Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB
Wedi'i wneud
9 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 60 i 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf ” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
2. Daw'r Ddeddf, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, i rym ar 10 Tachwedd 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daw'r Gorchymyn hwn â darpariaethau Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 nad ydynt eisoes mewn grym i rym ar 10 Tachwedd 2004.