Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2917 (Cy.256) (C.121)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB

Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

9 Tachwedd 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 60 i 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1):

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf ” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Cychwyn y Ddeddf

2.  Daw'r Ddeddf, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, i rym ar 10 Tachwedd 2004.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daw'r Gorchymyn hwn â darpariaethau Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 nad ydynt eisoes mewn grym i rym ar 10 Tachwedd 2004.