolygu ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan yr asiantaeth i'r defnyddiwr gwasanaeth (gan gynnwys lle bo'n briodol ymgynghori â chyrff eraill sy'n darparu gwasanaethau i'r defnyddiwr gwasanaeth).

(2Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)darparu copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth cyntaf i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)darparu copi o fersiwn gyfredol yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i bob defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth pan fydd yr asiantaeth yn trefnu gwasanaethau gofal personol ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth am y tro cyntaf; ac

(c)yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth os gofynnir amdanynt i'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth.

Adolygiad o'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth

6.—(1Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)am gyfnodau heb fod yn fwy na blwyddyn ac mewn ymgynghoriad â defnyddwyr gwasanaeth eraill, adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth a'u diwygio os yw'n briodol; a

(b)hysbysu'r defnyddwyr gwasanaeth a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.

(2Onid yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn bod y diwygiad yn effeithiol.

Dogfennau'r asiantaeth

7.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofrestriad mewn perthynas â'r asiantaeth o dan Ran II o'r Ddeddf yn cael ei nodi ym mhob gohebiaeth a dogfennau eraill sy'n cael eu paratoi mewn cysylltiad â busnes yr asiantaeth.

RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig

8.—(1Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth onid yw'n ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth oni bai bod y person —

(a)yn unigolyn sy'n rhedeg asiantaeth —

(i)mewn dull nad yw mewn partneriaeth gydag eraill a'i fod yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu

(ii)mewn partneriaeth gydag eraill a'i fod ef a phob un o'r partneriaid yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu

(b)yn gorff ac —

(i)bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a safle unigolyn yn y corff (unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel yr “unigolyn cyfrifol”) sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac sy'n gyfrifol am reoli'r asiantaeth; a

(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

(3Dyma'r gofynion —

(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

(b)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth yr asiantaeth; ac

(c)bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas â'r person.

(4Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth—

(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu

(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas â hwy.

Penodi rheolwr

9.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth—

(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r asiantaeth; a

(b)os yw'r darparydd cofrestredig —

(i)yn gorff;

(ii)yn rhedeg asiantaeth mewn partneriaeth;

(iii)heb fod yn berson ffit i reoli asiantaeth; neu

(iv)heb fod â gofal llawnamser dros yr asiantaeth o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod â gofal drosti.

(2Pan fydd —

(a)y darparydd cofrestredig, neu

(b)os oes penodiad wedi'i wneud o dan baragraff (1), y rheolwr cofrestredig,

yn cynnig bod, neu'n debyg o fod, neu wedi bod, yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu ragor, rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r asiantaeth tra bydd y darparydd neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn absennol.

(3Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r asiantaeth, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith —

(a)o enw'r person a benodwyd felly; a

(b)yn amodol ar gofrestru'r person, o'r dyddiad y mae effaith y penodiad i fod i ddod i rym.

(4Rhaid i'r person cofrestredig enwebu person i fod â gofal dros yr asiantaeth ar bob adeg y mae'r asiantaeth ar agor ar gyfer busnes a phan fydd y person cofrestredig yn absennol o'r fangre.

(5Ni cheir enwebu person at ddibenion paragraff (4) oni bai bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas ag ef ac wedi ei hysbysu i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac eithrio bod rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol ym mharagraffau 10 ac 11 o Atodlen 3 fod ar gael yn lle'r wybodaeth sy'n ofynnol ym mharagraff 8 o Atodlen 2.

Ffitrwydd y rheolwr

10.—(1Ni chaiff person reoli asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni bai —

(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

(b)o roi sylw i natur yr asiantaeth a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth —

(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r asiantaeth; a

(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r asiantaeth; ac

(c)bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 ar gael mewn perthynas â'r person.

Person cofrestredig — gofynion cyffredinol a hyfforddiant

11.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i natur a maint yr asiantaeth a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg yr asiantaeth neu (yn ôl y digwydd) ei rheoli â gofal, cymhwysedd a medr digonol.

(2Os yw'r darparydd cofrestredig —

(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu

(b)os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod gan yr unigolyn yr arbenigedd, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am redeg yr asiantaeth.

(3Os yw'r asiantaeth yn cael ei rhedeg gan unigolion mewn partneriaeth, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod un o'u plith yn ymgymryd â hyfforddiant fel sy'n ofynnol gan baragraff (2).

(4Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r arbenigedd, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r asiantaeth.

Hysbysu tramgwyddau

12.  Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith —

(a)o ddyddiad a man y collfarniad;

(b)o'r tramgwydd; ac

(c)o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.

