RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s guide”) yw'r wybodaeth ysgrifenedig a baratowyd yn unol â rheoliad 5(1);

ystyr “asiantaeth” (“agency”) yw asiantaeth gofal cartref;

mae i “asiantaeth gyflogi” yr un ystyr ag “employment agency” yn Neddf Asiantaethau Cyflogi 1973(1);

ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”), mewn perthynas â defnyddiwr gwasanaeth, yw person, heblaw'r person cofrestredig neu berson sy'n cael ei gyflogi at ddibenion yr asiantaeth, sydd â chydsyniad pendant neu oblygedig y defnyddiwr gwasanaeth, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles y defnyddiwr gwasanaeth;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas ag asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel y person sy'n rhedeg yr asiantaeth;

ystyr “darparydd gwasanaeth uniongyrchol” (“direct service provider”) yw darparydd sy'n cyflenwi gweithiwr gofal cartref a gyflogir gan y darparydd ac sy'n gweithredu ar ei ran ac o dan ei reolaeth;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 4(1);

ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw unrhyw berson y mae asiantaeth yn trefnu bod gofal personol yn cael ei ddarparu ar ei gyfer yng nghartref y person ei hun;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “gweithiwr gofal cartref” (“domiciliary care worker”) yw person —

(a)

a gyflogir gan yr asiantaeth i weithredu ar ran person arall ac o dan ei reolaeth;

(b)

a gyflwynir gan asiantaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth i'w gyflogi ganddo; neu

(c)

a gyflogir gan ddarparydd gwasanaeth uniongyrchol,

i ddarparu gofal personol yn eu cartrefi eu hunain i bersonau nad ydynt yn gallu ei ddarparu iddynt eu hunain heb gymorth oherwydd eu hafiechyd, eu llesgedd neu eu hanabledd;

ystyr “mangre'r asiantaeth” (“agency premises”) yw'r fangre y mae gweithgareddau asiantaeth yn cael eu rhedeg ohoni;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas ag asiantaeth, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu reolwr cofrestredig yr asiantaeth;

ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas ag unrhyw berson, yw —

(a)

priod y person;

(b)

unrhyw hynafiad uniongyrchol, disgynnydd uniongyrchol, brawd, chwaer, ewyrth, modryb, nai neu nith i'r person neu i briod y person;

(c)

priod unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn,

ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, ac mae cyfeiriadau at “priod” yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel petai ef neu hi yn ŵ r i'r person (neu yn ôl y digwydd) yn wraig i'r person;

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas ag asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr yr asiantaeth;

ystyr “staff” (“staff”) yw personau sy'n cael eu cyflogi gan y person cofrestredig at ddibenion yr asiantaeth;

ystyr “swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol” (“appropriate office of the National Assembly”) mewn perthynas ag asiantaeth—

(a)

os oes un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i phennu o dan reoliad 32 ar gyfer yr ardal y mae mangre'r asiantaeth wedi'i lleoli ynddi, yw'r swyddfa honno; neu

(b)

mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

rhaid dehongli “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yn unol â rheoliad 8(2)(a).

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —

(a)at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae'r termau “cyflogi” a “chyflogaeth” yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio a boed o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau neu mewn modd nad yw o dan gontract.

Ymgymeriadau sydd wedi'u heithrio a'u cymhwysaid i asiantaethau cyflogi

3.—(1At ddibenion y Ddeddf, mae ymgymeriad wedi'i eithrio o'r diffiniad o “domiciliary care agency” yn adran 4(3) o'r Ddeddf —

(a)os yw'n cael ei redeg gan unigolyn —

(i)sy'n ei redeg heblaw mewn partneriaeth ag eraill;

(ii)nad yw'n cael ei gyflogi gan gorff neu gymdeithas anghorfforedig i'w redeg; a

(iii)nad yw'n cyflogi unrhyw berson arall at ddibenion yr ymgymeriad;

(iv)sy'n darparu neu'n trefnu'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal personol i lai na phedwar defnyddiwr gwasanaeth;

(b)i'r graddau y mae'n trefnu ar gyfer darparu gofal personol ar gyfer personau sy'n cael eu lletya mewn cartref gofal y mae person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef o dan Ran II o'r Ddeddf;

(c)i'r graddau y mae'n trefnu ar gyfer darparu gofal personol drwy gytundeb gydag ymrwymiad a gofrestrwyd o dan y Ddeddf ac o dan y Rheoliadau hyn.

