- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
13 Hydref 2004
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)
Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, ac yntau wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), dyddiedig Mai 2003 ynghylch ei adolygiad o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch, ynghyd â chynigion a ffurfiwyd gan y Comisiwn;
A Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi penderfynu gwneud y cynigion yn effeithiol heb eu haddasu;
A chan fod mwy na chwech wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
Yn awr, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2005, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, gyda'r eithriad bod rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2004.
2. Ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sydd wedi'i farcio “Map Ffiniau Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'i diwygiwyd(3).
3. Mae'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch wedi'i newid yn unol ag Erthygl 4.
4. Mae'r ffin rhwng y rhannau hynny o Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch, a ddangosir ar y map ffiniau, i gynnwys yr hyn a ddangosir ar y map ffiniau fel “Ffin Sirol Newydd/Ffin Newydd Sir wedi'i Chadw”, gyda'r canlyniad bod yr ardal o dir a ddangosir gyda llinellau rhesog du ar y map ffiniau i'w chynnwys yn Sir Powys yn lle ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
5. Newidir ffiniau ward Ystalyfera yng nghymuned Ystalyfera (sy'n ffurfio rhan o ardal etholiadol Ystalyfera), a ward Cwm-twrch yng nghymuned Ystradgynlais (yn ardal etholiadol Cwm-twrch) fel eu bod yn cyd-fynd â'r ffin fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4.
6. Mae ffiniau siroedd Gorllewin Morgannwg a Phowys, sef y siroedd sydd wedi'u cadw, wedi'u newid er mwyn iddynt gyd-fynd â'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Sue Essex
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
13 Hydref 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn gwneud cynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn effeithiol.
Bu i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) adrodd ym mis Mai 2003 ar arolwg a gynhaliwyd ganddo o ran o'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch. Yr oedd yr adroddiad yn argymell newidiadau i ran o'r ffin bresennol, ac effaith y rheini oedd y byddai rhan o gymuned Ystalyfera yn ardal Cwm-twrch (a ddangosir ar y map ffiniau gyda llinellau rhesog du, ac y cyfeirir ati yn y Gorchymyn) sydd yn awr ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, yn mynd yn rhan o gymuned Ystradgynlais yn Sir Powys. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud yr awgrymiadau hynny'n effeithiol, heb unrhyw addasiad iddynt.
Adneuwyd copïau o'r map ffiniau sy'n dangos y ffin newydd yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot, yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, a gellir edrych arnynt yn ystod oriau gwaith arferol.
Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1976”), y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith a gweithredu gorchmynion megis y gorchymyn hwn.
Mae newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol Ystalyfera a Chwm-twrch, i gyd-fynd â'r ffin gymunedol newydd, ac i'r ffin rhwng siroedd Gorllewin Morgannwg a Phowys, sydd wedi'u cadw, gan adlewyrchu'r newid i'r ffin rhwng y Fwrdeistref Sirol a'r Sir, sydd, yn eu tro, bellach yn rhan o'r siroedd hynny sydd wedi'u cadw.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.
O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 O.S. 1978/247.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: