RHAN IIICAFFAEL A MEDDU AR DIR

Iawndal

Diystyru buddiannau a gwelliannau penodol22

1

Wrth asesu'r iawndal sy'n daladwy (os oes iawndal yn daladwy o gwbl) i unrhyw berson wrth gaffael unrhyw dir oddi arno o dan y Gorchymyn hwn, nid yw'r Tribiwnlys i ystyried—

a

unrhyw fuddiant mewn tir; neu

b

unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir oherwydd unrhyw adeilad a godwyd, unrhyw weithfeydd a weithredwyd neu unrhyw welliant neu addasiad a wnaed ar dir perthnasol,

os yw'r Tribiwnlys wedi'i fodloni nad oedd creu'r buddiant, codi'r adeilad, na gwella nac addasu'r gweithfeydd yn rhesymol angenrheidiol, ac y gwnaethpwyd hynny gyda'r bwriad o gael iawndal neu o gynyddu swm yr iawndal.

2

Ym mharagraff (1), ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw'r tir a gaffaelwyd oddi wrth y person o dan sylw neu unrhyw dir arall y mae'r person hwnnw yn gysylltiedig ag ef, neu yr oedd y person hwnnw'n gysylltiedig ag ef adeg codi'r adeilad, adeg gweithredu'r gweithfeydd neu adeg gwneud y gwelliant neu'r addasiad, boed hynny'n gysylltiad uniongyrchol neu'n un anuniongyrchol.