2004 Rhif 2917 (Cy.256) (C.121)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB

Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 60 i 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 20041:

Enwi, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004.

2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

3

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf ” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Cychwyn y Ddeddf2

Daw'r Ddeddf, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, i rym ar 10 Tachwedd 2004.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daw'r Gorchymyn hwn â darpariaethau Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 nad ydynt eisoes mewn grym i rym ar 10 Tachwedd 2004.