RHAN IIIRHEDEG ASIANTAETHAU GOFAL CARTREF

Rhedeg yr asiantaeth

13.  Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod yr asiantaeth yn cael ei rhedeg, a bod y gofal personol a drefnir gan yr asiantaeth, yn cael eu darparu yn y fath fodd ag y bydd —

(a)yn sicrhau diogelwch y defnyddwyr gwasanaeth;

(b)yn diogelu'r defnyddwyr gwasanaeth rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso;

(c)yn hyrwyddo annibyniaeth y defnyddwyr gwasanaeth;

(ch)yn sicrhau bod eiddo'r defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys eu cartrefi, yn ddiogel ac yn saff;

(d)mewn modd sy'n parchu preifatrwydd, urddas a dymuniadau'r defnyddwyr gwasanaeth, a chyfrinachedd gwybodaeth ynglŷn â hwy; ac

(dd)gan roi sylw dyledus i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y defnyddwyr gwasanaeth ac unrhyw anabledd sydd ganddynt ac i'r ffordd y maent yn byw eu bywydau.

Trefniadau ar gyfer darparu gofal personol

14.—(1Rhaid i'r person cofrestredig, ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth, neu os nad yw ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth yn ymarferol, ar ôl ymgynghori â pherson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, baratoi cynllun ysgrifenedig (“y cynllun cyflenwi gwasanaeth”) a rhaid iddo —

(a)fod yn gyson ag unrhyw gynllun ar gyfer gofal y defnyddiwr gwasanaeth a baratowyd gan yr awdurdod lleol;

(b)pennu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth y mae gofal personol i'w ddarparu mewn perthynas â hwy;

(c)pennu sut y mae'r anghenion hynny i'w diwallu drwy ddarparu gofal personol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)trefnu bod cynllun cyflenwi gwasanaeth ar gael

(i)i'r defnyddiwr gwasanaeth; a

(ii)i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth yr ymgynghorwyd ag ef wrth ei baratoi neu ei ddiwygio;

(b)parhau i adolygu cynllun cyflenwi gwasanaeth y defnyddiwr gwasanaeth;

(c)os yw'n briodol, ac ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth, neu os nad yw'n ymarferol ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth, ar ôl ymgynghori â pherson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, diwygio cynllun cyflenwi gwasanaeth y defnyddiwr gwasanaeth; ac

(ch)hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o unrhyw ddiwygiad o'r fath.

(3Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, sicrhau bod y gofal personol y mae'r asiantaeth yn trefnu iddo gael ei ddarparu i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth yn diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth a bennir yn y cynllun cyflenwi gwasanaeth.

(4Rhaid i'r person cofrestredig, at ddibenion darparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth, ac i'r graddau y bo'n ymarferol —

(a)darganfod eu dymuniadau a'u teimladau a'u cymryd i ystyriaeth;

(b)darparu gwybodaeth gynhwysfawr a chynnig dewisiadau addas iddynt ynglŷn â'r gofal personol y gellid ei ddarparu iddynt; ac

(c)eu hannog a'u galluogi i wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofal personol hwnnw.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y trefniadau sy'n cael eu gwneud i ddarparu gofal personol i ddefnyddiwr gwasanaeth —

(a)yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar ôl honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall, gan sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd ar unwaith i leihau'r risg o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall;

(b)yn pennu o dan ba amgylchiadau y caiff gweithiwr gofal cartref roi neu helpu i roi meddyginiaeth y defnyddiwr gwasanaeth iddo a'r gweithdrefnau sydd i'w mabwysiadu o dan amgylchiadau o'r fath;

(c)yn cynnwys trefniadau addas i helpu'r defnyddiwr gwasanaeth gyda materion symudedd yn ei gartref, os oes angen; ac

(ch)yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan fydd gweithiwr gofal cartref yn gweithredu fel asiant ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth, neu'n cael arian oddi wrth ddefnyddiwr gwasanaeth.

(6Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cofnodi'r meddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio wrth ddarparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth ac ar gyfer trafod y meddyginiaethau hynny, eu cadw'n ddiogel, eu rhoi a'u gwaredu yn ddiogel.

(7Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas, gan gynnwys hyfforddi staff, i sicrhau bod gweithwyr gofal cartref yn gweithredu system weithio ddiogel, gan gynnwys mewn perthynas â chodi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.

(8Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas, drwy roi hyfforddiant i'r staff neu drwy fesurau eraill, i atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn perygl o gael niwed neu gael eu cam-drin.

(9Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw neu unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.

(10Ar unrhyw achlysur pan fydd defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei atal yn gorfforol gan berson sy'n gweithio fel gweithiwr gofal cartref at ddibenion yr asiantaeth, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.