(2Ni fydd darpariaethau'r Rheoliadau hyn sydd ym mharagraff (3) yn gymwys i asiantaethau gofal cartref i'r graddau y maent hefyd yn asiantaethau cyflogi.

(3Y rheoliadau hynny yw 13 (Rhedeg yr asiantaeth), 14 (Y trefniadau ar gyfer darparu gofal personol), 16 (Staffio), 17 (Y llawlyfr staff a'r cod ymddygiad), ac 19 (Dull adnabod y gweithwyr).

Datganiad o ddiben

4.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r asiantaeth ddatganiad sydd wedi'i ysgrifennu ar bapur (a hwnnw'n ddatganiad y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y “datganiad o ddiben” a rhaid iddo gynnwys —

(a)datganiad o nodau ac amcanion yr asiantaeth;

(b)datganiad sy'n pennu'r gwasanaethau gofal personol y mae'r asiantaeth yn trefnu iddynt gael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth;

(c)datganiad o ran nifer a maint y contractau neu'r trefniadau eraill y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau odanynt;

(ch)datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod y datganiad o ddiben ar gael ym mangre'r asiantaeth i'w archwilio gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi at ddibenion yr asiantaeth.

Arweiniad defnyddiwr gwasanaeth

5.—(1Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth a rhaid iddo gynnwys —

(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben;

(b)disgrifiad o'r ardal ddaearyddol y mae'r asiantaeth yn trefnu bod gwasanaethau i'w darparu ar ei chyfer;

(c)y telerau a'r amodau ar gyfer y gofal personol sydd i'w ddarparu i'r defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys—

(i)swm y ffioedd a dull eu talu;

(ii)y materion a ddisgrifir ym mharagraffau 5, 6 a 9 o Atodlen 1;

(ch)disgrifiad o strwythur staff yr asiantaeth;

(d)crynodeb o weithdrefn gwyno'r asiantaeth sy'n ofynnol gan reoliad 21;

(dd)datganiad o gyfrifoldebau'r asiantaeth a'r defnyddiwr gwasanaeth o ran iechyd a diogelwch;

(e)manylion ar sut y gall y defnyddiwr gwasanaeth gysylltu â'r person cofrestredig, neu berson a benodwyd i weithredu ar ei ran, ar bob adeg yn ystod y cyfnod y darperir gofal personol;

(f)gwybodaeth ar y materion a ddisgrifir ym mharagraffau 8, 16 ac 18 o Atodlen 1; ac

(ff)disgrifiad o'r broses a luniwyd gan yr asiantaeth ar gyfer monitro ac adolygu ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan yr asiantaeth i'r defnyddiwr gwasanaeth (gan gynnwys lle bo'n briodol ymgynghori â chyrff eraill sy'n darparu gwasanaethau i'r defnyddiwr gwasanaeth).

(2Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)darparu copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth cyntaf i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)darparu copi o fersiwn gyfredol yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i bob defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth pan fydd yr asiantaeth yn trefnu gwasanaethau gofal personol ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth am y tro cyntaf; ac

(c)yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth os gofynnir amdanynt i'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth.

Adolygiad o'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth

6.—(1Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)am gyfnodau heb fod yn fwy na blwyddyn ac mewn ymgynghoriad â defnyddwyr gwasanaeth eraill, adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth a'u diwygio os yw'n briodol; a

(b)hysbysu'r defnyddwyr gwasanaeth a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.

(2Onid yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn bod y diwygiad yn effeithiol.

Dogfennau'r asiantaeth

7.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofrestriad mewn perthynas â'r asiantaeth o dan Ran II o'r Ddeddf yn cael ei nodi ym mhob gohebiaeth a dogfennau eraill sy'n cael eu paratoi mewn cysylltiad â busnes yr asiantaeth.