Ffitrwydd y gweithwyr

15.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw berson yn gweithio fel gweithiwr gofal cartref at ddibenion yr asiantaeth oni bai —

(a)bod y person yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth;

(b)bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw; ac

(c)bod y person cofrestredig wedi'i fodloni ar seiliau rhesymol ynglŷn â dilysrwydd y tystlythyron y cyfeirir atynt ym mharagraff 5 o Atodlen 3 mewn perthynas â'r person hwnnw.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw berson nad yw'n weithiwr gofal cartref ond ei fod yn ofynnol iddo fel arall at ddibenion yr asiantaeth i ymweld â defnyddiwr gwasanaeth yn ei gartref yn gweithio i'r asiantaeth onid oes gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 a 9 o Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person.

(3Nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai —

(a)bod gan y person y cymwysterau, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni; a

(b)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni.

(4Ni fydd paragraffau 1(b) a (2), i'r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 4 o Atodlen 3, yn gymwys tan 31 Hydref 2004 mewn perthynas â gweithiwr a gafodd ei gyflenwi gan yr asiantaeth neu a weithiodd iddi ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 1 Mehefin 2003 hyd at 31 Mai 2004.

Staffio

16.—(1Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw i natur yr asiantaeth, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, sicrhau —

(a)bod nifer priodol o bersonau medrus a phrofiadol a chanddynt gymwysterau addas yn cael eu cyflogi at ddibenion yr asiantaeth bob amser;

(b)bod gwybodaeth a chyngor priodol yn cael eu rhoi i bersonau sy'n cael eu cyflogi at ddibenion yr asiantaeth, ac os ydynt yn gofyn yn rhesymol amdanynt, bod gwybodaeth a chyngor pellach yn cael eu rhoi ar gael iddynt mewn perthynas â'r canlynol —

(i)defnyddwyr gwasanaeth a'u hanghenion o ran gofal personol, a

(ii)darparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth;

(c)bod cymorth addas yn cael ei roi i bersonau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth, ac os ydynt yn gofyn yn rhesymol amdano, bod cymorth pellach ar gael iddynt mewn perthynas â darparu gofal personol i ddefnyddwyr gwasanaeth;

(ch)bod personau cymwys a chanddynt gymwysterau addas ar gael i'r staff ymgynghori â hwy ar unrhyw adeg yn ystod y dydd pan fydd person yn gweithio at ddibenion yr asiantaeth; a

(d)bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael parhad yn eu gofal sy'n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal personol lle cyflogir pobl, neu lle bo gweithwyr gofal cartref yn gweithio, ar sail dros dro at ddibenion yr asiantaeth.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob aelod o'r staff —

(a)yn cael hyfforddiant ac arfarniad sy'n briodol i'r gwaith y mae i'w gyflawni;

(b)yn cael cymorth addas, gan gynnwys amser i ffwrdd o'r gwaith, er mwyn ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith hwnnw;

(c)yn ymwybodol o'i gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau aelodau eraill o'r staff; ac

(ch)yn gorfod hysbysu'r person cofrestredig os yw wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig gymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael ag unrhyw agwedd ar berfformiad aelod o'r staff y cafwyd ei fod yn anfoddhaol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff a'r gweithwyr gofal cartref nad ydynt yn aelodau o'r staff, yn cael goruchwyliaeth briodol.

Y llawlyfr staff a'r cod ymddygiad

17.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi llawlyfr staff a darparu copi ohono i bob aelod o'r staff a phob gweithiwr gofal cartref nad yw'n aelod o'r staff.

(2Rhaid i'r llawlyfr a baratoir yn unol â pharagraff (1) gynnwys datganiad ynglŷn â'r canlynol—

(a)yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau'r staff a gweithwyr gofal cartref a'r camau disgyblu y gellir eu cymryd yn eu herbyn;

(b)rôl a chyfrifoldebau aelodau staff a gweithwyr gofal cartref;

(c)y gofynion ynglŷn â chadw cofnodion;

(ch)y gweithdrefnau recriwtio; a

(d)gofynion a chyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth

18.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y rhoddir i ddefnyddiwr gwasanaeth cyn darparu unrhyw ofal personol —

(a)enw'r gweithiwr gofal cartref sydd i weini ar y defnyddiwr gwasanaeth;

(b)manylion ynglŷn â'r ffordd y gall y defnyddiwr gwasanaeth gysylltu â'r person cofrestredig, neu berson sydd wedi'i enwebu i weithredu ar ei ran, ar bob adeg yn ystod y cyfnod y mae gofal personol yn cael ei ddarparu; ac

(c)y telerau a'r amodau y trefnir gofal personol odanynt.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) yn cael ei darparu hefyd, os yw'n briodol, i berthnasau neu ofalwyr y defnyddiwr gwasanaeth.

Dull adnabod gweithwyr

19.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob gweithiwr gofal cartref sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth yn cael ei gyfarwyddo bod rhaid iddo gyflwyno i'r defnyddiwr gwasanaeth adnabyddiaeth sy'n dangos enw, enw'r asiantaeth a ffotograff diweddar ohono tra bydd yn darparu gofal personol i ddefnyddiwr gwasanaeth.

Cofnodion

20.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn cael eu cadw a'u bod—

(a)yn cael eu cadw'n gyfoes, mewn cyflwr da, ac mewn modd diogel;

(b)ar gael ar bob adeg i'w harchwilio gan unrhyw berson a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i fynd i'r fangre ac i'w harchwilio; ac

(c)yn cael eu cadw am gyfnod heb fod yn llai na thair blynedd gan ddechrau ar ddyddiad yr eitem olaf ynddynt.

(2Yn ychwanegol at y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ymdrechu i sicrhau bod copi o gynllun cyflenwi gwasanaeth a chofnod manwl o'r gofal personol a ddarparwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu cadw yng nghartref y defnyddiwr gwasanaeth a'u bod yn cael eu cadw'n gyfoes, mewn cyflwr da ac mewn modd diogel.

Cwynion

21.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn (“y weithdrefn gwyno”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu ar ei ran.

(2Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwyno i bob defnyddiwr gwasanaeth ac, os bydd yn gofyn amdano, i unrhyw gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth.

(3Rhaid i'r copi o'r weithdrefn gwyno gynnwys —

(a)enw a chyfeiriad swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr asiantaeth.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y bydd ymchwiliad llawn i bob cwyn a wneir o dan y weithdrefn gwyno.

(5Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y gŵ yn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gŵ yn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(6Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod o bob cwyn, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i hynny a bydd gofynion rheoliad 20(1) yn gymwys i'r cofnod hwnnw.

(7Rhaid i'r person cofrestredig roi i'r Cynulliad Cenedlaethol pan fydd yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis a ddaeth i ben ar ddyddiad y cais a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i bob cwyn.

Barn y staff ynghylch rhedeg yr asiantaeth

22.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg yr asiantaeth i'r graddau y gall effeithio ar iechyd neu les y defnyddwyr gwasanaeth, neu'r gofal personol sy'n cael ei ddarparu iddynt.

(2Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi'r staff i roi gwybod i'r person cofrestredig neu, heb gyfeirio at yr asiantaeth, i'r Cynulliad Cenedlaethol am eu barn ar unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.

Adolygu ansawdd y gofal a ddarperir

23.—(1Rhaid i'r person cofrestredig gyflwyno a chynnal system ar gyfer adolygu bob hyn a hyn fel y bo'n briodol ansawdd y gwasanaeth a gofal personol y mae'r asiantaeth yn trefnu iddo gael ei ddarparu.

(2Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad y mae'r person cofrestredig wedi'i gynnal at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth.

(3Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr.

Ffitrwydd y fangre

24.  Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio mangre'r asiantaeth at ddibenion asiantaeth onid yw'n addas at ddibenion asiantaeth cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

Y sefyllfa ariannol

25.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg yr asiantaeth mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yr asiantaeth yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r person cofrestredig hefyd roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth arall y bydd yn gofyn amdano o dro i dro er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys —

(a)cyfrifon blynyddol yr asiantaeth, wedi'u hardystio gan gyfrifydd; a

(b)tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r atebolrwydd y gallai ei beri mewn perthynas â'r asiantaeth ynghylch marwolaeth, niwed, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.

Hysbysu digwyddiadau

26.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os bydd digwyddiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn digwydd a rhaid rhoi'r hysbysiad hwnnw o fewn 24 awr o roi gwybod i'r person cofrestredig fod digwyddiad o'r fath wedi digwydd, neu o'r amser y daeth y person hwnnw yn ymwybodol fel arall o'r ffaith bod digwyddiad o'r fath wedi digwydd.

(2Y digwyddiadau yw —

(a)unrhyw anaf difrifol y mae defnyddiwr gwasanaeth yn ei gael ym mangre'r asiantaeth neu tra bo gweithiwr gofal cartref yn gweini ar y defnyddiwr gwasanaeth at ddibenion darparu gofal personol iddo;

(b)unrhyw ddigwyddiad —

(i)sy'n digwydd ym mangre'r asiantaeth tra bo gweithiwr gofal cartref yn gweini ar y defnyddiwr gwasanaeth er mwyn darparu gofal personol iddo, a

(ii)y rhoddir adroddiad amdano i'r heddlu, neu y mae ymchwiliad iddo yn cael ei gynnal ganddynt; ac

(c)unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig o fewn 48 awr.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau ei bod yn ofynnol i'r personau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth roi gwybod i'r person cofrestredig ar unwaith fod unrhyw un o'r digwyddiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi digwydd.

Hysbysu absenoldeb

27.—(1Os yw —

(a)darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r asiantaeth; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

i fod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.

(2Ac eithrio mewn argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu —

(a)pa mor hir y bydd yr absenoldeb arfaethedig neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;

(b)y rheswm dros yr absenoldeb;

(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb;

(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb; a

(d)enw, cyfeiriad a chymwysterau unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 9.

(3Os yw'r absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi yn sgil argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(4Os bydd —

(a)darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r asiantaeth; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, ac na roddwyd hysbysiad o'r absenoldeb i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddfa honno, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(5Pan fydd y darparydd cofrestredig neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn dychwelyd i'r gwaith, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod wedi iddo ddychwelyd.

Hysbysu newidiadau

28.  Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny —

(a)os yw person heblaw'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r asiantaeth, neu'n bwriadu ei rhedeg neu ei rheoli;

(b)os yw person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r asiantaeth, neu'n bwriadu rhoi'r gorau i'w rhedeg neu i'w rheoli;

(c)pan yw'r person cofrestredig yn unigolyn, os yw'r unigolyn hwnnw yn newid ei enw neu'n bwriadu newid ei enw;

(ch)pan yw'r darparydd cofrestredig yn gorff —

(i)os yw enw neu gyfeiriad y corff wedi newid neu os bwriedir ei newid;

(ii)os yw unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd neu os bwriedir i hynny ddigwydd;

(iii)os oes unrhyw newid o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol, neu os bwriedir unrhyw newid o'r fath;

(iv)os oes unrhyw newid ym mherchenogaeth y corff, neu os bwriedir unrhyw newid o'r fath;

(d)pan yw darparydd cofrestredig yn unigolyn, os yw ymddiriedolwr mewn methdaliad wedi'i benodi ar ei gyfer, neu'n debygol o gael ei benodi, neu os oes cyfamod neu drefniant wedi'i wneud, neu'n debygol o gael ei wneud, gyda chredydwyr;

(dd)pan yw darparydd cofrestredig yn gwmni, os yw derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro wedi'i benodi, neu'n debygol o gael ei benodi;

(e)pan yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei fusnes yn cynnwys rhedeg asiantaeth, os yw derbynnydd neu reolwr wedi'i benodi, neu'n debygol o gael ei benodi, ar gyfer y bartneriaeth;

(f)os yw mangre'r asiantaeth wedi'i newid neu ei hestyn mewn ffordd arwyddocaol, neu os oes bwriad i'w newid neu i'w hestyn, neu os oes mangre ychwanegol wedi'i chaffael neu os oes bwriad i'w chaffael.

Marwolaeth person cofrestredig

29.—(1Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru ar gyfer asiantaeth, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i'r person cofrestredig sy'n goroesi hysbysu yn ysgrifenedig swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed o'r farwolaeth.

(2Os un person yn unig sydd wedi'i gofrestru ar gyfer asiantaeth, a bod y person hwnnw yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig —

(a)o'r farwolaeth yn ddi-oed; a

(b)o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau ynglŷn â rhedeg yr asiantaeth yn y dyfodol.

(3Caiff cynrychiolwyr personol y darparydd cofrestredig ymadawedig redeg yr asiantaeth heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer —

(a)am gyfnod heb fod yn hirach nag 28 diwrnod; a

(b)am unrhyw gyfnod pellach a benderfynnir yn unol â pharagraff (4).

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (3)(a) am unrhyw gyfnod pellach, heb fod yn hirach na blwyddyn, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno, a rhaid iddo hysbysu'r cynrychiolwyr personol yn ysgrifenedig o unrhyw benderfyniad o'r fath.

(5Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i gymryd gofal llawnamser o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth yn ystod unrhyw gyfnod pryd y byddant, yn unol â pharagraff (3), yn rhedeg yr asiantaeth, heb fod wedi'u cofrestru ar ei chyfer.

RHAN IVAMRYWIOL

Cydymffurfio â'r rheoliadau

30.  Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Tramgwyddau

31.—(1Bydd torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliadau 4 i 7, 9 ac 11 i 28 yn dramgwydd.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 20.

Pennu swyddfeydd priodol

32.  Caiff y Cynulliad bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â mangre'r asiantaeth sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

33.—(1Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(4) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2(1) —

(a)yn y lle priodol, mewnosoder —

“domiciliary care agency” has the same meaning as in the Act but subject to the exceptions in regulation 3(1) of the Domiciliary Care Agencies (Wales) Regulations 2004;

(b)yn y diffiniad o “appropriate office”, ar ôl paragraff (g) mewnosoder —

(h) in relation to a domiciliary care agency —

(i)if an office has been specified under regulation 32 of the Domiciliary Care Agencies (Wales) Regulations 2004 for the area in which the agency premises are situated, that office;

(ii)in any other case, any office of the National Assembly.;

(c)yn y diffiniad o “statement of purpose” mewnosoder —

(i)in relation to a domiciliary care agency, the written statement required to be compiled in relation to the agency in accordance with regulation 4 of the Domiciliary Care Agencies (Wales) Regulations 2004;.

(3Yn rheoliad 9 —

(a)ym mharagraff (e), ar ôl “section 4(8)(a)” mewnosoder “or (9)(a)”;

(b)ar ôl paragraff (i) mewnosoder —

(j)where the establishment or agency is being carried on by an individual in partnership with others, the names and addresses of all the partners..

(4Ym mharagraff 1 o Atodlen 1, mewnosoder —

(g)if he or she intends to carry on a domiciliary care agency in partnership with others, the information specified in the preceding sub-paragraphs of this paragraph in relation to each partner of the firm and the name and address of the partnership..

Diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002

34.—(1Diwygir Rheoliadau Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002(5) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn y paragraff o dan y pennawd “Arrangement of Regulations”, ychwaneger y canlynol ar y diwedd “15. Annual fee- domiciliary care agencies”.

(3Yn rheoliad 2(1)(a) —

(a)yn y diffiniad o “agency”, ar y diwedd ychwaneger “, or a domiciliary care agency”;

(b)yn y lle priodol, mewnosoder —

“domiciliary care agency” has the same meaning as in the Act but subject to the exceptions in regulation 3(1) of the Domiciliary Care Agencies (Wales) Regulations 2004;

(c)yn y lle priodol, mewnosoder —

“small domiciliary care agency” means a domiciliary care agency which arranges the provision of fewer than 200 hours of personal care per week or a domiciliary care agency which is solely an employment agency.

(4Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (3C), mewnosoder —

(3D) In the case of an application for registration in respect of a small domiciliary care agency —

(a)by a person mentioned in paragraph (1)(a), the registration fee shall be £550; and

(b)by a person mentioned in paragraph (1)(b), the registration fee shall be nil..

(5Ar ôl rheoliad 14 (Ffi Flynyddol — asiantaethau nyrsys), mewnosoder y rheoliad canlynol —

Annual fee- domiciliary care agencies

15.(1) The annual fee in respect of a domiciliary care agency is —

(a)in the case of a small domiciliary care agency, £375; and

(b)otherwise, £750.

(2) The annual fee in respect of a domiciliary care agency is to be payable by the registered provider on the first and subsequent anniversaries of the date on which his or her certificate of registration is issued..

Darpariaethau trosiannol

35.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bobl y mae'n ofynnol iddynt yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn fod yn gofrestredig o dan y Ddeddf ond nad oedd angen iddynt fod yn gofrestredig yn union cyn 1 Mawrth 2004.

(2Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth o'r fath, caiff person a oedd yn union cyn 20 Chwefror 2004 yn rhedeg neu'n rheoli asiantaeth barhau i redeg neu reoli'r asiantaeth heb fod yn gofrestredig o dan y Ddeddf —

(a)yn ystod y cyfnod o 3 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a

(b)os gwneir cais am gofrestriad yn ystod y cyfnod hwnnw, hyd nes y gwneir y penderfyniad terfynol ar y cais hwnnw neu y tynnir ef yn ôl.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “penderfyniad terfynol” yw'r dyddiad 28 diwrnod ar ôl caniatáu neu wrthod y cofrestriad ac, os caiff apêl ei gwneud, y dyddiad pan ddyfarnir yn derfynol ar yr apêl neu pan roddir y gorau iddi.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Chwefror 2004

Rheoliad 4(1)(ch)

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  A yw'r asiantaeth yn cael ei rhedeg gan unigolyn, gan bersonau mewn partneriaeth neu gan gorff.

2.  Natur y gwasanaethau y mae'r asiantaeth yn eu darparu.

3.  Yr ardal ddaearyddol y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau ynddi.

4.  Ystod cymwysterau'r gweithwyr gofal personol sydd i fod i ymweld â chartrefi defnyddwyr gwasanaeth.

5.  O dan ba amgylchiadau y caiff yr asiantaeth roi terfyn ar ddarparu gwasanaethau i ddefnyddiwr gwasanaeth.

6.  Y trefniadau i ganslo'r cyflenwad o weithiwr gofal cartref gan y defnyddiwr gwasanaeth neu'r asiantaeth.

7.  Ffioedd yr asiantaeth.

8.  Y trefniadau a fydd yn gymwys yn ystod salwch neu reswm arall dros absenoldeb gweithwyr gofal cartref sydd i fod i weini yng nghartrefi defnyddwyr gwasanaeth.

9.  Y gofynion ynglŷn â dalennau amser.

10.  Y weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol â rheoliad 21.

11.  Y gweithdrefnau i ddiogelu defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr gofal cartref.

12.  Y gweithdrefnau i ddiogelu eiddo'r defnyddwyr gwasanaeth.

13.  Y gweithdrefnau ar gyfer rhoi meddyginiaeth, neu helpu i'w rhoi.

14.  Y gofynion i amddiffyn iechyd a diogelwch gweithwyr gofal cartref.

15.  Y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd digwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 27 yn digwydd.

16.  Y trefniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth fynegi eu barn ynglŷn â'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan yr asiantaeth.

17.  Strwythur rheoli'r asiantaeth.

18.  A yw'r asiantaeth, ac os felly i ba raddau, yn darparu gwasanaethau drwy bersonau heblaw cyflogeion yr asiantaeth.

Rheoliadau 8(3)(c), 9(5), a 10(2)(c)

ATODLEN 2YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Å DARPARWYR A RHEOLWYR COFRESTREDIG ASIANTAETH A PHERSONAU SYDD WEDI'U HENWI I DDIRPRWYO AR GYFER PERSON COFRESTREDIG

1.  Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn.

2.  Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

3.  Naill ai—

(a)os oes angen tystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997(7) (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o'r Ddeddf honno, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 133(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno.

4.  Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf nad oedd wedi para llai na thri mis.

5.  Os yw person wedi gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rhesymau pam y daeth y swydd honno neu'r swyddogaeth honno i ben ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.

6.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.

7.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.

8.  Os unigolyn yw'r person, adroddiad gan ymarferydd meddygol cyffredinol ynghylch a yw'r person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol (yn ôl y digwydd) i redeg, rheoli neu fod â gofal dros asiantaeth.

9.  Manylion cofrestriad gydag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth ohono.

10.  Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.

Rheoliad 15(1)(b) a (2)

ATODLEN 3YR WYBODAETH A'R DDOGFENNAETH SYDD I FOD AR GAEL MEWN PERTHYNAS Å GWEITHWYR GOFAL CARTREF

1.  Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn.

2.  Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y perthynas agosaf.

3.  Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

4.  Naill ai —

(a)os yw'r swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 113(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno.

5.  Os yw'r person wedi gweithio ar unrhyw adeg yn y cyfnod o bum mlynedd cyn iddo gael ei gyflogi gan yr asiantaeth, dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys, os yw'r person wedi gweithio o'r blaen am fwy na thri mis mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, tystlythyr sy'n ymwneud â'r swydd ddiwethaf o'r fath a ddaliwyd.

6.  Os yw'r person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam daeth y swydd honno neu'r swyddogaeth honno i ben, ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.

7.  Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal personol i'r defnyddwyr gwasanaeth hynny y mae'r gweithiwr i ddarparu gofal personol iddynt.

8.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.

9.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth a manylion unrhyw gyflogaeth gyfredol heblaw at ddibenion yr asiantaeth.

10.  Datganiad gan y person ynglŷn â'i gyflwr o ran iechyd corfforol a meddyliol.

11.  Datganiad gan y darparydd cofrestredig, neu'r rheolwr cofrestredig, yn ôl y digwydd, fod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni.

12.  Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.

Rheoliad 20

ATODLEN 4Y COFNODION SYDD I'W CADW AR GYFER ARCHWILIAD

Cofnodion ariannol

1.  Cofnod o holl drafodion busnes yr asiantaeth.

2.  Bonion neu gopïau o'r holl dderbynebau a roddwyd.

3.  Manylion y ffioedd sy'n daladwy gan bob defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â darparu gofal personol.

4.  Cofnodion treth a chyfraniadau yswiriant gwladol sy'n ymwneud â phob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.

Cofnodion eraill

5.  Cofnod o'r holl wybodaeth a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cofrestru mewn perthynas â'r asiantaeth.

6.  Manylion pob honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall a wnaed yn erbyn un o gyflogeion yr asiantaeth, neu unrhyw weithiwr gofal cartref sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd yn sgil hynny.

7.  Manylion unrhyw ataliad corfforol a ddefnyddiwyd ar ddefnyddiwr gwasanaeth.

8.  Y cynllun cyflenwi gwasanaeth a luniwyd ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth a chofnod manwl o'r gofal personol a roddwyd iddo.

9.  Cofnod personél sy'n ymwneud â phob person sy'n cael ei gyflogi gan yr asiantaeth, neu sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys mewn perthynas ag asiantaethau gofal cartref (“asiantaethau”) yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, a fydd yn cofrestru personau sy'n rhedeg neu'n rheoli asiantaethau ac yn archwilio mangreoedd asiantaethau. Mae Rhan II yn darparu hefyd fod person sy'n rhedeg neu'n rheoli asiantaeth heb fod wedi'i gofrestru ar gyfer hynny yn cyflawni tramgwydd. Mae'r Ddeddf yn darparu hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru. O dan adran 13 o'r Ddeddf rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei fodloni bod yr asiantaeth yn cydymffurfio â'r rheoliadau ac y bydd yn parhau i wneud hynny os yw'n mynd i ganiatáu cais am gofrestriad.

Mae rheoliad 3 yn eithrio ymgymeriadau penodol o'r diffiniad o asiantaeth gofal cartref yn adran 4 o'r Ddeddf. Ymgymeriadau yw'r rhain sy'n cael eu rhedeg gan unigolyn yn unig a hwnnw'n unigolyn nad yw'n cael ei gyflogi gan gorff i redeg ymgymeriad, ac nad yw'n cyflogi neb arall at ddibenion yr ymgymeriad ac y mae'n trefnu gofal personol i lai na phedwar defnyddiwr gwasanaeth. Mae rheoliadau 4 i 6 yn ymwneud â datganiad o ddiben yr asiantaeth a'i harweiniad defnyddiwr gwasanaeth. Rhaid bod gan bob asiantaeth ddatganiad o ddiben ac arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i'r asiantaeth (rheoliadau 4 a 5). Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i'r datganiad o ddiben wrth wneud trefniadau staffio ar gyfer yr asiantaeth (rheoliad 16), a sicrhau bod mangre'r asiantaeth yn addas at ddibenion cyrraedd y nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben (rheoliad 24). Mae'r datganiad a'r arweiniad i'w cadw o dan sylw ac i'w diwygio os bydd angen (rheoliad 6).

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r ffaith bod asiantaeth wedi'i chofrestru gael ei nodi ar ei gohebiaeth.

Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglŷn â ffitrwydd personau sy'n rhedeg neu'n rheoli'r asiantaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol ynglŷn â'r materion a nodir yn atodlen 2 fod ar gael mewn perthynas â'r personau hyn. Os corff yw'r person sy'n rhedeg asiantaeth, rhaid iddo enwi person cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas ag ef (rheoliad 8). Mae rheoliad 9 yn darparu bod rhaid i reolwr gael ei benodi ar gyfer asiantaeth o dan amgylchiadau penodol, ac mae rheoliad 11 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg asiantaeth, a'r angen i bersonau cofrestredig ymgymryd â hyfforddiant priodol.

Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhedeg asiantaethau, ac yn benodol ynghylch y trefniadau ar gyfer darparu gofal personol (rheoliad 14), ffitrwydd gweithwyr (rheoliad 15), gofynion staffio (rheoliad 16), darparu llawlyfr a chod ymddygiad i'r staff a gwybodaeth i'r defnyddwyr gwasanaeth (rheoliadau 17 a 18), yr adnabyddiaeth sydd i'w gyflwyno gan weithwyr (rheoliad 19), cadw cofnodion (rheoliad 20), gweithdrefnau cwyno'r asiantaeth (rheoliad 21), holi barn y staff ynglŷn â'r ffordd y mae'r asiantaeth yn cael ei rhedeg (rheoliad 23) ac adolygu gweithrediadau asiantaeth (rheoliad 23).

Mae Rhan III hefyd yn gwneud darpariaeth ynglŷn â ffitrwydd mangreoedd asiantaethau (rheoliad 24), gosod gofynion ynglŷn â sefyllfa ariannol asiantaethau (rheoliad 25) ac yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol o ddigwyddiadau penodedig sy'n ymwneud ag asiantaeth (rheoliadau 26 i 29).

Mae Rhan IV o'r Rheoliadau yn ymdrin â materion amrywiol megis cyflawni rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau pan fydd gan asiantaeth fwy nag un person cofrestredig (rheoliad 30), tramgwyddau o dan y Rheoliadau (rheoliad 31), pennu swyddfeydd priodol y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau i roi hysbysiad (rheoliad 32), diwygiadau i'r Offerynnau Statudol ynglŷn â gwneud ceisiadau am gofrestriad a thalu ffioedd cofrestru i gymryd i ystyriaeth gymhwysiad y Ddeddf i asiantaethau (rheoliadau 33 a 34), ac mae'n gwneud darpariaeth drosiannol hefyd (rheoliad 35).

(1)

2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, sy'n cael ei ddiffinio yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru, fel y Cynulliad, ac mewn perthynas â Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Diffinnir ystyr “prescribed” a “regulations” yn adran 121(1) o'r Ddeddf; diffinnir “the Assembly” yn adran 5(b) o'r Ddeddf.

(2)

Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar gyfer y gofyniad i ymgynghori.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources